Search results

493 - 504 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

493 - 504 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DAVIES, JOHN PHILIP (1786 - 1832), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, esboniwr, diwinydd Ganwyd 9 Mawrth 1786, mab i David Davies, clerigwr ym Mangor Teifi a Henllan, Ceredigion. Ymunodd â'r Bedyddwyr yn Nhrefach ac ymaelodi'n ddiweddarach yn Llandysul, lle y gweinidogaethai Daniel Davies, brawd ei dad. Dechreuodd bregethu yn 1804, ac ar gymhelliad Titus Lewis aeth' ar daith genhadol i'r Gogledd ac ymsefydlodd yn weinidog ar Fedyddwyr Sir y Fflint yn Nhreffynnon yn 1810. Symudodd i
  • DAVIES, JOHN SALMON (1940 - 2016), gwyddonydd Ganwyd John Davies ar 7 Mehefin 1940 yn Llandudoch, Sir Aberteifi, yn fab i Theophilus Salmon Davies a'i wraig Megan (ganwyd Davies). Yng nghartref ei fam y cafodd ei eni, ond fe'i magwyd yn Nhrelech, Sir Gaerfyrddin, lle bu ei dad yn dilyn crefft gof cyn troi at ffermio. Aeth John i ysgol gynradd Trelech ac yna i Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin lle'r eginodd ei ddiddordeb mewn
  • DAVIES, JONATHAN CEREDIG (1859 - 1932), teithiwr ac achydd Ganwyd 22 Mai 1859, yn Llangunllo, Sir Aberteifi, mab J. C. Davies. Yn 1875, yn 16 oed, ymfudodd i'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Dychwelodd i Gymru yn 1891, ac yn 1892 golygodd Yr Athrofa - yn yn hwnnw yr ymddangosodd ei ' Anturiaethau yn Nhir y Cewri ' a gyhoeddwyd wedyn yn Saesneg (Llanbedr Pont Steffan, 1892). Yn 1898 ymwelodd ag Awstralia Orllewinol ac aros yno bedair blynedd. Astudiodd
  • DAVIES, JOSEPH (d. 1831?), cyfreithiwr a sylfaenydd y cylchgrawn Y brud a sylwydd Gymraeg, ac yr oedd yn dadelfennu geiriau yn y dull a gymeradwywyd gan William Owen Pughe. Yr oedd yn credu hefyd mewn llunio geiriau Cymraeg newydd ar gyfer anghenion yr oes, a dyna brif diddordeb ei gylchgrawn.
  • DAVIES, JOSEPH E. (1812 - 1881), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn U.D.A. ac awdur Ganwyd yn Cwm-Cati-Fach, Llanarthneu, Sir Gaerfyrddin. Ymfudodd i America gan lanio yn Efrog Newydd 25 Mai 1842. Aeth i'r weinidogaeth, 1842, fe'i hordeiniwyd yn Danville, Pennsylvania, 1842, a bu'n weinidog ar eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Hyde Park, Scranton, Pennsylvania. Cyhoeddodd Blwch Diwinyddol: sef Corff o Dduwinyddiaeth… (Scranton ac Utica, 1869-71) a Crefydd y Byd Cristionogol
  • DAVIES, JOSEPH EDWARD (1876 - 1958), cyfreithiwr rhyngwladol Ganwyd 29 Tachwedd 1876 yn Watertown, Virginia, T.U.A., mab Edward Davies, saer, a Rachel ei wraig, efengyles a bardd a adweinid fel ' Rahel o Fôn '. Treuliodd beth amser yn blentyn yn sir Fôn, ac yn ystod ei ddyddiau coleg deuai bob haf i Gymru a threuliai beth amser gydag Evan Rowland Jones, conswl dros T.U.A. yng Nghaerdydd, a brodor o Dregaron, fel ei dadcu. Y cysylltiad â Tregaron a barodd
