Search results

637 - 648 of 703 for "Catherine Roberts"

637 - 648 of 703 for "Catherine Roberts"

  • VAUGHAN, EDWARD (d. 1661), 'Master of the Bench of the Inner Temple' Ceir manylion pur lawn am ei yrfa yn yr erthygl gan Rees L. Lloyd a enwir isod; braslun byr sydd yma, felly, o'r hyn a geir yn honno. Pedwerydd mab ydoedd i Owen Vaughan, Llwydiarth, Sir Drefaldwyn, a'i wraig Catherine, unig aeres Maurice ap Robert, Llangedwyn - gweler yr erthygl ar deulu Vaughan, Llwydiarth. Fel ei dri brawd hŷn - John Vaughan, Syr Robert Vaughan, a Roger Vaughan - aeth i'r
  • VAUGHAN, HENRY (1621 - 1695), bardd Vaughan ei hunan yr argraff. Fel Brenhinwr pybyr gofidiai'n fawr oblegid digwyddiadau gwleidyddol ei gyfnod, eithr câi beth diddanwch yng ngolygfeydd Dyffryn Wysg. Troes i ddarllen llyfrau defosiynol a gweithiau ar athroniaeth gudd a chyfrin, a dechreuodd hefyd ymarfer fel meddyg. Priododd ddwywaith - (1) Catherine Wise, a (2) Elizabeth, chwaer y wraig gyntaf. Bu farw 23 Ebrill 1695 a chladdwyd ef yn
  • VAUGHAN, ROBERT (1592? - 1667), hynafiaethydd a pherchen llyfrgell enwog Hengwrt Ucheldre; a GRUFFUDD VAUGHAN a etifeddodd Ddolmelynllyn ac a briododd Catherine ferch John ap Robert ap John ap Lewis ap Meredith, Glynmaelda; MARGARET a briododd (1) William Prys, rheithor Dolgellau, a (2) Robert Fychan ap Tudur Fychan, Caerynwch; JANE a briododd Robert Owen, Dolyserau; ELIN a briododd Dafydd Elis ap Rowland Elis, Gwanas; ac ANN a briododd Hugh Evans, Berthlwyd, Llanelltyd.
  • VAUGHAN, ROWLAND (c. 1590 - 1667) Caer Gai,, bardd, cyfieithydd, a Brenhinwr Jane, ferch Edward Price o Dref Prysg, Llanuwchllyn, ac yn ôl cywydd marwnad Hugh Cadwaladr iddo (NLW MS 9B), yr oedd tri mab a thair merch iddynt yn fyw pan fu farw Rowland Vaughan yn 1667, sef JOHN, a dderbyniwyd i Hall Hart (Coleg Hertford heddiw), Rhydychen, yn 1635, yn 18 mlwydd oed, a briododd Catherine, merch William Wynn, Glyn, Sir Feirionnydd, ac a ddewiswyd yn siryf dros Sir Feirionnydd yn
  • VAUGHAN, WILLIAM HUBERT (1894 - 1959), giard rheilffordd a chadeirydd y Welsh Land Settlement Society Ganwyd 21 Mawrth 1894, yn fab Henry Charles a Catherine Vaughan, Tŷ-du (Rogerstone), Mynwy Addysgwyd ef yn Eastern School, Port Talbot. Fel ei dad a dau o'i frodyr, cafodd waith ar y rheilffordd, lle treuliodd 51 mlynedd, 34 ohonynt fel giard. Enillodd barch mawr fel gŵr cyhoeddus ac ymgymerodd â gwaith gwirfoddol amrywiol iawn. Bu'n aelod o gyngor bwrdeistref Port Talbot, 1927-48, ac yn faer
  • VINCENT family yntau (o Goleg Iesu) yn 1739, bu'n athro Ysgol Friars ym Mangor ac yn ficer Bangor, yn rheithor Llandwrog (Arfon), ac wedyn (1763) yn rheithor Llanfachraeth. O'i amryw ferched, daeth un, JANE (1751 - 1812), yn wraig i'w chefnder JOHN JONES, swyddog yn y fyddin a mab i Owen Jones (o Benychen yn Abererch), canon Bangor, o'i briod Catherine a oedd yn ferch i'r Thomas Vincent uchod. Mab i John a Jane
