Search results

781 - 792 of 990 for "Mawrth"

781 - 792 of 990 for "Mawrth"

  • ROBERTS, JOHN ASKEW (1826 - 1884), hynafiaethydd, awdur, a newyddiadurwr Ganwyd 27 Mawrth 1826 yng Nghroesoswallt, mab Samuel Roberts, llyfrwerthwr. Yn 1848 yr oedd yn ysgrifennu i Oswald's Well, cylchgrawn a ddilynwyd yn 1849 gan yr Oswestry Advertiser, a gychwynnwyd gan Askew Roberts yn fisolyn, ac wedyn yn wythnosolyn, ac y bu'r cychwynnydd mewn cysylltiad ag ef am 20 mlynedd. Wedi iddo werthu hawlfraint yr Advertiser ac ymneilltuo o'r swydd o olygydd, parhaodd
  • ROBERTS, JOHN HENRY (Pencerdd Gwynedd; 1848 - 1924), cerddor Ganwyd 31 Mawrth 1848 ym Mhenrallt, Gefnan, Mynydd Llandegai, Sir Gaernarfon, mab Harri ac Elizabeth Roberts. Yn fachgen aeth i'r chwarel i weithio am ychydig ddyddiau, ond ni fynnai fod yn chwarelwr. Yr oedd ei dad yn ymddiddori mewn cerddoriaeth, a datblygodd y dalent ynddo yntau yn gyflym. Yn 14 oed penodwyd ef i ganu'r offeryn yng nghapel Seilo (Wesleaidd), Tregarth, a dechreuodd gyfansoddi
  • ROBERTS, JOHN IORWERTH (1902 - 1970), ysgolfeistr, ysgrifennydd Eisteddfod Gydwladol Llangollen Ganwyd 8 Mawrth 1902 yn Warrington yn fab i William John Roberts, gweinidog (MC), a'i wraig Harriet, merch Edward Roberts, gweinidog Engedi (MC), Brymbo a fu'n gadeirydd pwyllgor addysg sir Ddinbych. Symudodd y teulu i Bontrhythallt, Llan-rug, Sir Gaernarfon yn 1911 pryd yr aeth i ysgol Penisa'r-waun, ac wedyn i ysgol uwchradd Bryn'refail (1914-19) a'r Coleg Normal, Bangor (1920-22). Aeth yn
  • ROBERTS, LEWIS (1596 - 1640), masnachwr ac economydd barddonol' gan Izaak Walton y pysgodwr (cyfaill mawr i'r awdur), gan ei gâr Robert Roberts o Lanfair-yng-Nghornwy (gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 74), a chan ei fab bychan Gabriel (isod), nad oedd ar y pryd ond 9 oed. Ailargraffwyd y llyfr. Y mae awgrym o fan arall y byddai Lewis Roberts ei hunan yn prydyddu - yn Saesneg. Bu farw yn 1640; claddwyd 12 Mawrth. O'i ddau lyfr arall, cyhoeddwyd The Treasure
  • ROBERTS, LEWIS (Eos Twrog; 1756 - 1844), cerddor Ganwyd 9 Mawrth 1756 yn Llandecwyn, Sir Feirionnydd. Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth. Wedi ymbriodi â merch ffermdy'r Plas, Llandecwyn, symudodd i fyw i dyddyn o'r enw Penyglannau, ym mhlwyf Maentwrog. Yr oedd yn delynor a ffidler enwog, ac ystyrid ef y datgeiniad gyda'r delyn gorau yn y wlad. Gallai ganu bob hydau o benillion ar unrhyw alaw a genid ar y delyn, ond ei hoff fesur oedd y cywydd
  • ROBERTS, RICHARD (1789 - 1864), dyfeisydd ), ond yn 1828 ymunodd â Thomas Sharpe. Wedi marw Sharpe (1842), bu ar ei gyfrifoldeb ei hunan hyd 1845, yna o 1845 hyd 1851 yn bartner â gŵr o'r enw Fothergill; ond ni lwyddodd y bartneriaeth, a throes Roberts yn ' beiriannydd ymgynghorol.' Symudodd y fusnes honno i Lundain (Adam Street, Adelphi) yn 1861, a bu farw yno 11 Mawrth 1864; claddwyd yn Kensal Green. Bu'n briod ddwywaith; ei ferch Elizabeth
