Search results

949 - 960 of 984 for "Mawrth"

949 - 960 of 984 for "Mawrth"

  • WILLIAMS, ROWLAND (1779 - 1854), clerigwr Ganwyd yn Nhy'nypwll, Mallwyd, Meirionnydd, a'i fedyddio 27 Mawrth 1779, mab Richard Williams a Catherine ei wraig. Cafodd ei addysg mewn ysgol a gynhelid yn eglwys Mallwyd, yna ym Metws-yn-Rhos gyda Peter Williams, ficer y plwyf, ac yna yn ysgol Rhuthyn. Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Iesu, 24 Mai 1798, a graddio'n B.A. yn 1802 ac M.A. yn 1805. Cafodd urddau diacon yn 1802 ac
  • WILLIAMS, Syr TREVOR (c. 1623 - 1692) Llangibby, gwleidyddwr parodd afiechyd iddo fod yn ddi-ddefnydd fel aelod, a bu farw yn ystod sesiwn y Senedd (Mawrth 1642). Gwnaethpwyd ei fab, Trevor, yn gomisiynwr cad-ddarpar yn sir Fynwy pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan ac yn farwnig ar 14 Medi 1642. Cymerwyd ef yn garcharor gan y Rowndiaid yn Highnam ar 25 Mawrth 1643, eithr wedi iddo gael ei ryddhau trefnodd warchodlu o 60 o ddynion i amddiffyn hen gastell
  • WILLIAMS, WALDO GORONWY (1904 - 1971), bardd a heddychwr yn ei waith fel athro. Roedd y bardd wedi'i gymell cyn hynny gan bryderon am ei ddyfodol i wneud cais llwyddiannus am swydd yn Ysgol Botwnnog yn Llŷn, a dechreuodd ar ei waith yno ar 1 Mawrth. Gwaethygodd iechyd ei wraig ar ôl y symud a bu farw o'r ddarfodedigaeth ar 1 Mehefin 1943. Bwriwyd y bardd i drallod dwfn gan y brofedigaeth hon, a gadawodd Lŷn am Loegr, gan weithio mewn ysgolion yn
  • WILLIAMS, WATKIN HEZEKIAH (Watcyn Wyn; 1844 - 1905), athro, bardd, a phregethwr Mab Hezeciah Williams, a ffermiai Cwmgarw Ganol ger Brynaman wrth odre'r Mynydd Du, ac Ann, merch David Williams, y Ddôl-gam, Cwmllynfell. Yng Nghwmgarw y magwyd ef er mai yn y Ddôlgam y cafodd ei eni (ar 7 Mawrth 1844). Cawsai ychydig fisoedd o ysgol cyn iddo ddechrau gweithio dan y ddaear yn 8 oed. Bu dan ysgolfeistri lleol am ryw fis yn awr ac yn y man ar ôl hynny a dysgodd lawer gan ei
  • WILLIAMS, WILLIAM (1738 - 1817) Llandygái, llenor, hynafiaethydd, a swyddog pwysig ar gloddfa lechi Cae-braich-y-cafn Ganwyd 1 Mawrth 1738 yn Nhrefdraeth, Môn, o rieni tlodion, a main iawn oedd ei fyd yn ei ddyddiau cynnar. Bu'n wehydd dros dro, ac yna'n brentis cyfrwywr yn Llannerch-y-medd am saith mlynedd. Daeth yn un o ddisgyblion prydyddol Huw Hughes y ' Bardd Coch ', ac yn bur gyfeillgar â Robert Hughes, sef ' Robin Ddu yr ail ', a thrwy'r cyfeillgarwch hwnnw y daeth yn aelod gohebol o Gymdeithas
  • WILLIAMS, WILLIAM (1781 - 1840), gweinidog gyda'r Annibynwyr 17 Mawrth, 1840 a chladdwyd ef ym mynwent y Wern. Yn gynnar ar ei oes troesai o fod yn uchel-Galfin at Galfiniaeth gymedrol gan ddilyn John Roberts, Llanbrynmair, ac eraill o'r Annibynwyr, a cheir ganddo erthygl yn y 'Llyfr Glas' a gyhoeddwyd gan y gŵr hwnnw ac a greodd gryn gythrwfl ar y pryd. Pregethwr oedd ef yn anad dim arall ac fel pregethwr yr enillodd le mor amlwg ym mywyd Cymru. Cysylltir
