Search results

3877 - 3888 of 3962 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

3877 - 3888 of 3962 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • WILLIAMS, WILLIAM (Carw Coch; 1808 - 1872), eisteddfodwr a llenor Ganwyd 6 Mawrth 1808 gerllaw Aberpergwm yn nyffryn Nedd, yn fab i Noah a Joan Williams, aelodau o gynulleidfa Undodaidd Blaen Gwrach. Symudodd yn ifanc i Dredegar, ac oddi yno i Lwydcoed, Aberdâr lle y priododd (1832) â merch o un o hen deuluoedd yr ardal. Yn 1837, cododd y gwesty yn Nhrecynon a elwid 'y Stag' - dyna'r eglurhad ar ei ffugenw - ac yno y bu weddill ei fywyd. Yr oedd yn wleidydd
  • WILLIAMS, WILLIAM (fl. 1853), cyfieithydd Uncle Tom's Cabin. yn 1853. Gweler bellach nodyn E. Wyn James yn Canu Gwerin, 27 (2004), t.46 (n.27), lle dangosir mai Thomas Levi oedd awdur y ddwy gyfrol a gyhoeddwyd dan y ffugenw 'Y Lefiad'. Cyfrannodd y gweinidog Methodist William Williams (1817-1900) ragymadrodd i gyfieithiad Thomas Levi, Crynodeb o Gaban 'Newyrth Tom (1853).
  • WILLIAMS, WILLIAM (1781 - 1840), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn Cwm-hyswn-ganol, plwyf Llanfachreth, Sir Feirionnydd, yn 1781 (bedyddiwyd ef 18 Tachwedd 1781 yn eglwys Llanfachreth); ei fam yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ond nid ymddengys fod ei dad William Probert, saer coed a thyddynnwr, yn aelod eglwysig er ei fod yn ŵr bucheddol. William oedd y chweched o saith o blant; câi'r enw o fod yn llanc mwy nwyfus a direidus na'r rhelyw o blant
  • WILLIAMS, WILLIAM (1738 - 1817) Llandygái, llenor, hynafiaethydd, a swyddog pwysig ar gloddfa lechi Cae-braich-y-cafn berchenogion stadau fel Gwaenynog yn sir Ddinbych a Meillionydd yn Llŷn. Nid anaml ychwaith y ceisid ganddo weithredu fel athrywynnwr a chanolwr rhwng meistr a ffermwr, rhwng ffermwr a ffermwr. Pwynt pwysig arall yn ei yrfa oedd argyhoeddiad Richard Pennant, yr arglwydd Penrhyn cyntaf, mai William Williams oedd yr union ddyn i lywio codi, cludo, a gwerthi'r llechi; parhaodd yr oruchwyliaeth hon o 1782 i 1802
  • WILLIAMS, WILLIAM (c. 1625 - 1684), hynafiaethydd Ganwyd c. 1625, ail fab Edward Williams Carwed Fynydd, Llannefydd, sir Ddinbych. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Westminster, ac yn 1642 ymaelododd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, lle y graddiodd yn B.A. yn 1647/8 ac yn M.A. yn 1657. Yn 1660 cyflwynwyd ef gan Robert, arglwydd Bulkeley, i fywoliaeth Llandegfan a Biwmares, er nid ymddengys iddo ddal y swydd ond am flwyddyn. Gadawodd Landegfan yn 1668 i
  • WILLIAMS, WILLIAM (1717 - 1791), clerigwr Methodistaidd, awdur, ac emynydd Ganwyd yn 1717 yn y Cefncoed, Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin, mab John a Dorothy Williams. Yr oedd ei dad yn henuriad llywodraethol yn eglwys Annibynnol Cefnarthen. Addysgwyd ef, gyda'r bwriad o fod yn feddyg, yn athrofa Llwynllwyd; ac yn ystod ei dymor yno cafodd dröedigaeth o dan weinidogaeth Howel Harris ym mynwent Talgarth. Ymunodd â'r Eglwys Sefydledig ac ordeinwyd ef yn ddiacon yn 1740
  • WILLIAMS, WILLIAM (Myfyr Wyn; 1849 - 1900), gof, bardd, ac hanesydd lleol Cyfrannwr llithiau cyson i newyddiaduron Cymraegyn enwedig Tarian y Gweithiwr yn y naw degau. Fe'i ganed ar Dwyn Star, Tredegar. Mab ydoedd i John a Hannah Williams. Glöwr oedd ei dad, genedigol o ardal Aberteifi, a fu farw wedi damwain ym mhwll glo Bryn Bach, Tredegar, pan nad oedd ' Myfyr Wyn ' ond bachgen, ac yn un o bedwar o blant. Ganed ei fam yn Nant-y-bwch yn 1819 i deulu a ddaethai yno o
  • WILLIAMS, WILLIAM (1717 - 1800), gweinidog gyda'r Annibynwyr - see WILLIAMS, ABRAHAM
  • WILLIAMS, WILLIAM - see WILLIAMS, Roger
  • WILLIAMS, Syr WILLIAM (d. 1740), barwnig - see WILLIAMS, Syr WILLIAM
  • WILLIAMS, WILLIAM ALBERT (1909 - 1946), organydd, beirniad, a chyfansoddwr Ganwyd yn Lerpwl, 16 Ionawr 1909, mab Capten Richard Williams ac Anne Williams, y ddau o'r Marian-glas, sir Fôn. Boddwyd ei dad pan oedd Albert yn 4 oed a bu farw ei fam ac yntau'n 15 oed. Gofalwyd amdano ef a'i frawd a'i chwaer gan Mrs. Stanley Jones, Lerpwl, chwaer i'w fam. Dechreuodd ddysgu canu'r piano a'r organ yn ifanc iawn, ac apwyntiwyd ef yn organydd capel M.C. Chatham St., Lerpwl, pan
  • WILLIAMS, WILLIAM AUBREY (Gwilym Gwent; 1834 - 1891), cerddor Ganwyd 28 Gorffennaf 1834 yn ôl Blackwell yn Nhredegar, sir Fynwy. Cymerai ddiddordeb mewn canu yn blentyn, ac yn 10 oed canai alto yng nghôr ei ewythr yn Rhymni. Gof ydoedd wrth ei alwedigaeth. Symudodd yn ddyn ieuanc i fyw i Blaenau Gwent, a bu'n arwain y seindorf yno. Priododd yn 1862. Yr oedd y cyfansoddwr mwyaf poblogaidd yn ei gyfnod a chyfansoddodd nifer fawr o ddarnau cerddorol, yn