Search results

493 - 504 of 877 for "Owen"

493 - 504 of 877 for "Owen"

  • OWEN, - see MAURICE
  • OWEN, DANIEL (1836 - 1895), nofelydd Ganwyd 20 Hydref 1836 yn 53 Maes y Dref, yr Wyddgrug, Sir y Fflint, yr ieuengaf o chwech o blant. Glöwr oedd y tad, a chollodd ef a dau fab eu bywydau pan dorrodd dŵr i waith glo Argoed. Hanfyddai ei fam o deulu 'Twm o'r Nant.' Ychydig o addysg a gafodd Daniel Owen pan oedd yn fachgen, a phan oedd yn 12 oed prentisiwyd ef yn deiliwr am bum mlynedd. Bu'n gweithio am 10 mlynedd wedyn gyda'i hen
  • OWEN, DAVID (Brutus; 1795 - 1866), golygydd a llenor Ganwyd tua diwedd 1795 (bedyddiwyd ef 25 Rhagfyr 1795) ym mhlwyf Llanpumpsaint, Sir Gaerfyrddin. Yr oedd ei dad, David Benjamin (Owen), yn grydd ac yn glochydd, a'i fam Rachel (Owen), yn aelod gyda'r Bedyddwyr. Cafodd addysg dda a hyfforddiant yn y clasuron. Bwriadai fod yn feddyg ac fe'i prentisiwyd gyda John Thomas, Aberduar, ger Llanbydder. Yn ystod ei brentisiaeth troes at y Bedyddwyr a rhoi
  • OWEN, DAVID (Dewi Wyn o Eifion; 1784 - 1841), amaethwr a bardd Ganwyd Mehefin 1784 yn y Gaerwen, plwyf Llanystumdwy, Sir Gaernarfon - ffermdy a saif ar y llaw ddehau i'r ffordd sy'n arwain o orsaf yr Ynys i Langybi yn Eifionydd. Cafodd ei addysg gynnar mewn ysgolion preifat yn Llangybi, Llanystumdwy, a Phenmorfa, wedi cyfnod byr mewn ysgol Saesneg ym Mangor-is-coed, dychwelodd adref i'r Gaerwen. Cadwai ei frawd, Owen, fasnachdy yn Siop y Gaerwen, Pwllheli
  • OWEN, DAVID (Dafydd y Garreg Wen; 1711 - 1741), telynor Bedyddiwyd 27 Ionawr 1711 (cofnod yn Llyfrgell Coleg y Gogledd), mab Owen Humphreys, Ynyscynhaearn, Sir Gaernarfon, a Gwen (Roberts), Isallt Fawr, Llanfihangel-y-pennant (Eifionydd) - gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 353. Fe'i dygwyd i fyny'n delynor, ac y mae llawer o draddodiadau amdano; priodolir iddo'r alawon ' Dafydd y Garreg Wen,' ' Codiad yr Ehedydd,' a ' Difyrrwch Gwyr Cricieth.' Bu farw
  • OWEN, DAVID (d. 1765) Felinfoel, gweinidog gyda'r Bedyddwyr
  • OWEN, Syr DAVID JOHN (1874 - 1941), rheolwr dociau Ganwyd yn Lerpwl ar 8 Mawrth 1874 yn fab i R. Ceinwenydd Owen, gweinidog (MC), ac Elizabeth Jane (ganwyd Jones). Priododd (1), yn 1899, â Mary Elizabeth (bu farw 1906) merch Capten William Owen, Caernarfon; priododd (2), yn 1908, â Marian Maud, gweddw J. H. Thomas, Caerfyrddin, a merch William Williams Hwlffordd, ond ni fu iddynt blant. Addysgwyd ef yn y Liverpool Institute a chychwynnodd ar ei
  • OWEN, DAVID SAMUEL (1887 - 1959), gweinidog (MC) Ganwyd 12 Mawrth 1887 yn Rhuthun, Dinbych, mab Samuel a Harriet Owen. Addysgwyd ef yn ysgolion elfennol Rhuthun ac Abergele; ysgol sir Abergele; Coleg y Brifysgol, Bangor (lle graddiodd yn y celfyddydau); a Choleg Diwinyddol Aberystwyth. Dechreuodd bregethu yn 1905 ym Methlehem, Bae Colwyn. Ordeiniwyd ef yn 1913, a bu'n weinidog yn Siloh, Llanelli (1913-15) cyn ei alw i eglwys Jewin, Llundain, a
  • OWEN, EDWARD (1728/9 - 1807), clerigwr ac ysgolfeistr Mab David Owen, Llangurig, Sir Drefaldwyn (gweler dan deulu Owen o Gefn-hafodau). Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 22 Mawrth 1745/6, yn 17 mlwydd oed. Graddiodd B.A. 1749 ac M.A. 1752. Yn 1752 penodwyd ef yn athro ysgol ramadeg Warrington. Yn 1763 gwnaed ef yn beriglor Capel Sankey, Warrington, ac yn 1767 yn rheithor Warrington. Yr oedd yn ysgolhaig da, ac enwogodd ei hunan fel clerigwr ac
  • OWEN, EDWARD (1853 - 1943), bargyfreithiwr, swyddog yn y gwasanaeth sifil, hynafiaethydd, a hanesydd Ganwyd ym Mhorthaethwy, Sir Fôn, 9 Mawrth 1853, unig fab Edward a Sarah Owen a fu am gyfnod yn ddirprwy prif gwnstabl sir Fôn. Symudodd y teulu i Gaergybi yn 1863. Addysgwyd ef yn ysgol John Evans ym Mhorthaethwy, ac mewn ysgol breifat yn Nulyn. Efe oedd y Cymro cyntaf i gael ei dderbyn i'r gwasanaeth sifil ar bwys arholiad; dechreuodd weithio yn yr India Office c. 1873 a bu yno hyd nes
  • OWEN, EDWARD HUMPHREY (1850 - 1904) Tŷ Coch,, casglwr llyfrau a llawysgrifau a hanesydd lleol Ganwyd 20 Rhagfyr 1850, mab John Owen, marsiandwr coed, etc., ac Elizabeth ei wraig. Yr oedd i E. H. Owen ddiddordeb arbennig mewn hanes lleol ac yn enwedig yn hanes ei hynafiaid, ac arweiniodd hyn ef i gynnull llyfrgell werthfawr o lyfrau a llawysgrifau. Prynwyd y llyfrgell yn 1910 gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a chedwir hi ar ei phen ei hun ymhlith y 'casgliadau sylfaenol.' Ceir manylion am
  • OWEN, EDWARD PRYCE (1788 - 1863), clerigwr ac arlunydd Ganwyd ym mis Mawrth 1788, unig fab yr archddiacon Hugh Owen (1761 - 1827). Cafodd ei addysg yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt (B.A. 1810, M.A. 1816). Bu'n gwasnaethu am gyfnod yng nghapel Park Street, Grosvenor Square, Llundain, cyn cael rhoddi iddo (27 Chwefror 1823) ficeriaeth Wellington a rheithoraeth Eyton-upon-the-Wildmoors, Swydd Amwythig; ymddeolodd o'r ddwy fywoliaeth hyn yn 1840