Search results

985 - 996 of 1816 for "david lloyd george"

985 - 996 of 1816 for "david lloyd george"

  • LLOYD GEORGE, MEGAN ARFON - see LLOYD GEORGE
  • LLOYD GEORGE, RICHARD - see LLOYD GEORGE
  • LLOYD, CATHERINE, etifeddes - see WYNNE, John
  • LLOYD, CHARLES (d. 1698) Faesllwch, sgwïer a henuriad Annibynnol Un o amddiffynwyr enw da Vavasor Powell yn yr Examen et Purgamen, 1654, ac arwyddo'r Word for God, yr ymosodiad a wnaed ar Ddiffynwriaeth Cromwell yn 1655. Ym mis Awst 1672 wele Henry Maurice yn dod heibio iddo i gael sgwrs, ac yn 1675 dyry Maurice enw Lloyd i lawr fel un o henuriaid eglwys Annibynnol Brycheiniog. Ef oedd un o'r 'Dissenters,' fel Richard Edwards o Nanhoron a Jenkin Jones o
  • LLOYD, CHARLES (1766 - 1829), gweinidog ac ysgolhaig Undodaidd Ganwyd 18 Rhagfyr 1766 yn bedwerydd mab i David Lloyd, Brynllefrith, gweinidog Ariaidd Llwynrhydowen. Ar farw ei dad (1779) daeth dan ofal ei ewythr, John Lloyd, Coedlannau-fawr; aeth yn 1784 i academi 'Caerfyrddin', a gedwid ar y pryd yn Abertawe. Yn 1788, 'yn Ariad gweddol uchel,' galwyd ef i fugeilio eglwys Oat Street, Evesham (bu sawl Cymro 'n weinidog iddi); mynnai weinyddu'r Cymun heb ei
  • LLOYD, CHARLES FRANCIS (1852 - 1917), cerddor Ganwyd 7 Hydref 1852 yng Nghaerlleon, yn fab John Ambrose Lloyd. Cafodd ei addysg gerddorol ar yr aelwyd, a chanai alto yng nghorau ei dad. Yn 13 oed aeth i ysgol J. D. Jones, Rhuthyn, a chafodd wersi ar y piano gan W. Argent yno. Oddi yno aeth i ysgol yn Tattenhall ger Caerlleon am ddwy flynedd, a chwaraeai yr organ yn eglwys y plwyf yn absenoldeb yr organydd. Yn 16 oed penodwyd ef yn organydd
  • LLOYD, DANIEL LEWIS (1843 - 1899), ysgolfeistr ac esgob Ganwyd yn y Fron, Llanarth, Sir Aberteifi, 23 Tachwedd 1843, mab John Lloyd. Tua 16 oed aeth i ysgol ramadeg Llanbedr-pont-Steffan, ac yn 1864 enillodd ysgoloriaeth yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Graddiodd yn B.A. yn 1867 â chlod yn yr ail ddosbarth yn y clasuron, a chymryd ei M.A. yn 1871. Urddwyd ef yn ddiacon yn 1867 ac yn offeiriad yn 1869. Bu'n gurad Dolgellau ac yn brifathro'r ysgol ramadeg
  • LLOYD, DAVID (1752 - 1838), clerigwr, bardd, a cherddor Ganwyd 12 Mai 1752, yng Nghroes Cynon, Llanbister, sir Faesyfed, unig fab Thomas Lloyd, Trevodich, a Mary, merch David James, Croes Cynon Fach. Gweithiodd am beth amser ar dyddyn ei dad, a didrefn fu ei ddyddiau ysgol. Eto llwyddodd i ennill gwybodaeth o'r Lladin ac o fathemateg, a dysgodd Roeg ar ei ben ei hun. Yn y flwyddyn 1771 agorodd ysgol fechan yn Llanbister. Yno ymbaratodd ar gyfer urddau
  • LLOYD, DAVID (1635 - 1692), bywgraffydd Ganwyd 28 Medi, 1635, ym Mhant Mawr, Trawsfynydd, Sir Feirionnydd, mab Hugh Lloyd. Addysgwyd ef yn ysgol rydd Rhuthyn; aeth i Goleg Merton, Rhydychen, fel ' servitor ' yn 1653, a graddiodd yn B.A. o Goleg Oriel, Ionawr 1656-7. Gwnaed ef yn rheithor Ibstone, swydd Rhydychen, yn 1658, a derbyniodd y radd o M.A. yn 1659. Yr un flwyddyn ymddeolodd o'i reithoraeth ac aeth i Lundain i wasnaethu fel
  • LLOYD, DAVID (1724 - 1779), gweinidog Ariaidd Ganwyd yng Nghoedlannau-fawr, Llanwenog. Hanoedd ei dad o David ap Llewelyn Lloyd, arglwydd Castell Hywel, Ceredigion, yntau o linach yr arglwydd Rhys. Ei fam oedd Hester, chwaer Jenkin Jones (1700? - 1742), Llwynrhydowen. Bu yn ysgol John Evans (1680 - 1741), Llanwenog. Ni bu yn academi Caerfyrddin, ond dywed Thomas Morgan iddo fod yn ysgol Samuel Thomas, Caerfyrddin, yn 1743, gydag ef (Cofiadur
  • LLOYD, DAVID (d. 1747?), clerigwr a chyfieithydd Ordeiniwyd ef yn ddiacon 27 Mai 1711, ac yn offeiriad 15 Mehefin 1712, gan esgob Llandaf. Disgrifir ef fel myfyriwr o Goleg Iesu, Rhydychen, y tro cyntaf, ac fel B.A. o'r coleg hwnnw ar yr ail achlysur (Llandaff Subscription Books). Yr unig berson o'r enw hwn a raddiodd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 1711/12, oedd David Lloyde, mab Phillip Lloyde, o Dyddewi, Sir Benfro, a raddiodd yn B.A. 24 Mawrth
  • LLOYD, DAVID (1597 - 1663), deon Llanelwy Ganwyd yn 1597 ym Mherthlwyd, Llanidloes, Sir Drefaldwyn, mab David Lloyd. Ymaelododd yn Rhydychen o Hart Hall yn 1612, a graddiodd yn B.A. yn 1615; ymgorfforodd yng Nghaergrawnt y flwyddyn ddilynol. Daeth yn gymrawd o Goleg All Souls, Rhydychen, yn 1618, B.C.L., 1622, a D.C.L., 1628. Penodwyd ef yn gaplan i 6ed iarll Derby yn 1639. Wedi bod am ysbaid yn rheithor Trefdraeth, sir Fôn, sefydlwyd ef