Search results

613 - 624 of 1816 for "david lloyd george"

613 - 624 of 1816 for "david lloyd george"

  • HUGHES, GAINOR (1745 - 1780), ymprydwraig Bedyddiwyd Gainor Hughes ar 23 Mai 1745 yn eglwys y plwyf, Llandderfel, Sir Feirionnydd, yn ferch i Hugh David, Bodelith, a'i wraig Catherine. Ceir Gaenor, Gaunor a Gaynor yn ffurfiau amrywiol ar ei henw. Yn ystod ei hoes fer, daeth yn ddigon adnabyddus i deilyngu cofnod o'i marwolaeth yn y Chester Chronicle, ynghyd â sylw rhai o feirdd mwyaf blaenllaw traddodiad y faled yng ngogledd Cymru. Y
  • HUGHES, HUGH (Huw ap Huw, Y Bardd Coch o Fôn; 1693 - 1776), bardd ac uchelwr O Lwydiarth Esgob ym mhlwyf Llandyfrydog, aelod gohebol o Gymdeithas y Cymmrodorion, ac un o gyfeillion y Morysiaid. Yn ôl J. E. Griffith, mab ydoedd i Hugh Hughes a Margaret, merch David ap William Parry o Fiwmares, barcer, a ganwyd ef 1 Awst 1693. Tua 1719 priododd Ann, merch Edward Jones o Rydyrarian, a ganwyd iddynt amryw o blant; bu hi farw ddechrau 1759. Rai blynyddoedd cyn diwedd ei oes
  • HUGHES, HUGH (1790 - 1863), arlunydd ac awdur Drysorfa, 1812. Teithiodd Gymru yn 1819-21 i dynnu lluniau; argraffwyd y rhannau Saesneg (1819-20) o hanes ei deithiau yn Wales (O.M.E.), iii, a'r rhannau Cymraeg (1820-1) yn Cymru (O.M.E.), viii. Yn 1823, cyhoeddodd ei waith mwyaf adnabyddus, The Beauties of Cambria, 60 o ddarluniau. Yn y Meddiant y bu wrthi'n paratoi'r gwaith hwn, ond yr oedd eisoes yn gyfarwydd â David Charles (1762 - 1834), a
  • HUGHES, HUGH JOHN (1912 - 1978), athro ysgol, awdur, golygydd ac adolygydd [ieithegol] ar rai o'r cerddi yn Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif' ar gyfer disgyblion y Chweched Dosbarth. Cyhoeddodd lu o adolygiadau crefftus yn Barddas, Barn, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, Genhinen a Taliesin yn ystod 1967-78. Dywedodd D. Tecwyn Lloyd am H. J. Hughes: 'Adolygu fu ei gyfraniad mwyaf ac yn y gwaith hwnnw yr oedd bob amser yn drylwyr ac yn gwbl deg; …bu
  • HUGHES, HUGH PRICE (1847 - 1902), gweinidog Wesleaidd mab John Hughes, llawfeddyg, Caerfyrddin, ac Anne ei wraig (ŵyres Samuel Levi Phillips); ganed yn y dref honno 8 Chwefror. O du ei fam perthynai i David Charles (I a II). Bu mewn ysgolion yng Nghaerfyrddin ac Abertawe, ac yna aeth i Goleg Richmond, Llundain. Graddiodd B.A. ym Mhrifysgol Llundain yn 1869, ac M.A. yn 1884. Yn Dover yr oedd ei ofalaeth gyntaf, ac ar ôl gweinidogaethu yn Brighton
  • HUGHES, JAMES (Iago Trichrug; 1779 - 1844), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd, ac esboniwr Beiblaidd llenyddol mawr yw ei Esboniad ar y Beibl, a gyhoeddwyd gan Evan Lloyd, yr argraffydd. Dechreuodd ar y gwaith hwn yn 1829 ond bu farw cyn ei gwpláu. Credid mai Roger Edwards a'i cwplaodd, ond bernir yn awr mai rhyw John Jones o Lerpwl a'i gorffennodd. Bu 'Esboniad Siams Huws,' fel ei gelwid, mewn bri mawr am genedlaethau ymhlith aelodau'r ysgol Sul yng Nghymru, a darllennir ef o hyd gan laweroedd
