Search results

3637 - 3648 of 3963 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

3637 - 3648 of 3963 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • WILLIAMS, DAVID (1793? - 1845), awdur Ganwyd c. 1793 yng Nglandŵr, gerllaw Abertawe. Daeth yn aelod gyda'r Annibynwyr yn y Mynydd-bach. Ymfudodd i Mexico, gan adael Hwlffordd, Sir Benfro, ar 12 Mawrth 1825 a chyrraedd Vera Cruz ar 13 Mai; dysgodd beth Sbaeneg yn ystod y fordaith. Cyhoeddodd Llythyrau Cymro yn Mexico at ei Gyfeillion yn Nglandwr wrth Abertawy … (Abertawy, 1827); cyhoeddwyd dwy ran allan o dair a arfaethid a chafwyd
  • WILLIAMS, DAVID (1779 - 1874) Troedrhiwdalar, gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 27 Ionawr 1779 yn Nantydderwen, plwyf Llanwrtyd, sir Frycheiniog. Hanoedd o hen linach enwog yn y fro, ac o ochr ei fam o deulu John Penry; cafodd hyfforddiant crefyddol ar aelwyd ei rieni, a bu am ysbaid yn ysgol offeiriad plwyf Llanwrtyd. Derbyniwyd ef yn aelod yn Llanwrtyd gan Isaac Price. Prentisiwyd ef yn grydd. Aeth i Lanymddyfri yn 1796 a Merthyr Tydfil yn 1797, a bu ganddo ran
  • WILLIAMS, DAVID (1709 - 1784), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn 1709 yn ail fab i William a Catherine David, Pwll-y-pant (rhwng Caerffili a Llanbradach) - yr oedd y teulu'n dda eu byd. Bu yn academi Caerfyrddin dan Perrott, ac yn 1734 urddwyd ef yn weinidog eglwys (Saesneg) Trinity, Caerdydd. Bechan a marwaidd oedd cynulleidfa Trinity, ond yr oedd David Williams (fel ei ragflaenydd) hefyd yn fugail Annibynwyr gwasgarog plwyf Eglwysilan, a ymgynullai
  • WILLIAMS, DAVID (Iwan; 1796 - 1823), gweinidog gyda'r Bedyddwyr of baptism. Cyhoeddwyd ei awdl ar ' Cerddoriaeth ' gyda Grisiau Cerdd Arwest (' Ieuan Ddu '). Ddechrau 1822, byrddiodd ef a'r eiddo long yng Nghaerfyrddin i fyned yn weinidog ac ysgolfeistr yn swydd Dyfnaint, eithr gorfododd ystorm aruthr hwynt i lochesu yn Abertawe. Rhoes Joseph Harris ('Gomer') lety i'r teulu, a chadw David Williams i bregethu i'r Saeson a hyfforddi ei fab John yn y clasuron. Bu
  • WILLIAMS, DAVID (1717 - 1792), gweinidog Annibynnol Methodistaidd Ganwyd yn Is-coed, Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin, mab William Dafydd. Brawd iddo oedd Richard William Dafydd, y cynghorwr. Daeth i Forgannwg yn ieuanc yn was i Christopher Bassett, ieu., Aberddawen, a dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid c. 1742. Nid oes sicrwydd ai ef oedd y David Williams a benodwyd yn gynghorwr preifat yn sasiwn Watford, 1743, ond gwyddys iddo bregethu llawer yn
  • WILLIAMS, DAVID (Alaw Goch; 1809 - 1863), perchennog pyllau glo ac eisteddfodwr Ganwyd 12 Gorffennaf 1809 yn Llwyn Drain, plwyf Ystradowen, Sir Forgannwg. Tua'r flwyddyn 1821 symudodd ei rieni i Aberdâr a bu'r mab yn dilyn galwedigaeth ei dad, sef llifiwr coed, am beth amser. Ymhen ychydig amser, fodd bynnag, aeth David Williams i fyd y glo, a thrwy ei ddycnwch, ei allu, a'i ddyfalbarhad cyrhaeddodd i safle o bwys ym myd y diwydiant glo yn Neheudir Cymru. Yn Ynyscynon
  • WILLIAMS, DAVID (1799 - 1869), Aelod Seneddol - see WILLIAMS
  • WILLIAMS, DAVID (1738 - 1816), llenor a phamffledydd gwleidyddol Ganwyd yn 1738 yn Waunwaelod (y Carpenters' Arms yn ddiweddarach), plwyf Eglwysilan, gerllaw Capel Watford, ar ochr heol (nid y briffordd) yn arwain o Gaerffili i Gaerdydd. William David (un o ddychweledigion Howel Harris), a aned yn Llwynybarcud, plwyf Llanharry, oedd ei dad. Cafodd ei addysg mewn ysgol a gedwid yn y gymdogaeth gan David Williams (1709 - 1784). Yn unol â dymuniad a wnaeth ei dad
  • WILLIAMS, DAVID CHRISTMAS (1871 - 1926), cerddor Ganwyd 12 Medi 1871 yn Llanwrtyd, sir Frycheiniog, mab Gruffydd Christmas ac Elizabeth Evans. Yr oedd y fam yn gantores dda, ac etifeddodd y mab y dalent gerddorol, ac erbyn bod yn 14 oed yr oedd wedi cyfansoddi amryw ddarnau cerddorol. Yn 17 oed aeth i Gaerdydd at Joseph Parry am gwrs o addysg gerddorol. Yn 1890 penodwyd ef yn athro cynorthwyol i Parry yng Ngholeg Cerddorol y De, ac yn organydd
  • WILLIAMS, DAVID DAVID (1862 - 1938), gweinidog (MC) ac awdur Ganwyd yng Ngarthlwynog, Croesor, Meirionnydd, mab David a Grace Williams. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Gelli-gaer, Coleg y Bala, ac yng Ngholegau'r Brifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd. Ordeiniwyd ef yn 1891, a bu'n gweinidogaethu ym Mheniel, Ffestiniog (1890-96); Croesoswallt (1896-1906); Moss Side, Manceinion (1906-15); a David St. (wedi hynny Belvidere Road), Lerpwl (1915-38). Priododd, c
  • WILLIAMS, DAVID EWART PARRY - see PARRY-WILLIAMS, DAVID EWART
  • WILLIAMS, DAVID JAMES (1897 - 1972), gwleidydd Llafur Ganwyd ef ar Wauncaegurwen ar 3 Chwefror 1897, yn fab i Morgan Williams, glöwr, a Margaretta Jones. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Gwauncaegurwen, dechreuodd weithio mewn pwll glo ym 1911, a bu wedyn yn fyfyriwr yn y Coleg Llafur Canolog yn Llundain, sefydliad Marcsaidd, 1919-21. Bu yn ddi-waith am gyfnod cyn treulio'r flwyddyn 1922-23 yng Ngholeg Ruskin, Rhydychen. Cyhoeddodd y gyfrol bwysig