  • ROBERTS, ROBERT (SILYN) (Rhosyr; 1871 - 1930), bardd, pregethwr, diwygiwr cymdeithasol, ac athro Ganwyd yn Bryn Llidiart, Llanllyfni, 28 Mawrth 1871. Bu'n chwarelwr, yna yng Nghlynnog, yng Ngholeg y Gogledd (B.A. 1899, M.A. 1901), a'r Bala. Daeth yn weinidog eglwys Methodistiaid Calfinaidd Lewisham, 1901-5, a Thanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, 1905-12. Enillodd y goron yn eisteddfod genedlaethol 1902 am bryddest, ' Trystan ac Esyllt.' Yn 1900 cyhoeddodd ef a W. J. Gruffydd Telynegion, a
  • ROBERTS, ROBERT (1680 - 1741), clerigwr Ganwyd yn 1680 yn fab i Henry Roberts, ' gent., of Llandyssen, Denbighshire ' - Llandysilio, mae'n debyg. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, fis Mawrth 1698/9, 'yn 18 oed,' a graddiodd yn 1702. Penodwyd ef yn ficer y Waun ('Chirk') yn 1709, a bu farw yno yn 1741, yn 61 oed meddai carreg ei fedd. Cyhoeddodd yn 1720 lyfryn dwy-ieithog 'gan fod trigolion plwy'r Waun rai ohonynt yn Gymraeg a rhai yn
  • ROBERTS, ROBERT ALUN (1894 - 1969), Athro Llysieueg amaeth Coleg y Brifysgol Bangor, a naturiaethwr Ganwyd 10 Mawrth 1894 yng Nglan Gors, Tan-yr-allt, Dyffryn Nantlle, Sir Gaernarfon, yn fab i Robert Roberts (brawd Owen Roberts, tad y Dr. Kate Roberts) a Jane Thomas. Derbyniodd ei addysg gynradd yn ysgol Nebo a thrwy ysgoloriaeth enillodd le yn ysgol sir Penygroes. Am gyfnod, bu'n ddisgybl-athro cyn sicrhau lle iddo'i hun yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, yn 1911. Enillodd radd B.Sc. gydag
  • ROBERTS, ROBERT DAVIES (1851 - 1911), arloeswr addysg rhai mewn oed, a gwyddonydd Ganwyd 5 Mawrth 1851 yn Aberystwyth, mab hynaf Richard Davies Roberts, gwerthwr coed, a Sara Davies. Addysgwyd ef yn Aberystwyth, yng Nghroesoswallt, y Liverpool Institute, Coleg y Brifysgol, Llundain (B.Sc., dosbarth 1, daeareg, 1870; D.Sc. 1878), Coleg Clare, Caergrawnt (dosbarth 2, gwyddoniaeth naturiol, 1875). Bu'n ddarlithydd dros dro yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1876-7
  • ROBERTS, ROBERT ELLIS VAUGHAN (1888 - 1962), prifathro ysgol a naturiaethwr Ganwyd ym Mryn Melyn, Rhyduchaf, ger y Bala, Meirionnydd, 24 Mawrth 1888, yn fab i William Roberts. Addysgwyd ef yn ysgol Tŷ-Tan-Domen a graddiodd yn y gwyddorau yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, yn 1909. Cychwynnodd ar ei yrfa fel athro yn Ninbych, Clocaenog, a Rhosddu, Wrecsam, ac apwyntiwyd ef yn 1920 yn brifathro ysgol gynradd Llanarmon-yn-Iâl, flwyddyn ar ôl i Richard Morgan y naturiaethwr
  • ROBERTS, SAMUEL (S.R.; 1800 - 1885), gweinidog gyda'r Annibynwyr, golygydd, diwygiwr Radicalaidd Ganwyd 6 Mawrth 1800, mab hynaf John a Mary Roberts (gynt Breese), Llanbrynmair, lle'r oedd ei dad yn weinidog Annibynnol. Derbyniodd ei addysg fore yn yr ysgol leol a gedwid gan ei dad, ac yna yn Amwythig, 1810-12. Hawlir mai ef oedd un o'r rhai cyntaf yng Nghymru i ddysgu llaw-fer. Yn 1819 aeth fel ymgeisydd am y weinidogaeth i'r academi a gedwid yn Llanfyllin, ond a symudwyd yn fuan i'r