  • HUGHES, JOHN (1873 - 1932), cyfansoddwr yr emyn-dôn 'Cwm Rhondda ' David, a bu iddynt fab a merch. Fel ei dad, daeth yn ddiacon ac arweinydd y gân yng nghapel Salem. Cyfansoddodd ei emyn-dôn enwog ar gyfer cyfarfodydd dathlu yn 1907 yng nghapel Rhondda, Pontypridd. Fodd bynnag, nid oedd ' Cwm Rhondda ' ond un o lawer o emyn-donau, anthemau a chaneuon a gyfansoddodd. Bu farw yn Nhon-teg, Llanilltud Faerdref, 14 Mai 1932.
  • HUGHES, JOHN (1776 - 1843), gweinidog Wesleaidd, a hynafiaethydd ysgol Coleg Crist, dan David Griffith. Yn 1790 (Eurgrawn, 1809, 445), clywodd John Wesley 'n siarad yn y seiat yr oedd ef a'i dad yn aelodau ohoni - noder bod Wesleaid (Saesneg) Aberhonddu 'n dda eu byd a'u safle; gweler yr ysgrifau ar Bold, Churchey, a Coke. Ond anfodlon fu'r tad pan fynnodd y bachgen gefnu ar yr urddau eglwysig y gallesid disgwyl i'w gysylltiadau a'i addysg arwain iddynt, a bwrw'i
  • HUGHES, JOHN GRUFFYDD MOELWYN (1866 - 1944), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 30 Mai 1866, yn fab i Griffith ac Elizabeth Hughes, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog. Wedi gadael yr ysgol fwrdd bu'n llythyrgludydd am ysbaid, ac yna'n glerc mewn swyddfa cyfreithiwr ym Mlaenau Ffestiniog. Oddi yno aeth i Borthmadog, i swyddfa'r Meistri William a David Lloyd George. Trigai ar y pryd ym Mhentrefelin, ac yno yng nghapel Cedron y dechreuodd bregethu. Addysgwyd ef yng
  • HUGHES, JOHN WILLIAMS (1888 - 1979), gweinidog (Bed.) a Phrifathro coleg . Flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1915, priododd â Margaret Evans, merch i'r Parchg Edward Evans, gweinidog Penuel, Bangor. Bu iddynt dri o fechgyn, Ieuan, Edward a David (sef yr actor Hugh David). Torrodd ei iechyd yn 1918 a bu'n rhaid iddo gefnu ar St Alban's a'r weinidogaeth fugeiliol. Dychwelodd i fyw i dyddyn ger y Bermo yn Sir Feirionnydd lle bu'n cadw ieir, ond erbyn 1920 roedd ei iechyd wedi gwella
  • HUGHES, JOSEPH TUDOR (Blegwryd; 1827 - 1841), bachgen â'i hynododd ei hun yn ei blentyndod fel telynor, etc. ), gan gynnal cyngherddau yn y White House (Washington), New York, Baltimore, Philadelphia, etc. Yr oedd 'Blegwryd' eisoes, cyn iddo adael Prydain, wedi peri syndod mawr i luoedd o bobl - rhai aelodau o'r teulu brenhinol yn eu plith - a'i gwelodd ac a'i clywodd yn perfformio. Collodd ei fywyd trwy foddi yn afon Hudson ar 12 Mai 1841. Brawd iddo oedd David E. Hughes, dyfeisydd.
  • HUGHES, MEGAN WATTS (1842 - 1907), cantores . Mills, organydd eglwys gadeiriol Llandaf. Yn 1864 aeth i'r Royal Academy o dan ddisgyblaeth Garcia. Oherwydd gwaeledd cyfyngwyd ar ei llwyddiant fel cantores. Yn 1871 priododd Lloyd Hughes, gwr o dalent a gallu, a oedd mewn swydd bwysig mewn banc yn Llundain. Bu Megan Watts Hughes ar deithiau cerddorol yng Ngogledd Cymru gyda Dr. Joseph Parry, a chanai ' Y Fwyalchen,' ' Hen Feibl Mawr fy Mam,' etc