Search results

1129 - 1140 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1129 - 1140 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • GRIFFITHS, JOHN THOMAS (1824 - 1895), peiriannydd mwnawl Ganwyd ddydd Nadolig 1824 yn ardal Brynengan, plwyf Llanystumdwy, Sir Gaernarfon. Ymfudodd gyda'i rieni yn 1831 i Efrog Newydd, eithr gan fod colera yno symudodd y teulu ymhen blwyddyn i Minersville, Pa. Aeth y mab i weithio mewn glofa yn Minersville, ac wedyn yn Summit Hill, Carbon County. Bu'n helpu i sefydlu eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Wilkesbarre. Cyfansoddodd rai tonau ar gyfer
  • GRIFFITHS, MORRIS (fl. 1766-1805), cynghorwr Methodistaidd, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac emynydd Cawn ef yn gynghorwr gyda'r Methodistiaid ym Mhrendergast, ger Hwlffordd, Sir Benfro, yn 1766; ' lay preacher ' oedd pan alwodd yn Nhrefeca yn 1776. Bedyddiwyd ef yn 1779 yn Llangloffan, ac urddwyd ef yn un o weinidogion yr eglwys honno yn 1788. Bu farw yn 1805. Cymysgir ef yn aml â Morris Griffiths, Trefgarn. Cyhoeddodd Marwnad … John Davies, Pregethwr yr Efengylyn Sir Benbro, c. 1765
  • GRIFFITHS, MORRIS (1721 - 1769), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn 1721 ym Mhen-y-bryn, Llangybi, Sir Gaernarfon. Yr oedd yn ewythr (frawd tad) i Magdalen, priod Robert Jones, Rhoslan. Bu'n gwasanaethu William Prichard, Glasfryn Fawr, a dechreuodd gynghori. Cafodd ei erlid ar gychwyn ei yrfa. Derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin yn 1760, ac urddwyd ef yn weinidog Trefgarn a Rhosycaerau, Sir Benfro, yn 1757. Bu farw 17 Hydref 1769, a'i gladdu ym mynwent
  • GRIFFITHS, PETER HUGHES (1871 - 1937), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur Ganwyd 6 Awst 1871 yn Ffynnon Ynyd, Glanyfferi, Sir Gaerfyrddin, mab y Parch. John Griffiths ac Anna ei briod. Cafodd ei addysg ym Mharcyfelfed, Caerfyrddin, a bu mewn siop yn Aberpennar, Morgannwg. Dechreuodd bregethu yno a chafodd addysg bellach yn ysgol y Gwynfryn a Choleg Trefeca. Bu'n weinidog cynorthwyol yn eglwys Bresbyteraidd Saesneg Waterloo, Lerpwl, cyn ei ordeinio yn sasiwn Cwmbwrla
  • GRIFFITHS, PHILIP JONES (1936 - 2008), ffotograffydd meistroli digon o'r grefft i dynnu lluniau priodas a gweithio fel ffotograffydd yng ngwersyll gwyliau cyfagos Golden Sands. Ar ôl gadael yr ysgol daeth yn brentis fferyllydd yn Boots yn y Rhyl. Un o fanteision y swydd honno oedd y cyfle i fenthyg camerâu am y penwythnos. Honnai iddo ddysgu tynnu lluniau rhwng un ar bymtheg a deunaw oed: 'I got all that beautiful landscape stuff out of the way in North
