Search results

1081 - 1092 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1081 - 1092 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • GRIFFITH, JOHN EDWARDS (1843 - 1933), achyddwr achau; yr oedd yn ei elfen, a'i gysylltiadau teulu yn gymorth dirfawr iddo. Yr oedd ei dad, Griffith Griffith o'r Taldrwst yn Llangristiolus, yn aelod o deulu Penhesgin yn Llanfaethlu, ei fam o waed Huwsiaid Plas Coch, ewythr iddo wedi priodi merch William Williams o Landegai, ef ei hun yn briod (yr eiltro) â merch y Glasfryn ger Llangybi, priodas a ddaeth ag ef i gyffwrdd clos â chlwstwr newydd o
  • GRIFFITH, JOHN OWEN (Ioan Arfon; 1828 - 1881), bardd a beirniad , Traethawd Ymarferol ar Lechfeini Sir Gaernarfon, 1864, ac yr oedd ef a'i gyfeillion 'Alfardd' a 'Gwilym Alltwen' ar bwyllgor cyntaf Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru a gyfarfu gyntaf 21 Mawrth 1874. Ymgynghorai 'Alfardd' ag ef cyn cyhoeddi ei ysgrifau i ymosod ar y barnwr Horsham Cox ac eraill a fynnai gau'r iaith Gymraeg allan o'r llysoedd gwladol. 'Ioan Arfon' a olygodd y gyfrol, Barddoniaeth Cynddelw, a
  • GRIFFITH, Syr JOHN PURSER (1848 - 1938), peiriannydd Ganwyd yng Nghaergybi 5 Hydref 1848, mab i'r Parch. William Griffith (1801 - 1881). Addysgwyd ef yn ysgol Forafaidd Fulneck a Choleg y Drindod, Dulyn (M.A.). Cafodd yrfa nodedig iawn fel peiriannydd yn Iwerddon (manylion yn Who was Who, 1929-49, a The Times, 22 Hydref 1938); urddwyd ef yn farchog yn 1911; ac yn 1922 etholwyd ef yn aelod o Senedd y Wladwriaeth Rydd Wyddelig. Bu farw 22 Hydref 1938
  • GRIFFITH, JOHN THOMAS (1845 - 1917), gweinidog gyda'r Bedyddwyr â'r enwad. Cyfieithodd gyfrolau Spinther ar Hanes y Bedyddwyr yng Nghymru yn Saesneg a'u cyflwyno i athrofa Crozer, America. Ysgrifennodd Morgan John Rhys yn Saesneg (1899) ac yn Gymraeg yn 1910; Hanes Eglwys Fedyddiedig Penyfai, 1916; Reminiscences, 1913, atgofion o'i fywyd yn America, Ebrill 1865-Ebrill 1908; Brief Biographical Sketches of Welsh Baptist Ministers in Pennsylvania, 1904, trigain
  • GRIFFITH, MORGAN WILLIAM (Pencerdd Mynwy; 1855 - 1925) Ganwyd ef ym Mhontypŵl, sir Fynwy, Awst 1855. Yr oedd ei dad yn arweinydd y canu yng nghapel yr Annibynwyr. Yn 1876 aeth i Goleg Aberystwyth am gwrs o addysg o dan Dr. Joseph Parry, a bu yno dair blynedd. Ef a Haydn Parry a gyfeiliai yn y perfformiad cyntaf o ' Blodwen ' (Dr. Joseph Parry). Yn 1879 penodwyd ef yn athro cerddoriaeth yn Ysgol Dr. Williams, Dolgellau, a gwasnaethodd yno am dros 40
  • GRIFFITH, MOSES (1747 - 1819), arlunydd mewn dyfrlliw Ganwyd 25 Mawrth 1747 yn Nhrygarn, ym mhlwyf Bryncroes, Sir Gaernarfon. Bedyddiwyd ef ym Motwnnog a chafodd ychydig addysg yn yr ysgol rad a gedwid yno gan y rheithor, y Parch. Richard Thomas. Cyflogwyd ef fel gwas gan Thomas Pennant y naturiaethwr yn 1769, ac ar ôl iddo sylweddoli ei allu fel arlunydd trefnodd Pennant iddo deithio'r wlad gydag ef er mwyn paratoi darluniau ar gyfer ei wahanol
