Search results

733 - 744 of 990 for "Mawrth"

733 - 744 of 990 for "Mawrth"

  • REES, EVAN (Dyfed; 1850 - 1923), pregethwr, bardd, ac archdderwydd Cymru Gyfanfor a Chyfanfyd,' 'Gwlad y Pyramidiau,' 'Gwlad Canaan,' 'Gwlad y Dyn Du'. Golygodd Y Drysorfa o 1918 hyd 1923. Cyhoeddodd Caniadau Dyfedfab, Gwaith Barddonol Dyfed, dwy gyfrol, Gwlad yr Addewid a Iesu o Nazareth, ac Oriau gydag Islwyn. Bu farw 19 Mawrth 1923. Brawd iddo oedd Jonathan Rees.
  • REES, JOSIAH (1744 - 1804), gweinidog Undodaidd yn y Gelli-gron, a chadwai ysgol hyd tua 1785. Ymddiddorai yn hanes a llenyddiaeth Cymru, ac ym mis Mawrth 1770 dechreuodd gyhoeddi cylchgrawn pythefnosol, Trysorfa Gwybodaeth (sy'n fwy adnabyddus dan yr enw Yr Eurgrawn, enw a awgrymwyd gan Richard Morris o Fôn - gweler Additional Morris Letters, 767). Pymtheg rhifyn a ddaeth allan - ond hwn oedd y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i gael ei draed dano
  • REES, LEWIS (1710 - 1800), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 2 Mawrth 1710, yn Glynllwydrew, Blaen Glyn Nedd, Morgannwg, mab Rees Edward Lewis, ac ŵyr i offeiriad plwyf Penderyn. Cefnodd ei dad ar Eglwys Loegr, a magwyd y mab yn y ffydd Ymneilltuol. Addysgwyd yn ysgol Blaengwrach dan ofal Henry Davies, y gweinidog, ac yn ysgolion Joseph Simmons, Abertawe, Rice Price, Tyn-ton, ac academi Maesgwyn. Derbyniwyd ef yn aelod yn Blaengwrach, a dechreuodd
  • REES, MORGAN GORONWY (1909 - 1979), awdur a gweinyddwr prifysgol bortread deifiol o Rees yn The Death of the Heart (1938). Daeth y garwriaeth rhwng y ddau i ben yn ddisymwth pan gyfarfu Rees â Rosamond Lehmann. Erbyn diwedd 1940 roedd popeth wedi newid: ar 20 Rhagfyr priododd Rees â Margaret ('Margie') Ewing Morris (1920-1976), merch i warantwr o Lerpwl. Roedd Rees bellach yn Is-Lefftenant yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (comisiynwyd 23 Mawrth), wedi iddo syfrdanu
  • REES, OWEN (1717 - 1768), gweinidog gyda'r Annibynwyr yn 1741, oblegid mewn llythyr at Howel Harris ar 7 Awst (Trevecka Letter 362), enwa Edmund Jones ef yn un o'r gweinidogion Ymneilltuol a gefnogai Fethodistiaeth; eithr nid cyn Mawrth 1742 (9 Mawrth, meddai dyddlyfr Thomas Morgan - gofidiai ef na allai fod yn urddiad 'fy annwyl gyfaill' - a llyfr y Cilgwyn, Cofiadur, 1923, 30; 11 Mawrth meddai Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru) yr urddwyd ef. Yn ystod
  • REES, RICE (1804 - 1839), clerigwr ac ysgolhaig Ganwyd 31 Mawrth 1804 yn y Ton gerllaw Llanymddyfri, yn fab i David a Sarah Rees - gweler yr ysgrif ' Rees o'r Ton.' Ymddengys mai Annibynnwr oedd y tad, ac yng nghapel yr Annibynwyr y bedyddiwyd Rice Rees, gan Peter Jenkins o'r Brychgoed. Yn 1819 aeth i ysgol ramadeg Llanbedr-pont-Steffan, a oedd ar y pryd dan ofal Eliezer Williams, ond ychydig amser a fu yno. Bu gartref wedyn am ysbaid, ac yn y