  • WILLIAMS, WILLIAM (1788 - 1865), aelod seneddol chadwodd y sedd honno hyd y bu farw yn Regent's Park, Llundain, 28 Ebrill 1865. Ar 10 Mawrth 1846 cynigiodd yn Nhy'r Cyffredin bod ymchwil i'w wneuthur - 'into the state of Education in the Principality of Wales, especially into the means afforded to the labouring classes of acquiring a knowledge of the English tongue.' Dyma'r cynigiad a roes fod i'r comisiwn addysg y galwyd ei adroddiad yn 'Brad y
  • WILLIAMS, WILLIAM (Carw Coch; 1808 - 1872), eisteddfodwr a llenor Ganwyd 6 Mawrth 1808 gerllaw Aberpergwm yn nyffryn Nedd, yn fab i Noah a Joan Williams, aelodau o gynulleidfa Undodaidd Blaen Gwrach. Symudodd yn ifanc i Dredegar, ac oddi yno i Lwydcoed, Aberdâr lle y priododd (1832) â merch o un o hen deuluoedd yr ardal. Yn 1837, cododd y gwesty yn Nhrecynon a elwid 'y Stag' - dyna'r eglurhad ar ei ffugenw - ac yno y bu weddill ei fywyd. Yr oedd yn wleidydd
  • WILLIAMS, WILLIAM (Caledfryn; 1801 - 1869), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a beirniad ; Aldersgate Street, Llundain, 1848-50; Llanrwst, 1850-56; Beulah ger Bangor, 1856-7; a Groeswen, o 1857 hyd ei farw 23 Mawrth 1869. Priododd dair gwaith a ganwyd iddo un mab, William ('ap Caledfryn'), a merch, Margaret Mary. Urddwyd 'Caledfryn' yn fardd yng Nghaernarfon, Medi 1821, ac enillodd y gadair am ei awdl ar 'Drylliad y Rothesay Castle' yn Biwmares 1832. Cyhoeddodd Cyfarwyddiadur i Ddarllen ac
  • WILLIAMS, WILLIAM (Ap Caledfryn; 1837 - 1915), arlunydd Mab William Williams, ('Caledfryn'). Ganwyd yn Nghaernarfon, 24 Mawrth 1837, a treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yng Nghymru. Derbyniodd ei wers gyntaf mewn arlunio pan yn chwe mlwydd oed gan yr arlunydd Cymreig Hugh Hughes. Priododd â Mary Daniel, merch Herbert Daniel, gweinidog yr Annibynwyr yng Nghefn-y-crib, a bu iddynt fab a merch, a'r ddau, fel eu tad, yn ymddiddori mewn cerddoriaeth. Ymysg ei
  • WILLIAMS, WILLIAM EWART (1894 - 1966), ffisegydd a dyfeisydd Ganwyd 3 Mawrth 1894 ym Modgarad, Rhostryfan, Caernarfon, mab hynaf Ellis William Williams (goruchwyliwr chwarel y Cilgwyn) a'i wraig Jane, Llys Twrog, y Fron. Wedi mynychu ysgolion lleol ymaelododd yng Ngholeg Owens, Prifysgol Manceinion lle y cafodd Rutherford, Bohr a Darwin yn athrawon. Graddiodd gydag anrhydedd mewn ffiseg yn 1915 ac ennill M.Sc. (Manc.) yn 1926. Wedi hyfforddiant gyda Barr
  • WILLIAMS, WILLIAM LLEWELYN (1867 - 1922), aelod seneddol, cyfreithiwr, ac awdur Ganwyd 10 Mawrth 1867 yn Brownhill, Llansadwrn, dyffryn Tywi (ar 15 Medi 1938 dadorchuddiwyd cofgolofn iddo o flaen y tŷ), yn ail fab i Morgan Williams a'i wraig Sarah (Davies). Yr oedd ei deulu'n dda eu byd, ac yn Annibynwyr o hil gerdd; ei daid, Morgan Williams, yn ddiacon yng Nghapel Isaac cyn symud o'r Ffrwd-wen (Llandeilo) i Brownhill, a dau o frodyr ei dad yn weinidogion, sef JOHN WILLIAMS