Search results

673 - 684 of 703 for "Catherine Roberts"

673 - 684 of 703 for "Catherine Roberts"

  • WILLIAMS, ORIG (1931 - 2009), pêl-droediwr, reslwr, hyrwyddwr a newyddiadurwr Kay Roberts yn 1983, gan ymgartrefu yn Llanfair Talhaearn. Ganwyd iddynt un ferch, Tara Bethan, a ddaeth yn actores a chantores. Yn ystod ei gyfnod ar y rhaglen Reslo parhaodd Williams i newyddiadura, gyda cholofn ddadleuol ond poblogaidd, 'Siarad Plaen' yn y North Wales Daily Post. Byddai ei golofn yn aml yn lleisio safbwynt cenedlaetholgar, yn enwedig o ran y frwydr i gadw'r iaith yn fyw ac yn
  • WILLIAMS, PETER BAILEY (1763 - 1836), cherigwr a llenor geirwon. Awgrymwyd gan Evan Roberts mai ef oedd y 'person chwedlonol' a anfarwolwyd yn enw Clogwyn y Person : gallai hynny fod ond yn y pedwar degau, wedi marwolaeth Williams, y cyfarfu J.H. Cliffe â'r 'climbing parson' anhysbys a ddisgrifiwyd ganddo ef. Bu farw 22 Tachwedd 1836, a chladdwyd ef yn Llanrug.
  • WILLIAMS, RICHARD (1802 - 1842), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur Ganwyd yn y Winllan, Llanbrynmair, 31 Ionawr 1802, mab Richard a Mary Williams, a brawd William Williams ('Gwilym Cyfeiliog'). Addysgwyd ef yn ysgol ei ewythr, y Parch. John Roberts, ac yn ysgol William Owen, Trallwng, yn ddiweddarach bu mewn ysgolion yn Birmingham, Wrecsam, a Lerpwl; ac yno, ar ôl ysbaid, yr agorodd ysgol ei hunan. Yn 1830 priododd â Mary, merch y Parch. Thomas Hughes, Lerpwl
  • WILLIAMS, ROBERT (1782 - 1818), cyfansoddwr yr emyn-dôn 'Llanfair' basgedi, ond yr oedd hefyd yn gerddor o gryn fri. ' Bethel ' oedd yr enw a roddwyd gyntaf i'r dôn a elwir heddiw yn ' Llanfair ', a'r enw hwnnw a roddir iddi yn llawysgrif Robert Williams ei hun, lle y dyddir hi 14 Gorffennaf 1817. Argraffwyd hi gyntaf (eto tan yr enw ' Bethel'), fel y'i cynganeddwyd gan John Roberts (1807 - 1876) o Henllan, yn Peroriaeth Hyfryd (1837) gan John Parry (1775 - 1846
  • WILLIAMS, ROBERT DEWI (1870 - 1955), gweinidog (MC), prifathro Ysgol Clynnog a llenor Ganwyd 29 Rhagfyr 1870 yn Llwyn-du Isaf, Pandytudur, Sir Ddinbych, mab Isaac ac Elizabeth Williams. Bu'n ddisgybl yn ysgol Frytanaidd ei fro (Ysgol Blaenau Llangernyw, neu Ysgol y Pandy), cafodd ddeufis o addysg yn ysgol ramadeg ei gâr, Robert Roberts ('Y Sgolor Mawr '; 1834 - 1885), yn Llanfair Talhaearn; bu mewn ysgol yn Llandudno ar ôl hynny, ac yn ysgol baratoawl y Bala - yno y dechreuodd
  • WILLIAMS, ROWLAND (1779 - 1854), clerigwr Ganwyd yn Nhy'nypwll, Mallwyd, Meirionnydd, a'i fedyddio 27 Mawrth 1779, mab Richard Williams a Catherine ei wraig. Cafodd ei addysg mewn ysgol a gynhelid yn eglwys Mallwyd, yna ym Metws-yn-Rhos gyda Peter Williams, ficer y plwyf, ac yna yn ysgol Rhuthyn. Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Iesu, 24 Mai 1798, a graddio'n B.A. yn 1802 ac M.A. yn 1805. Cafodd urddau diacon yn 1802 ac