  • REES, THOMAS (1862 - 1951), bridiwr y cob Cymreig , gyda'i ŵyr a'i ŵyres, y gorffennodd ei yrfa, 15 Ionawr 1951. Claddesid ei briod, 31 Mawrth 1936, ychydig wedi iddynt ddathlu eu priodas aur. Gorwedd gweddillion y ddau ym mynwent Capel Gwynfil, Llangeitho. Yn 1880, yn 18 oed, dechreuodd gadw march, sef 'Bold Buck', mab i 'Cardigan Driver' a oedd yn eiddo i bregethwr Undodaidd ym Maesymeillion, Llanybydder. Yna, ac yntau'n was ym Mhant-moch, Pont-siân
  • REES, THOMAS JAMES (1875 - 1957), cyfarwyddwr addysg Ganwyd 19 Mawrth 1875, yn fab James a Mary Rees, Waun-wen, Abertawe, Morgannwg. Cafodd radd (B.A.) Prifysgol Llundain yn 1898, ac er nad oedd ganddo brofiad o fod yn ysgolfeistr penodwyd ef o blith 112 o ymgeiswyr yn gyfarwyddwr addysg yn Abertawe yn 1908, swydd a gadwodd hyd nes iddo ymddeol yn 1943. Ym myd addysg Prydain daeth yn adnabyddus fel aelod o bwyllgorau ymgynghorol y Bwrdd Addysg
  • REES, WILLIAM THOMAS (Alaw Ddu; 1838 - 1904) gytganau, anthemau, salm-donau. Bu ' Y Gwlithyn ' a ' Ffynnon ger fy Mwth ' yn boblogaidd. Cyfansoddodd ugeiniau o donau hefyd. Erys ei dôn ' Glanrhondda ' ymhlith y rhai a arferir yn gyson gan yr holl enwadau crefyddol. Bu farw 19 Mawrth 1904, a chladdwyd ef ym mynwent Capel Newydd, Llanelli.
  • REYNOLDS, JONATHAN OWAIN (Nathan Dyfed; 1814 - 1891), awdur ac eisteddfodwr olygodd i'r wasg y traethawd nodedig (cyhoeddwyd 1893) a ysgrifennodd Stephens ar gyfer eisteddfod Llangollen, 1858, ar Madoc a'r gred (a ddymchwelwyd gan Stephens) iddo ddarganfod America o flaen Christopher Columbus. Y mae cannoedd o lythyrau at Llywarch Reynolds ac at ei dad yn NLW MS 986C a NLW MS 987C. Bu farw 12 Mawrth 1916 yn Brislington, Bryste, a chladdwyd ef yno.
  • RHYS, EDWARD PROSSER (1901 - 1945), newyddiadurwr, llenor, a chyhoeddwr Ganwyd 4 Mawrth 1901 yn Pentremynydd, yn ardal Bethel (neu Trefenter fel y'i gelwir heddiw), Mynydd Bach, Sir Aberteifi, mab Elisabeth a David Rees. Gof o deulu o ofaint oedd ei dad. Symudodd y teulu wedi hynny i'r Morfa Du. Mynychai Ysgol Cofadail pan oedd yn fachgen, ac aeth i ysgol Ardwyn, neu yn iaith llyfr lòg ysgol Cofadail, 'Aberystwyth County School', Aberystwyth, yn Hydref 1914. Rhyw
  • RHŶS, ELIZABETH (1841 - 1911), athrawes, gwesteiwraig ac ymgyrchydd dros hawliau merched anfon llythyr oddi yno, dyddiedig 27 Medi 1870, at wythnosolyn rhyddfrydol Methodistiaid Calfinaidd Cymru, Y Goleuad. Hwn oedd y cyntaf mewn cyfres o lythyrau at y papur o'r Cyfandir, â dau lythyr dilynol, ar 4 Ionawr a 25 Mawrth 1871, wedi eu hysgrifennu o Berlin. Ynddynt, mynegodd Elspeth ei drwgdybiaeth o safbwyntiau'r wasg Brydeinig ynghylch y rhyfel; disgrifiodd Brwsia Otto von Bismark (1815-1898