Search results

373 - 384 of 894 for "Medi"

373 - 384 of 894 for "Medi"

  • JONES, DAVID BEVAN (Dewi Elfed; 1807 - 1863), gweinidog (B ac Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf - Mormoniaid) symud pencadlys y Saint Cymreig o Ferthyr i Abertawe ym Medi 1854. Daeth ei lywyddiaeth yno i ben yng Ngorffennaf 1855 pan gyhuddwyd ef o dwyll ariannol a'i esgymuno. Er iddo gymodi â'i eglwys a'i harweinwyr yn Ebrill 1856, ni roddwyd swydd iddo byth wedyn yng ngweinyddiad y Genhadaeth Gymreig. Yn hytrach, manteisiwyd ar ei ddawn diamheuol fel pregethwr a dadleuwr miniog i'w anfon o gwmpas de Cymru i
  • JONES, DAVID HUGH (Dewi Arfon; 1833 - 1869), gweinidog (MC), ysgolfeistr a bardd blynedd yn athro yn ysgol Frytanaidd Llanrwst, lle y daeth yn gyfeillgar iawn â Threbor Mai a beirdd eraill y cylch. Tra oedd yn Llanrwst y dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth. Ef oedd yr athro pan ddechreuodd John Lloyd Williams, y cerddor a'r llysieuydd, fel disgybl ynddi. Tua therfyn y cyfnod hwn y dechreuodd bregethu. Ond yn y Capel Coch, Llanberis, ym Medi 1861 y codwyd ef i bregethu 'n
  • JONES, DAVID LEWIS (1788 - 1830), gweinidog Ariaidd ac athro coleg . Ni bu yma'n hir oherwydd fe'i hetholwyd yn athro yn y clasuron yng Ngholeg Caerfyrddin yn 1814, ac yn weinidog Capel Seion, Llanddarog, a bu yma hyd ei farw cynnar ar 8 Medi 1830 yn 41 mlwydd oed. Bu cynnwrf adeg ei apwyntio'n athro, a cheisiodd David Davis, Castell Nedd, a John James, Gellionnen, sefydlu academi newydd ond ni ddaeth dim o'r peth. Yn ystod pum mlynedd olaf ei oes yr oedd yn
  • JONES, EDMUND DAVID (1869 - 1941), ysgolfeistr ac awdur Ganwyd yn Nhrawsfynydd, 9 Medi 1869. Bu ei dad farw pan oedd y plentyn yn ieuanc a than ofal mam o alluoedd cryf a'i daid, David Jones, gŵr amlwg gyda'r Bedyddwyr Albanaidd, y magwyd ef. Cydnabyddai ddyled i brifathro ysgol y pentre ac i'w athrawon yn ysgol uwchradd Blaenau Ffestiniog. Yn 1885, aeth i ysgol ramadeg y Bala ac yn 1886 i goleg y Brifysgol ym Mangor. Graddiodd gydag anrhydedd mewn
  • JONES, EDMUND OSBORNE (1858 - 1931), clerigwr Ganwyd yn Abermaw 24 Medi 1858, ail fab John Jones, rheithor Llanaber ac Abermaw, ac Adelaide ei wraig. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Dolgellau ac Ysgol Friars, Bangor, dan D. L. Lloyd. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Merton, Rhydychen; cafodd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn yr arholiad cyntaf yn y clasuron yn 1878, a graddio yn 1880. Bu'n athro am beth amser yn Trowbridge, ac urddwyd ef yn
  • JONES, EDWARD (1790 - 1860), gweinidog gyda'r M.C. Ganwyd 11 Medi 1790, mab Edward Jones, Rhiwlas, plwyf Llanfihangel-genau'r-glyn, Sir Aberteifi, a Mary ei wraig. Addysgwyd ef i fod yn gyfrwywr, ac yn 20 oed aeth i Lundain lle y clywodd John Elias yn pregethu, ac yna i Fryste. Dychwelodd i'w gynefin a dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; neilltuwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1829. Rhagorai nid yn gymaint fel pregethwr