  • GRIFFITHS, RICHARD (1756 - 1826), arloesydd glofeydd Ail fab a thrydydd (allan o naw) plentyn William Griffiths ac Elizabeth (Davies) o'r Gelli-fendigaid yn Llanwynno; bedyddiwyd ef 13 Ionawr 1756. Y mae ei gysylltiadau teuluol, uniongyrchol a thrwy briodasau, yn ddiddorol dros ben (gweler O. Morgan, yn y nodyn isod); yr oedd rhai o'i deulu'n noddwyr cynnar a selog i Fethodistiaeth yn Llanwynno a Phontypridd, a bu priodas ei chwaer ieuengaf ag EVAN
  • GRIFFITHS, ROBERT (1805 - 1883), peiriannydd a dyfeisydd Ganwyd 13 Rhagfyr 1805 yn fferm Llewenny, dyffryn Clwyd, sir Ddinbych. Yn llanc, prentisiwyd ef i saer. Yn ddiweddarach, cyflogwyd ef mewn gwaith peiriannau yn Birmingham. Yn 1845 aeth i Ffrainc, ac, yn gysylltiedig â M. Labruere, sefydlodd weithfeydd peiriannau yn Havre. Caeodd y rhain i lawr, fodd bynnag, ymhen tua thair blynedd. Ar ei ben ei hun, a hefyd mewn cysylltiad ag eraill, bu'n
  • GRIFFITHS, SAMUEL (1783 - 1860), gweinidog Annibynnol Ganwyd ym Mlaenbrwynen, plwyf Clydau, Sir Benfro. Codwyd ef i bregethu yn Nhrelech. Bu wrth ei grefft fel saer maen, a chan na chafodd fanteision addysg ymroes i'w ddiwyllio'i hun, a throes i gadw ysgol yn Llwynyrhwrdd. Gorfodwyd ef i ymuno â gwarchodlu'r sir o 1813 hyd ddarostyngiad Napoleon. Urddwyd ef yn weinidog yn Horeb, Ceredigion, yn 1818. Llafuriodd yn fawr yno i gadw ysgol a lledu cylch
  • GRIFFITHS, THOMAS (1645 - 1725) Delaware, gweinidog cyntaf eglwys Fedyddiedig y Welsh Tract Ganwyd yn Llanfyrnach, Sir Benfro, yn 1645, ond 'o blwyf Melinau ' yw'r disgrifiad ohono ef ac Elizabeth ei wraig yng nghofrestr eglwys Rhydwilym yn 1689. Nid oes dystiolaeth yn llyfr yr eglwys ei fedyddio yno, fel y dywed rhai ysgrifenwyr, yn 1677, nac ychwaith ei ordeinio yn un o gydweinidogion a chynorthwywyr William Jones, ond gwyddys mai ef a arweiniodd y fintai fechan o'r aelodau a ymfudodd
  • GRIFFITHS, VAVASOR (d. 1741), gweinidog ac athro gyda'r Annibynwyr wardeiniaid Bugeildy (Jonathan Williams, Hist. of Radnorshire, ail arg., 210) at ddibenion elusennol.
  • GRIFFITHS, WILLIAM (1898 - 1962), llyfrwerthwr Ganwyd 6 Mehefin 1898 yn Evanstown, Y Gilfach-goch, Morgannwg, yn fab i Joseph Griffiths a'i wraig Margaret Ann (ganwyd Williams). Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol elfennol Abercerdin, Evanstown, 1903-11. Bu'n gweithio am rai blynyddoedd fel glôwr ac yna aeth i fyw yn Llundain. Ymddiddorai mewn cerddoriaeth a bu'n ddisgybl yn Ysgol Gerdd y Guildhall, a chael hyfforddiant ar y ffidil gan athrawon
  • GRIFFITHS, WILLIAM (1788 - 1861), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 21 Rhagfyr 1788 ym Mlaenbrwynen, Clydau, Sir Benfro, mab Thomas a Mary Griffiths. Gorfodwyd ef i ymuno â'r milisia yn 1807; yn ystod ei wasanaeth milwrol cafodd argraffiadau crefyddol ac ymunodd â'r Methodistiaid. Rhyddhawyd ef o'r fyddin a bu'n cadw ysgol am dymor yn ei blwyf genedigol. Dechreuodd bregethu ym Mwlch-y-groes yn 1814. Yn 1817, ar gais arglwyddes Barham, anfonwyd ef gan y