Search results

853 - 864 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

853 - 864 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • EVANS, JOHN (1768 - c. 1812), awdur llyfrau ar deithiau yng Nghymru Efallai ei fod yn fab Benjamin Evans, offeiriad yn Lydney, swydd Gloster. (Fe'i cymysgir weithiau â John Evans, ysgolfeistr ym Mryste, awdur llyfrau ynglyn a Bryste, a thraethodau athronyddol.) Cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (ymaelodi 1789, B.A., 1792). Ychydig a wyddys am John Evans ar wahân i'w weithiau - pedwar llyfr yn disgrifio Cymru : (a) A Tour through part of North Wales in
  • EVANS, JOHN (1723 - 1795), gwneuthurwr mapiau , Llandysilio, a chyflwynwyd ef i Syr Watkin Williams Wynn. Paratodd Evans argraffiad ar raddfa lai - tua thair milltir i'r fodfedd; ysgythrwyd hwn hefyd gan Baugh eithr nis cyhoeddwyd hyd 1797, ddwy flynedd wedi marw'r gwneuthurwr. Yr oedd i'r mapiau hyn, yn eu dydd, deilyngdod anghyffredin oherwydd eu hymddangosiad deniadol a nifer a chywirdeb y manylion a gynhwysid ynddynt. Ailgyhoeddwyd y mapiau gan ei
  • EVANS, JOHN (1756 - 1846), meddyg toreithiog, a ddaeth yn archddiacon Westmorland; Thomas Evans (1791 - 1853), swyddog yn y llynges, a fu'n brwydro yn y rhyfeloedd yn erbyn Napoleon; a William Edward Evans (1801 - 1869), clerigwr, a ddaeth yn ganon yn Henffordd. Adroddir gyrfa'r tri yn Williams, Montgomeryshire worthies, a chafodd Robert Wilson Evans le hefyd yn y D.N.B.
  • EVANS, JOHN (1796 - 1861), ysgolfeistr Ganwyd 7 Chwefror 1796, ym Mlaen Plwyf, plwyf Llanychaiarn, Sir Aberteifi. Gwehydd oedd ei dad a dilynodd yntau yr un alwedigaeth nes blino ohono ar y gwaith a cherdded i Lundain pan oedd yn 17 oed i chwilio am waith mwy wrth ei fodd. Yno cynhaliodd ei hun drwy werthu llyfrau o ddrws i ddrws. Daeth o dan adain David David, cydwladwr a thiwniwr offer cerdd, a thrwy ei gymorth ef gosodwyd Evans
  • EVANS, JOHN (d. 1784), cynghorwr Methodistaidd Brodor o Gil-y-cwm, Sir Gaerfyrddin. Teithiodd lawer yn y Gogledd a'r De, a chafodd ei erlid mewn rhai mannau. Yr oedd ganddo ddawn felys, ond taranai hefyd ar adegau. Enwir ' John Evan of Killycomb ' yn ewyllys Morgan Rhys, yr emynydd, 1779. Canodd William Williams, Pantycelyn, farwnad fer iddo, ac yn ôl honno fe'i claddwyd yng Nghil-y-cwm ym Mawrth 1784. Gwnaed casgliad i gynorthwyo ei weddw
  • EVANS, JOHN (1767 - 1827), gweinidog gyda'r Bedyddwyr a phennaeth ysgol ramadeg yn Islington arddull seml ac urddasol at bob dosbarth. Ymddiddorai mewn llenydda. Daeth oddeutu 40 o weithiau o'i ddwylo; y pennaf yw An Address to Young People on the Necessity and Importance of Religion; A Sketch of the Denominations of the Christian World, 1795; Memoirs of the Life and Writings of William Richards, LL.D., 1819. Hefyd golygodd Cambro-British Biography, 1820, a The Welsh Nonconformist Memorial.
