Search results

577 - 588 of 1076 for "henry morgan"

577 - 588 of 1076 for "henry morgan"

  • MORGAN, CHARLES LANGBRIDGE (Menander; 1894 - 1958), nofelydd, dramodydd Ganwyd 22 Ionawr 1894, yn blentyn ieuangaf Syr Charles Langbridge Morgan, peiriannydd, a Mary (ganwyd Watkins) ei wraig. Ymfudodd ei deidiau o Sir Benfro i Awstralia lle y priododd ei rieni. Ymunodd â'r Llynges yn 1907 gan ddod yn swyddog cyn ymddiswyddo yn 1913 i ennill ei fywoliaeth wrth lenydda, er iddo ddychwelyd i'r llynges yn ystod y ddau Ryfel Byd. Aeth i Goleg y Trwyn Pres, Rhydychen
  • MORGAN, CHARLES OCTAVIUS SWINNERTON (1803 - 1888), hynafiaethydd a hanesydd lleol Ganwyd 15 Medi 1803, pedwerydd mab Syr Charles Morgan, ail farwnig, Ealing, Middlesex, a Tredegar Park, sir Fynwy; yr oedd, felly, yn frawd i'r barwn Tredegar 1af (gweler yr ysgrif ar y teulu). Ymaelododd yn Christ Church, Rhydychen, 26 Mehefin 1822 (B.A. 1825, M.A. 1832). Yr oedd yn ustus heddwch ac yn ddirprwy-raglaw yn sir Fynwy, a bu'n cynrychioli ei sir yn y Senedd o 1840 hyd 1874. Daeth yn
  • MORGAN, CLIFFORD (Cliff) ISAAC (1930 - 2013), chwaraewr rygbi, gohebydd a darlledwr chwaraeon, rheolwr cyfryngau gwaith y papur yn cyhoeddi atgofion Christine Keeler, ac wedyn daeth yn un o ddau gapten tîm cyntaf ar raglen eiconig y BBC, 'A Question of Sport' gyda Henry Cooper. Ym Mawrth 1972, yn 41 oed, teithiodd Morgan i Bad Lippspringe yng Ngorllewin yr Almaen i sylwebu ar rownd derfynol cwpan rygbi Byddin Prydain ar y Rhein. Cafodd strôc yn Cologne ar y noson wedi'r gêm ac o ganlyniad bu'n gaeth i gadair
  • MORGAN, DAFYDD SIENCYN (1752 - 1844), cerddor
  • MORGAN, DAVID (1779 - 1858), gweinidog gyda'r Annibynwyr a hanesydd ; Llanwrin; Penegoes; a'r Glasbwll. Yn 1836 symudodd i eglwys Gartside, Manceinion, ac yn 1839 i Llanfyllin lle'r arhosodd hyd nes ymddeol yn 1857. Bu farw yng Nghroesoswallt 14 Mehefin 1858 a chladdwyd ef ym mynwent capel Pendref, Llanfyllin. Priododd ei ferch, Ann, â Thomas Bynner, Llanfyllin, dilledydd. Bu iddynt hwythau fab, David Morgan Bynner a briododd â Catherine, merch Owen Daniel, Caethle, Tywyn
  • MORGAN, DAVID (1814 - 1883), diwygiwr crefyddol yn 1842 ac ordeiniwyd ef yng nghymdeithasfa Trefin ar 20 Mai 1857. Yn y flwyddyn ganlynol daeth i gysylltiad â Humphrey R. Jones, a oedd newydd ddychwelyd o Unol Daleithiau'r America yn ddwfn o dan ddylanwad diwygiad crefyddol yno, ac a enynasai eisoes fflam diwygiad yng ngogledd Aberteifi. Ymunodd Morgan ag ef, a than ddylanwad y ddau efengylwr ar y dechrau, a Morgan ei hunan ar ôl hynny, wedi i