  • JONES, EDWARD (d. 1586), cynllwynwr ei ben ei hun ac i Jones gael ei ddal yn Llundain). Cyffesodd Jones ei ffydd a chyfaddefodd ei fod wedi cuddio brad ei gyfaill a'i gynorthwyo i ddianc. Ond dywedodd ei fod wedi ceisio perswadio Salusbury i beidio â chynllwynio, a datganodd ei deyrngarwch i'r frenhines. Er hynny dienyddiwyd ef am fradwriaeth ar Tower Hill, 21 Medi 1586, ac aeth ei stad, gan gynnwys Plas Cadwgan, yn fforffed i'r
  • JONES, EDWARD OWEN (E.O.J.; 1871 - 1953), newyddiadurwr ac englynwr englynwr medrus. Cynigiai bob blwyddyn ar yr englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol; enillodd y gystadleuaeth yn Eisteddfod Llandybïe 1944 am englyn i'r neidr: 'un o'r pethau salaf ddaru mi 'rioed'. Bu farw 18 Medi 1953.
  • JONES, ELIAS HENRY (1883 - 1942), gweinyddwr ac awdur Ganwyd yn Aberystwyth 21 Medi 1883, mab hynaf Syr Henry Jones ac Annie Walker. Addysgwyd ef yn ysgol uwchradd Glasgow, Prifysgol Glasgow, Prifysgol Grenoble a choleg Balliol, Rhydychen. Wedi cael ei alw i'r Bar, llwyddodd yn yr arholiadau ar gyfer gradd weinyddol Gwasanaeth Gwladol yr India, ac ym 1905 aeth i Bwrma i wasanaethu. Ymddeolodd ym 1922, ac yntau ar y pryd yn dal swydd Comisiynydd
  • JONES, ELIZABETH MAY WATKIN (1907 - 1965), athrawes ac ymgyrchydd flwyddyn ganlynol, ynghyd â chydnabyddiaeth o statws Cynorthwy-ydd Didystysgrif ('Uncertified Assistant') oddi wrth Adran Gymreig y Bwrdd Addysg yn Whitehall. Arhosodd Elizabeth yn Ysgol Celyn am ddeng mlynedd hyd nes yr arweiniodd cwymp yn niferoedd y plant at symudiad i ysgol gyfagos Maesywaun ym Medi 1936. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, symudodd i Ysgol Ganolog y Bala, lle y'i gosodwyd yng ngofal
  • JONES, EMYR WYN (1907 - 1999), cardiolegydd ac awdur Cymraeg Lerpwl, y bu'n llywydd arno 1971-1987. Roedd y ddau wedi ymserchu yn hanes a gweithgareddau'r Crynwyr. Bu Enid Wyn Jones farw ar 15 Medi 1967 mewn awyren uwchben Bangkok ar ei ffordd adref o gynrychioli Cymru mewn cynhadledd fyd-eang yr YWCA ym Melbourne, Awstralia, a'i phriod wrth ei hochr. Lluniodd Emyr ysgrif deimladwy, 'Teyrnged Serch', i'r Y Traethodydd yn 1969 a golygodd In Memoriam (1968
  • JONES, ENID WYN (1909 - 1967), gwraig nodedig am ei gweithgarwch ym mywyd crefyddol a chymdeithasol Cymru a Lloegr Caerdydd. Ar 9 Medi 1936 priododd ag Emyr Wyn Jones, brodor o'r Waunfawr, Caernarfon, a ffysigwr yn Lerpwl, a bu iddynt ddau o blant. Ymgarterfai yn Llety'r Eos, Llansannan, gan dreulio cyfran o'i hamser yn Lerpwl. Yn rhinwedd ei gwahanol swyddi teithiai'n helaeth ledled Cymru a Lloegr. Gyda gwaith y Y.W.C.A. hi oedd llywydd Cyngor Cymru ac is-lywydd Cyngor Prydain o 1959 hyd 1967, ac yr oedd yn aelod o