  • WILLIAMS, THOMAS (Twm Pedrog; 1774 - 1814), bardd Ganwyd 25 Mai 1774, mab Owen Williams, amaethwr a thafarnwr y ' Sign,' Llanbedrog, Sir Gaernarfon, a Catherine ei wraig - a'i fedyddio 3 Mehefin 1774. Bu am gyfnod ar y môr - gweler ei 'Awdl i M.W.P. (B.B.) ac E.F., pan oedd y bardd ar y môr yn llong ei fawrhydi, Amethyst, 1800'; yn ddiweddarach ymsefydlodd yn ei sir enedigol. Ceir llawer o'i waith yng nghyfrolau Brython (Tremadog) a cheir
  • WILLIAMS, THOMAS (Tom Nefyn; 1895 - 1958), gweinidog (MC) ac efengylydd . Bu wedyn yng ngholegau diwinyddol ei Gyfundeb yn Aberystwyth a'r Bala. Ordeiniwyd ef yn 1925, a'r un flwyddyn priododd Ceridwen Roberts Jones o Goedpoeth; ganwyd 3 o blant o'r briodas. Cafodd alwad i eglwys Ebeneser, y Tymbl, Sir Gaerfyrddin, ardal y glo carreg, lle bu llawer o wrthdaro diwydiannol a pholiticaidd yn y 1920au. Cafodd Tom Nefyn amser cynhyrfus yn y Tymbl, a thynnodd ei bregethu ar
  • WILLIAMS, TOM PUGH (1912 - 1985), athro prifysgol ei ddyrchafu yn Athro ac yno y bu nes iddo ymddeol yn 1977. Yn 1950 fe'i priodwyd â Catherine Mary (Molly) Macnab a oedd ar y pryd yn fetron yn Neuadd Carpenter, Aberystwyth. Ni fu plant iddynt. Perthynai Tom Pugh Williams i genhedlaeth o ysgolheigion a ystyriai eu dyletswyddau i'r myfyrwyr yn bwysicach na'u hymroddiad personol i ymchwil a chyhoeddi. Roedd yn hynod o boblogaidd gyda'r myfyrwyr
  • WILLIAMS, WILLIAM (Gwilym Cyfeiliog; 1801 - 1876), bardd, englynwr, ac emynydd Ganwyd 4 Ionawr 1801 yn y Winllan, Llanbrynmair, mab Richard Williams ('cynghorwr' gyda'r Methodistiaid Calfinaidd) a Mary Williams (un o ddisgynyddion Henry Williams, Ysgafell, a chwaer y Parch. John Roberts, Llanbrynmair), a brawd hynaf y Parch. Richard Williams, Lerpwl. Addysgwyd ef yn ysgol ei ewythr (uchod) ac yn ysgol William Owen, Trallwng. Dychwelodd gartref i'r Wig i helpu ei dad ar y
  • WILLIAMS, WILLIAM (1781 - 1840), gweinidog gyda'r Annibynwyr 17 Mawrth, 1840 a chladdwyd ef ym mynwent y Wern. Yn gynnar ar ei oes troesai o fod yn uchel-Galfin at Galfiniaeth gymedrol gan ddilyn John Roberts, Llanbrynmair, ac eraill o'r Annibynwyr, a cheir ganddo erthygl yn y 'Llyfr Glas' a gyhoeddwyd gan y gŵr hwnnw ac a greodd gryn gythrwfl ar y pryd. Pregethwr oedd ef yn anad dim arall ac fel pregethwr yr enillodd le mor amlwg ym mywyd Cymru. Cysylltir
  • WILLIAMS, WILLIAM GILBERT (1874 - 1966), ysgolfeistr a hanesydd lleol Ganwyd yn Nhŷ'r Capel, Rhostryfan, Llanwnda, Caernarfon, 20 Ionawr 1874, yn fab i John Williams, chwarelwr, a'i briod Catherine (ganwyd Jones). Brawd iddo oedd ' J. W. Llundain ' (JOHN WILLIAMS). Gadawodd yr ysgol leol yn naw mlwydd oed i weithio yn chwarel y Cilgwyn ond dychwelodd yno yn ddisgybl-athro ac ennill ysgoloriaeth i fynd yn fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor, 1892-94. Penodwyd ef yn