  • MORGAN, DAVID EIRWYN (1918 - 1982), prifathro coleg a gweinidog (B) Ganwyd David Eirwyn Morgan ar 23 Ebrill 1918 ym Mryn Meurig, Heol Waterloo, Pen-y-groes, sir Gaerfyrddin, yn un o bedwar o blant - tri mab ac un ferch - David a Rachel Morgan. Gweithiai ei dad yn y lofa leol ond yr oedd ef a'i deulu'n mynychu'r oedfaon yn Saron, eglwys y Bedyddwyr Cymraeg yn Llandybïe, ac yno y bedyddiwyd Eirwyn gan y Parchg Richard Lloyd, ac yno ymhen amser y dechreuodd bregethu
  • MORGAN, DAVID JENKINS (1884 - 1949), athro a swyddog amaeth Ganwyd ym Mlaendewi, Llanddewibrefi, Ceredigion, 23 Medi 1884, yn ail blentyn a mab hynaf Rhys Morgan, gweinidog eglwys Bethesda (MC), yn y pentre, a Mary ei wraig (ganwyd Jenkins). Ar ddydd olaf Awst 1887 derbyniwyd ef i'r ysgol fwrdd leol, chwe diwrnod ar ôl ei chwaer a oedd 14 mis yn hŷn nag ef, a bu yno hyd 14 Mai 1897. Agorwyd ysgol sir Tregaron yn neuadd y dre dridiau'n ddiweddarach. Yr
  • MORGAN, DAVID LLOYD (1823 - 1892), meddyg yn y llynges Ganwyd yn Rhosmaen, Llandeilo-fawr, mab David Morgan. Astudiodd ffisigwriaeth yn Llundain a Phrifysgol S. Andrews. Ymunodd â'r llynges yn 1846, a dyrchafwyd ef yn staff-feddyg (surgeon) yn 1854. Gwelodd lawer o droeon hynod ar draethau gorllewin Affrica (1847-9) ac yn y Crimea (1850-6), ac yn China gyda'r fyddin (1857-61). Yn 1862-5 yr oedd yn swyddog meddygol ar H.M.S. Euryalus, arolygwr
  • MORGAN, DAVID THOMAS (c. 1695 - 1746), 'Jacobite' mab Thomas a Dorothy Morgan, y tad yn ail fab William Morgan, Coed-y-gorres, a'r fam yn ferch David Mathew, Llandaf, ac ŵyres Syr Edmund Stradling, S. Donat's. Trwy ei fam yr oedd, felly, yn perthyn i deuluoedd tiriog amlwg Sir Forgannwg; trwy ei dad yr oedd, efallai, yn perthyn i Forganiaid Tredegar. Disgrifir ef 'o Benygraig ' (gerllaw Quakers Yard), ym mhlwyf Merthyr Tydfil, eiddo a etifeddodd
  • MORGAN, DEWI (Dewi Teifi; 1877 - 1971), bardd a newyddiadurwr Ganwyd Dewi Morgan 21 Rhagfyr 1877 ym Mrynderwen, Dôl-y-bont, Ceredigion yn fab i William Morgan (1852-1917) a Jane Jones (1846-1922). Pan oedd yn ddwy oed symudodd y teulu i Garn House ym Mhen-y-garn lle bu ei dad yn cadw siop groser ac yn rhedeg busnes glo a chario nwyddau. Ychydig o addysg ffurfiol a gafodd Dewi: ar ôl cyfnod yn helpu gyda busnes ei rieni aeth i weithio at y Cambrian News yn
  • MORGAN, DYFNALLT (1917 - 1994), bardd, beirniad llenyddol a chyfieithydd Ganwyd Dyfnallt Morgan ym Mhenydarren, Merthyr Tudful ar 24 Mai 1917, yn unig blentyn i Osborne Morgan (1881-1937) a'i wraig Frances Jane (ganwyd Hawes, 1882-1966). Roedd teulu ei dad wedi symud o Geredigion i Ferthyr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roedd gwreiddiau teuluol ei fam yn Llanddewi Brefi. Cyfarfu ei rieni yn Llanddewi ar ôl i'w fam symud i'r pentref o Lundain i fyw gyda'i