Search results

649 - 660 of 1037 for "Ellis Owen"

649 - 660 of 1037 for "Ellis Owen"

  • OWEN, JOHN (1757 - 1829), ysgrifennwr ar bynciau crefyddol Methodistiaid Calfinaidd. Heblaw'r uchod, cyhoeddodd John Owen Difrifol Ystyriaeth, 1789; Tair Cerdd Newydd, 1795; a Golygiad ar Athrawiaeth y Drindod ac ar Berson Crist, 1820. Ŵ yr iddo oedd D. C. Lloyd-Owen.
  • OWEN, JOHN (1733 - 1776), pregethwr cyntaf Methodistiaid sir y Fflint Clwyd. Ar 22 Rhagfyr 1763 priododd â Mary Edwards, Plas Llangwyfan, ac aethant i fyw i'r Berthen Gron yn ei blwyf genedigol, ac yn fuan agorwyd y tŷ i'r diwygwyr o'r Deheudir. Yr oedd Mary Owen yn wraig anghyffredin; aeth ar ei merlen saith o weithiau i Langeitho, pellter o dros 200 milltir yn ôl a blaen, i geisio pregethwyr i ddod i'r Berthen a Dyffryn Clwyd. Yn 1766 dechreuodd John Owen bregethu
  • OWEN, JOHN (1616 - 1683), diwinydd Piwritanaidd (Annibynnwr) 'Gyda Baxter a Howe, saif ar flaen y diwinyddion Piwritanaidd'. Ganwyd yn 1616, a bu farw 24 Awst 1683. Adroddir ei yrfa'n llawn yn y D.N.B., ond nid oes a fynno hi ddim â Chymru, ond yn yr ystyr mai ar weithiau diwinyddol John Owen y magwyd cenedlaethau o bregethwyr Calfinaidd enwocaf Cymru. Ond yr oedd gwaed Cymreig ynddo. Mab oedd ef i Henry Owen, ficer Stadhampton (swydd Rhydychen), ŵyr felly
  • OWEN, JOHN (1788 - 1867), clerigwr ac awdur Ganwyd yn 1788 yn fab Owen ac Elinor Owen, Cilirwysg, Llanfihangel Ystrad, Sir Aberteifi - y rhieni yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cymerth dau o'r meibion urddau eglwysig (sef John a David Owen). Aeth John i ysgol Ystrad Meurig, i'w addysgu gan John Williams ('Yr hen Syr'). Ordeiniwyd ef yn Llanelwy gan yr esgob Cleaver; diacon 1811, offeiriad 1812. Bu'n gurad i ddechrau yn Hirnant
  • OWEN, JOHN (1836 - 1915), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur 'Cân y Mochyn Du' Ganwyd 1 Ebrill 1836, mab Simon a Rachel Owen, Blaenpencelli, plwyf Eglwyswrw, Sir Benfro. Cafodd ei addysg gynnar mewn ysgol Sul a gynhelid yng nghapel Ebenezer (Bedyddwyr), Dyfed. Cyn ei fod yn 12 oed aeth i Henllys, hen gartref George Owen, hanesydd sir Benfro, yn was bugail; wedi iddo fod yno am ddwy flynedd cymerodd seibiant i fynd am ddau fis i ysgol ddyddiol a gynhelid yn Eglwys-wrw
  • OWEN, JOHN (1698 - 1755), canghellor eglwys Bangor Ganwyd yn Llanidloes yn 1698 yn fab i Pierce Owen; yn ôl Foster (Alumni Oxonienses), ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, fel ' John Owens,' 21 Mawrth 1718/9, yn 21 oed, ond annhebyg i'r eithaf yw cynnig Foster iddo raddio yn 1722 dan yr enw ' Joseph Owen.' I'r gwrthwyneb, yng nghofnodion A. Ivor Pryce (The Diocese of Bangor during Three Centuries), ni roddir gradd o gwbl iddo yn 1723; eithr
  • OWEN, JOHN (1864 - 1953), gweinidog (MC) ac awdur Ganwyd 17 Ebrill 1864 ym Mhen-y-maes, Morfa Nefyn, Caernarfon, mab James a Margaret Owen. Bu mewn swyddfa yn Lerpwl am chwe blynedd ac yno, yn 1884, y dechreuodd bregethu. Addysgwyd ef yn ysgol Clynnog, Coleg y Bala, ac yn Rhydychen (lle graddiodd yn 1892, M.A. yn 1903). Bu'n diwtor am flwyddyn yng Ngholeg y Bala. Ordeiniwyd ef yn 1892, a bu'n gweinidogaethu yn y Gerlan, Bethesda (1892-1902), Y
  • OWEN, JOHN (d. 1759), bardd, telynor, llythyrwr nai i Forrisiaid Môn (mab i'w chwaer Ellen a'i phriod Owen Davies); ganwyd, yn ôl pob tebyg, yng Nghaergybi yn ystod tridegau cynnar y 18fed ganrif (y mae'r cofnodion plwyfol cyn 1737 ar goll). Pan oedd yn fachgen ifanc aeth i fyw at Lewis Morris yng Ngheredigion a bu'n cynorthwyo ei ewythr yno, ac wedi hynny yn Llundain, gyda'r ymgymeriadau diwydiannol a'i helbulon cyfreithiol. Eithr oerodd y
  • OWEN, JOHN (1807 - 1876) Tyn-llwyn,, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac ysgrifennwr ar amaethyddiaeth ' (Thomas Jones). Gartref, cymdeithasai â llenorion Eifionydd, megis 'Dewi Wyn,' 'Robert ap Gwilym Ddu,' ac Ellis Owen o Gefn-y-meysydd. Dechreuodd bregethu yn 1836; priododd; aeth i Goleg y Bala yn 1838, ond torrwyd ar ei gwrs yno gan farwolaeth ei fam. Ordeiniwyd ef yn 1842, ond ni bu erioed yn fugail cydnabyddedig ar eglwys, oblegid yr oedd yn wrthwynebol i fugeiliaeth ymysg y Methodistiaid Calfinaidd
  • OWEN, JOHN (Owain Alaw; 1821 - 1883) Ganwyd 14 Tachwedd 1821 yn Crane Street, Caerlleon, mab Capten Owen. Cafodd addysg dda, a phrentisiwyd ef ym masnachdy Powell ac Edwards, Cutlers. Ei athro cerdd cyntaf oedd Edward Peters, Caer, ac wedi hynny, C. Lucas, Llundain. Penodwyd ef yn ieuanc yn organydd yng nghapel yr arglwyddes Huntingdon, ac yn arweinydd i'r 'Octagon Orchestral Society.' Yn 1842 priododd, ac yn 1844 rhoddodd i fyny ei
  • OWEN, JOHN (1857 - 1934), pregethwr - see OWEN, RICHARD JONES
  • OWEN, JOHN (1849 - 1917), gweinidog - see OWEN, JOHN