Search results

1045 - 1056 of 1816 for "david lloyd george"

1045 - 1056 of 1816 for "david lloyd george"

  • LLOYD, JOHN MEIRION (1913 - 1998), cenhadwr ac awdur Ganwyd J. Meirion Lloyd ar 4 Mai 1913 yng Nghorris, Meirionnydd, yr hynaf o chwech o blant i David Richard Lloyd, chwarelwr, a'i wraig Ruth (g. Ellis). Mynychodd ysgol gynradd Corris, ond penderfynodd ei dad ymfudo i Lundain a sefydlu busnes gwerthu llechi yn y Bow, gyda swyddfa yng Nghorris. Daeth y teulu'n aelodau ffyddlon o Gapel Cymraeg Mile End, ac yno y meithrinwyd Meirion Lloyd a'r plant i
  • LLOYD, JOHN MORGAN (1880 - 1960), cerddor Ganwyd 19 Awst 1880 yn y Pentre, Rhondda, Morgannwg, o deulu cerddorol a chrefyddol. Hanoedd John Lloyd, ei dad (dilledydd wrth ei alwedigaeth a fu'n byw yng Nglan-y-don, y Barri, ac a fuasai farw yn 1910) o gyff ym Maldwyn, ac ef oedd un o brif sefydlwyr eglwys Gymraeg Penuel (MC), y Barri. Brodor o Drefforest oedd ei fam, wyres i Benjamin Williams, gweinidog Saron, Pontypridd, a hi oedd
  • LLOYD, LEWIS (d. 1717), masnachwr - see LLOYD, CHARLES
  • LLOYD, LEWIS WILLIAM (1939 - 1997), hanesydd ac awdur Ganwyd 13 Mehefin 1939 yn Llundain, yn ail fab a thrydydd plentyn Lewis Pugh Lloyd a'i wraig Ruby Margaret Doris (née Haste). Hanai ei dad o Llanfair, ger Harlech, Meirionnydd, a'i fam o Llundain, er bod cysylltiadau Cymreig ganddi. Symudodd y teulu o Llundain i Llanfair yn 1953. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y sir, Willesden, ysgol sir Abermaw, Ysgol Ardudwy, Harlech; Coleg Prifysgol Cymru
  • LLOYD, LUDOVIC (fl. 1573-1610), gŵr llys, prydydd, ac awdur Pumed mab Oliver Lloyd, arglwydd maenor Marrington, Sir Amwythig, a Gwenllian, ferch Griffith ap Howel ab Ieuan Blayney, Gregynog, ac ŵyr i Ddafydd Lloyd Vychan, bwrdais etifeddol o Drallwng, a pherchen Nantcribba ym mhlwyf Ffordun (Forden), Sir Drefaldwyn. Nid yw blwyddyn ei eni yn hysbys, ond yr oedd yn ddigon hen yn 1587 i fod wedi ennill ffafr y frenhines Elisabeth a chael ganddi'r hawlfraint
  • LLOYD, MARGARET (1709 - 1762), un o aelodau gwreiddiol y gynulleidfa Forafaidd yn Llundain Ganwyd 27 Mai 1709, o deulu Llwydiaid Hendrewaelod a Llangystennin (cofysgrifau yn eglwys Llangystennin); bu ei brawd ROBERT LLOYD (1707 - 1753) yn rheithor Aber. Wedi ymdreiglo i Lundain, ymunodd â'r Wesleaid, ond yn 1740 daeth dan ddylanwad y Morafiaid, ac yn 1741 rhoes ei holl amser i fod yn ' Helper ' gyda hwy. Yn 1743, fe'i hanfonwyd i Yorkshire i arolygu'r gwaith Morafaidd ymhlith y
  • LLOYD, MEREDITH (fl. 1655-77), cyfreithiwr a hynafiaethydd Brodor o'r Trallwng a pherthynas i Robert Vaughan o Hengwrt. Yr oedd ef ei hun yn gasglwr llawysgrifau, a dywed awdur catalog llyfrgell Hengwrt yn y Cambrian Register, iii, ar sail papurau a llythyrau a gafodd gan ddisgynnydd i Lloyd o Faesyfed, mai ef oedd yn berchen ar lawysgrifau Thomas Wiliems o Drefriw ac iddo eu rhoddi i Robert Vaughan. Benthyciodd Vaughan ganddo hefyd y 'Vita Sancti Cadoci
  • LLOYD, MEREDYDD (fl. c. 1413-1456), beili - see GLYN
  • LLOYD, MORGAN (1820 - 1893), bargyfreithiwr a gwleidydd Ganwyd yng Nghefngellgwm, Trawsfynydd, 14 Gorffennaf 1820, mab Morris Lloyd, amaethwr. Dywedir fod y teulu yn gangen o deulu Llwydiaid Cynfal. Ar y cychwyn bwriadai Morgan Lloyd fod yn fesurydd tir, a bu'n cynorthwyo John Matthews i fapio plwyf Trawsfynydd yn 1839. Ar ôl hynny aeth i Goleg y Methodistiaid Calfinaidd, y Bala, ac oddi yno i Brifysgol Edinburgh. Penderfynodd fyned yn fargyfreithiwr
  • LLOYD, MORGAN - see LLWYD, MORGAN
  • LLOYD, OLIVER (1570/1 - 1625), deon Henffordd Ganwyd 1570 neu 1571; brodor o Sir Drefaldwyn, ac ewythr David Lloyd, deon Llanelwy. Ymaelododd yn Rhydychen, 25 Ionawr 1588/9, a daeth yn gymrawd o Coleg All Souls. Graddiodd yn B.C.L. yn 1597, a D.C.L. yn 1602, a gwnaed ef yn ddadleuydd y ' Doctors Commons ' yn 1609. Nid yw'n amlwg pa bryd nac ymha le y cychwynnodd ei yrfa yn yr eglwys, ond cafodd ddyrchafiad buan ynddi. Yn 1615 gwnaed ef yn
  • LLOYD, OWEN MORGAN (1910 - 1980), gweinidog a bardd Ganwyd O. M. Lloyd ar 14 Chwefror 1910 ym Mlaenau Ffestiniog, yn fab i Hugh Lloyd (1874-1947), llyfrgellydd, a'i wraig Sarah Ann (g. Morgans, 1875-1952). Cyn-chwarelwr oedd Hugh Lloyd a addysgodd ei hun drwy ddarllen a chyfrannu yn niwylliant crefyddol ac eisteddfodol y cyfnod i'r fath raddau nes iddo gael ei benodi yn Llyfrgellydd Blaenau Ffestiniog a symud y teulu i fyw i adeilad y Llyfrgell