  • GRIFFITH, OWEN (Giraldus; 1832 - 1896), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, golygydd ac awdur Ganwyd yn Tynybraich, Garn, Dolbenmaen, Sir Gaernarfon. Cafodd ei addysg yn hen ysgol Dolbenmaen o dan Owen Griffith, a daeth yn aelod yng nghapel y Bedyddwyr yn Horeb - gan gael ei fedyddio pan oedd yn 13 oed. Yn gynnar wedi hynny aeth yn brentis saer-coed-llongau ym Mhorthmadog, a bu'n gweithio yn iard y gwneuthurwyr llongau hyd 1862. Penderfynodd fyned i'r weinidogaeth, ac aeth i Goleg y
  • GRIFFITH, OWEN (Ywain Meirion, Owen Gospiol; 1803 - 1868), baledwr a chantwr pen ffair Pe gellid credu'n ffyddiog mai ef oedd yr 'Owen Meirion' a sgrifennodd yr ysgrif 'Hanes Tre'r Bala' yn Y Brython, 1860, 264-5, yna gellid barnu mai brodor o'r Bala ydoedd. Canai yn y ffeiriau ar hyd ac ar led Cymru - clywir amdano e.e. ym Machynlleth, Holywell, Llanfyllin, Llanrwst, a ffeiriau Sir Gaernarfon; ac yr oedd hefyd yn adnabyddus iawn yn y Deheudir. Gwisgai 'het silc' bob amser. Myn
  • GRIFFITH, OWEN (Eryr Eryri; 1839 - 1903), cerddor Ganwyd 12 Awst 1839 ym Mhenllyn ger Cwmyglo, Sir Gaernarfon, mab i Griffith Owen, cerddor da ac arweinydd seindorf Llanrug. Ymunodd Owen Griffith â chôr Waenfawr o dan arweiniad Pierce Williams, a chafodd hyfforddiant cerddorol gan yr arweinydd. Yn 1866 rhoddodd yr arweinydd y côr i fyny, a phenodwyd Owen Griffith yn olynydd iddo. Ymunodd y côr â gŵyl gerddorol Dirwestwyr Eryri, a chymerodd ran
  • GRIFFITH, PIRS (1568 - 1628), sgweier ac anturiwr Un o deulu'r Penrhyn, Sir Gaernarfon; mab Sir Rhys a fu farw yn 1580. Ar farw ei dad daeth o dan ofal llys y 'Wards'; golygai hynny daflu golwg fanwl ar diroedd a rhenti'r stad; a diwedd y cwbl oedd talu'n ôl i Pirs Griffith swm da o arian y gwnaeth swyddwyr y llys hwnnw gamgymeriad yn ei gylch. Dywedir ei fod yn ysgarmesoedd yr Armada yn 1588, ond beirniadol iawn yw J. K. Laughton yn y D.N.B. ar
  • GRIFFITH, RICHARD (Carneddog; 1861 - 1947), bardd, llenor, a newyddiadurwr Ganwyd 26 Hydref 1861 yn y Carneddi, plwyf Nantmor, heb fod ymhell o Feddgelert, yn fab i Morris a Mary Griffith. Yn y fferm lle y ganwyd ef ac y bu ei hynafiaid yn byw ynddi am genedlaethau, y treuliodd yntau ei oes hyd 1945 pryd y symudodd ef a'i wraig i dy eu mab yn Hinckley, swydd Gaerlŷr. Addysgwyd 'Carneddog' yn ysgolion William Ellis yn Nantmor a George Thomas ym Meddgelert. Ffermwr defaid
  • GRIFFITH, ROBERT (1847 - 1909), awdur Cerdd Dannau Ganwyd 1 Mawrth 1847 yn y Glog Ddu, Llangernyw, sir Ddinbych, mab John a Jane Griffith. Yn 1853 symudodd y teulu i fyw i ymyl Llanrwst. Eglwyswr oedd ei dad, a'r fam yn Fethodist. Cafodd ei addysg yn ysgol yr Eglwys, Llanrwst, ac wedi gadael yr ysgol bu'n gwasanaethu yng nghartref ' Glan Collen,' ac yn Eglwys-bach gyda'r Parch. John Rougler. Prentisiodd ei hun yn saer gyda Robert Roberts, Pandy