  • EVANS, JOHN (1858 - 1963), gweinidog (A) ac athro yn y Coleg Coffa, Aberhonddu The history of Congregationalism in Breconshire and Radnorshire (gol. Joseph Jones; 1912) ac yr oedd ymhlith y cyfranwyr at Llyfr Gwasanaeth yr Annibynwyr (1926). Cyfrannai hefyd i Y Tyst ac Y Dysgedydd. Yr oedd yn gadeirydd bwrdd llywodraethwyr ysgol ramadeg Aberhonddu, 1921-31. Trwy ei ffydd dawel a mwynder ei bersonoliaeth cafodd ei ystyried yn 'ŵr Duw' di-uchelgais a digenfigen y coleg. Gwyddai
  • EVANS, JOHN (1815 - 1891), archddiacon Meirionnydd Ganwyd 4 Mawrth 1815 yn Tynycoed, Abererch, mab John Evans, Tanycoed, Llanfair, Meirionnydd, ac Ann, merch John Owen, Crafnant, Llanfair Harlech. Yr oedd ei fam yn ddisgynnydd o Edmwnd Prys. Addysgwyd ef yn ysgol Biwmares. Aeth i swyddfa'r cyfreithiwr David Williams, aelod seneddol dros sir Feirionnydd. Yr oedd ei wraig, Mary, o Saethon, yn gyfnither i David Williams yr aelod seneddol. Oddi yno i
  • EVANS, JOHN (1840 - 1897) Eglwys Bach, gweinidog Wesleaidd Ganwyd 28 Medi 1840, yn Tŷ Du, Eglwysbach, sir Ddinbych. Addysgwyd ef yn yr ysgol genedlaethol leol, ac yna gweithiodd ar fferm ei dad nes mynd i'r weinidogaeth. Dechreuodd bregethu yn 17 oed, ac ymhen ychydig fisoedd yr oedd pob capel yr âi iddo yn orlawn, ac yn aml fwy o'r tu allan nag o'r tu mewn. Yn ei flynyddoedd cyntaf bu amryw droeon chwithig wrth iddo geisio ymwthio drwy'r dyrfa i'r capel
  • EVANS, JOHN (1651? - 1724), esgob Bangor, ac wedyn esgob Mydd (Meath) Dywed Browne Willis (yn 1721, pan oedd Evans eto'n fyw) mai yn y Plas Du, Llanarmon (Eifionydd) y ganwyd ef. Nid oedd, wrth gwrs, yn un o Oweniaid gwreiddiol y Plas Du (ymddengys dau o'r rheini yn y Geiriadur hwn), ac nid yw'n eglur o ble y daeth ei deulu. Dywed ' Eben Fardd ' (Y Brython, iv, 422) mai o Elernion yng ngogledd plwyf Llanaelhaiarn, a ' Myrddin Fardd ' (Enwogion Sir Gaernarfon, 74
  • EVANS, JOHN (1723 - 1817), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd fywyd yn ' tallow-chandler ' (yn ôl gweithred Capel yr Adwy yn 1804). Yn 1744, priododd â Margaret, ferch y bardd Morys ap Rhobert o Lanuwchllyn; merch iddynt oedd gwraig William Edwards (1773 - 1853), yr emynydd. Ymaelododd yn seiat newydd y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala yn 1745, ac yn gynnar iawn dechreuodd deithio i gynghori yn yr ardaloedd oddi amgylch, ond nid cyn 1765 y cydnabyddwyd ef yn
  • EVANS, JOHN (d. 1779?), clerigwr efengylaidd, cyfieithydd, ac esboniwr Ganwyd yn y Meini Gwynion, Llanbadarn Odwyn. Aeth i Rydychen a graddiodd (1726?). Ei guradiaeth gyntaf oedd Llanarth, Sir Aberteifi; oddi yno aeth i Loegr i'w adnabod mwy fel ' ffeirad Portsmouth' ('Plymouth' i wyr Ceredigion). Cymwynasodd Gymru drwy gyfieithu llyfrau defosiynol i'r Gymraeg. Rhoddir iddo'r credyd o drosi gwaith Jabez Earle, gweinidog Long Acre, sef Meditations on the Sacrament