  • WAITHMAN, ROBERT (1764 - 1833), arglwydd faer Llundain Ganwyd yn Wrecsam, 1764, mab John Waithman (o Warton, Swydd Gaerhirfryn), saer coed yn gweithio yn ffwrnais Bersham, Wrecsam, a'i wraig Mary (Roberts). Bu'n gwasnaethu mewn siop gwerthwr nwyddau lliain yn Llundain; tua 1786 agorodd ei siop ei hun, ar y cyntaf yn Fleet Market ac yna yr 103 a 104 Fleet Street. Priododd, 14 Gorffennaf 1787, â'i gyfnither, Mary Davis. Llwyddodd i ennill cyfoeth mawr
  • WARDLE, GWYLLYM LLOYD (1762? - 1833), anturwr (Archæologia Cambrensis, 1875, 227-30; 1890, 311) - ond yng Nghaerlleon y ganwyd ei fab. Catherine Lloyd Gwyllym, merch ac aeres Richard Lloyd Gwyllym, Hersedd, oedd gwraig Francis Wardle; bu hi farw yn y Twr gerllaw'r Wyddgrug, 11 Awst 1811, yn 77 oed (Cheshire Sheaf, Rhagfyr 1929, 87). Ymunodd y mab yn 1794 â'r ' Antient British Fencible Cavalry,' catrawd a ffurfiwyd gan Syr Watkin Williams-Wynn, a bu'n
  • WEBB, HARRI (1920 - 1994), llyfrgellydd a bardd Ganwyd Harri Webb ar 7 Medi 1920 yn 45 Heol Tŷ Coch, Sgeti, Abertawe, yn fab i William John Webb (1890-1956), fforman ym mhwerdy Tir John North yn Abertawe a hanai o deulu ffermio ym Mhenrhyn Gŵyr, a'i wraig Lucy Irene (g. Gibbs, 1890-1939), merch i weithiwr ar ystâd Kilvrough. Symudodd y teulu yn 1922 i 58 Catherine Street yn ardal Sain Helen o Abertawe. Ei enw bedydd oedd Harry, a mabwysiadodd
  • WILKS, JOHN (1764 neu 1765 - 1854), cyfreithiwr yn Llundain ac aelod seneddol Yr unig reswm dros ei gynnwys yma yw mai ef oedd y cyfreithiwr a dynnodd weithred gyfansoddiadol y Methodistiaid Calfinaidd (1826), dan arolygiaeth John Elias a John Davies (1781 - 1848) o'r Fronheulog, Llandderfel ('y Pab o Fôn a'r Cardinal o Fronheulog,' chwedl Michael Roberts, Pwllheli), ac Elias Bassett o Forgannwg (gweler dan Bassett, Richard). Diamau i Wilks gael y gwaith nid yn unig am ei
  • WILLIAMES, RICE PRYCE BUCKLEY (1802 - 1871), swyddog yn y Board of Control, Llundain, a phrif gychwynnydd The Cambrian Quarterly Magazine Ganwyd 1802, mab hynaf John Buckley Williames, Pennant, Aberriw, Sir Drefaldwyn (siryf sir Drefaldwyn, 1820), a Catherine, merch ac aeres Rice Pryce, Glyncogan. Cafodd ei addysg yn ysgol Amwythig. Trwy ddylanwad Charles W. Williams Wynn (gweler Williams Wynn, Wynnstay) cafodd swydd yn y Board of Control, Llundain, a oedd y pryd hwnnw yn gofalu am yr India, a daliodd hi am rai blynyddoedd cyn
  • WILLIAMS family MARL, o'r Pant Glas'), a thrwyddi hi y chwanegwyd stad y Pant Glas at stad y Marl. Mab i'r ddeuddyn hyn oedd Syr GRIFFITH WILLIAMS (a fu farw yn 1734), y 6ed barwnig; priododd ef â Catherine Anwyl o'r Parc (Llanfrothen) a'r Llwyn (Dolgellau) - gweler yr ysgrif ar yr Anwyliaid - ond gan fod stadau'r teulu hwnnw mewn dyled, y mae'n amheus iawn a elwodd y Marl ryw lawer. Dau o blant y briodas hon a fu fyw i