  • DAVIES, Syr LEONARD TWISTON (1894 - 1953), noddwr celfyddyd ac astudiaethau bywyd gwerin Ganwyd 16 Mai 1894, yn fab i William L.T. ac M.L. (ganwyd Brown) Davies, Caer. Yr oedd yn orŵyr i Samuel Davies ' y cyntaf ', gweinidog (EF) a'i wraig Mary (ganwyd Twiston). Ysgrifennodd, yn 1932, gyfieithiad Saesneg o Samuel Davies a'i amserau (1866) o barch i'w hendaid. Fe'i haddysgwyd yn Charterhouse ac ym Mhrifysgol Lerpwl. Priododd (1), yn 1918, â Mary Powell ond cawsant ysgariad; a (2), yn
  • DAVIES, LEWIS (1863 - 1951), nofelydd, hanesydd lleol oed. Ef oedd yr awdurdod ar hanes plwyf Penderyn, ac yr oedd ganddo ysgrifau hanesyddol ar ddyffryn Afan, Glyncorrwg, Margam, Blaen-gwrach, Mynachlog Nedd, Morgannwg, &c. Cyhoeddodd Radnorshire (Cambridge University Press, 'County Series'), Outlines of the history of the Afan districts, Ystorïau Siluria, Bargodion hanes a 4 nofel antur- Lewsyn yr heliwr, Daff Owen, Y Geilwad bach a Wat Emwnt. Erys
  • DAVIES, MARGARET (c. 1700 - 1785?), gwraig y ceir amryw lawysgrifau o'i gwaith yn ein llyfrgelloedd cyhoeddus Yr oedd yn ferch i ŵr o'r enw Dafydd Evan o'r Coetgae-du ym mhlwyf Trawsfynydd. Dysgodd reolau cerdd dafod yn ei hieuenctid, a cheir yn Cymru (O.M.E.), xxv, 93-8 gopi o lythyr a anfonasai Michael Prichard ati yn 1728, llythyr a brawf ei bod yn cyfarwyddo'r gwr hwnnw yng nghelfyddyd barddoniaeth Cymraeg. Gellir casglu ei bod yn gymeriad pur amlwg yng nghylchoedd llenyddol Sir Feirionnydd a Sir
  • DAVIES, MARY (Mair Eifion; 1846 - 1882), bardd Ganwyd 17 Hydref 1846 ym Mhorthmadog, lle bu'n byw hyd derfyn ei hoes, merch hynaf Capt. Lewis Davies a Jennet ei wraig, Tregunter Arms, Porthmadog. Addysgwyd hi yn yr ysgol a gedwid ym Mhorthmadog gan ferch i Dr. William Rees ('Gwilym Hiraethog'). Dangosodd hoffter at farddoni'n gynnar ac fe'i hyfforddwyd gan ' Ioan Madog ' a'r prifardd ' Emrys.' Ymddangosodd llawer o'i chynyrchion o dro i dro
  • DAVIES, MARY (1855 - 1930), cantores Ganwyd yn Llundain, 27 Chwefror 1855, merch i William Davies ('Mynorydd'). Daeth i sylw fel cantores yn ieuanc, trwy ei chanu yng nghyngherddau Cymraeg y brifddinas; ei hathrawon cyntaf oedd Brinley Richards a Megan Watts-Hughes. Ymunodd a'r ' Undeb Corawl Cymreig ' o dan arweiniad John Thomas ('Pencerdd Gwalia'). Yn 1873 enillodd ysgoloriaeth o dair blynedd yn y Royal Academy of Music a roddid
  • DAVIES, MATTHEW (fl. 1620), gwleidyddwr etholiadol Syr Thomas Parry pan oedd hwnnw'n siansler y Duchy of Lancaster. Mewn Seneddau diweddarach bu'n eistedd dros etholaethau yn Lloegr - ar y cyntaf yn y mannau hynny yn Wiltshire lle yr oedd teulu Pembroke yn ddylanwadol, eithr peidiodd â chymryd rhan o unrhyw bwys yn y dadleuon. Gan iddo esgeuluso cymryd ei le yn y Senedd Faith fe'i lluddiwyd ('disabled') oherwydd iddo wrthod mynd i'r Senedd pan