Search results

325 - 336 of 572 for "Morgan"

325 - 336 of 572 for "Morgan"

  • MORGAN, JOHN (1662 - 1701), clerigwr ac awdur Ganwyd yn sir Feirionnydd yn 1662. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1684, ac yn offeiriad yn 1685; bu'n gurad Llanllechid ac Aber, Sir Gaernarfon, 1685 hyd 1693(?). Yna, efrydydd yn Rhydychen, hyd 1697 yn ôl pob tebyg, pan wnaed ef yn ficer Aberconwy. (Nid yr un â John Morgan, ficer Matchin (1688 - 1734?), ei gyfoesydd.) Yng Nghonwy ysgrifennodd ei Bloeddnad Ofnadwy yr Utcorn Diweddaf, a gyhoeddwyd
  • MORGAN, JOHN (1886 - 1957), Archesgob Cymru Ganwyd 6 Mehefin 1886 yn rheithordy Llandudno, Caernarfon, yr ieuangaf o bump o blant John Morgan (Archddiacon Bangor, 1902-24). Cafodd ei addysg yn ysgol genedlaethol S. Siôr, Llandudno, ysgol yr eglwys gadeiriol Llandaf, lle'r oedd yn unawdydd yn y côr, Coleg Llanymddyfri a Choleg Hertford, Rhydychen, gydag ysgoloriaeth, a Choleg Cuddesdon. Graddiodd yn B.A., 1910, M.A., 1914, D.D. Prifysgol
  • MORGAN, Syr JOHN (fl. 1688), milwr - see MORGAN, Syr THOMAS
  • MORGAN, JOHN EDWARD (1828 - 1892), athro meddygol - see MORGAN, GEORGE OSBORNE
  • MORGAN, JOHN JAMES (1870 - 1954), gweinidog (MC) ac awdur Ganwyd ym Mawrth 1870 yng Nglynberws, Ysbyty Ystwyth, Ceredigion, mab Dafydd Morgan ('Y Diwygiwr') a Jane ei briod. Addysgwyd ef yn ysgol fwrdd Ysbyty Ystwyth; ysgol Ystradmeurig, ysgol Thomas Owens, Aberystwyth; Coleg Aberystwyth a Choleg Trefeca. Ordeiniwyd ef yn 1894, a bu'n gweinidogaethu yn y Bont-faen, Morgannwg (1893-95) a'r Wyddgrug (1895-1946). Priododd 1895, Jeanetta Thomas, Llancatal
  • MORGAN, JOHN JENKYN (Glanberach; 1875 - 1961), hanesydd lleol a thraethodwr Ganwyd yn y Bodist Isaf, Glanaman, Caerfyrddin, 10 Awst 1875, yn fab i Jenkin ac Angharad Morgan. Addysgwyd ef yn ysgol Frytanaidd Bryn-lloi, Glanaman, ond dechreuodd weithio yng nglofa'r Mynydd, Cwmaman, pan oedd yn 12 oed. Bu wedyn yn gweithio ym melin gwaith alcan y Raven, Glanaman, tan ei ymddeoliad yn 1930. Priododd â Harriet, merch Thomas a Sarah Jones o Siop Bryn-lloi, Glanaman, 5 Hydref
  • MORGAN, JOHN LLOYD (1861 - 1944), barnwr llys sirol Ganwyd 13 Chwefror 1861, yng Nghaerfyrddin, mab y Parch. W. Morgan, gweinidog gyda'r Annibynwyr ac athro yng ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, a'i wraig Margaret, merch Thomas Rees, Capel Tyddist, Llandeilo. Cafodd ei addysg yng ngholeg Tattenhall, swydd Stafford, a choleg y Drindod, Caergrawnt. Daeth yn ynad heddwch yn siroedd Caerfyrddin, Penfro, a Morgannwg; bu'n aelod seneddol (Rhyddfrydwr
  • MORGAN, JOHN RHYS (Lleurwg; 1822 - 1900), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, darlithydd, bardd, a llenor Ganwyd 3 Awst 1822, yn ôl pob tebyg (ond 7 neu 17 Awst yn ôl rhai ffynonellau), ym Maes-y-felin, Llysfaen, ger Caerdydd, yn chweched o 12 plentyn a aned i Rees Morgan (ganwyd 1792) a Mary Edmunds (ganwyd 1790) o Faes-y-felin, ac wedi hynny o Faes-y-crochan, Llaneurwg, a oedd yn fodryb i Thomas Davies, prifathro Coleg y Bedyddwyr, Hwlffordd. Cafodd ei addysg yn y Llysfaen ac yng Nghaerffili, ac
  • MORGAN, JOSEPH BICKERTON (1859 - 1894), daearegwr ac arbenigwr mewn cregynyddiaeth Ganwyd 26 Mehefin 1859 yn y Trallwng, Sir Drefaldwyn, mab Arthur J. Morgan. Pan oedd yn ieuanc dechreuodd gymryd diddordeb yng nghreigiau ei ardal enedigol ac enillodd y wobr gyntaf yn eisteddfodau cenedlaethol Caerdydd (1883) a Chaernarfon (1886) am gasgliadau o ffosylau. Yn 1887 dewiswyd ef yn geidwad cynorthwyol (di-dâl) y Powysland Museum yn y Trallwng, a bu'n trefnu ac ychwanegu at y
  • MORGAN, MAURICE - see MORGANN, MAURICE
  • MORGAN, MORGAN PARRY (1876 - 1964), gweinidog (MC) a phregethwr grymus Ganwyd 8 Gorffennaf 1876, yn unig fab i Evan Morgan, Brynseir, Lledrod, Ceredigion a Chatherine (ganwyd Parry), ei wraig, merch Morgan Parry, arolygydd stad y Trawsgoed. Pan oedd yn chwech oed symudodd y teulu i Bontycymer, gan ymaelodi yn eglwys Bethel (MC) yno. Cafodd ei addysg yn yr ysgol fwrdd ym Mhontycymer, ond rhoddai bwys mawr ar ddylanwad yr Ysgol Sul arno. Bu am ryw faint o gylch 1889
  • MORGAN, OWEN (Morien; 1836? - 1921), newyddiadurwr ac ysgrifennwr ar bynciau amrywiol Bu farw 16 Rhagfyr 1921 (Western Mail), ac ar yr achlysur hwnnw dywedwyd ei fod dros 80 oed a'i fod yn fab i Thomas T. Morgan a'i wraig, Margaret, o Ben-y-graig, Rhondda. Cuddiasai ei oedran yn gyson. Yng nghopi'r esgob o gofrestr plwyf Ystradyfodwg cofnodir bedyddio Owen, mab Thomas a Margaret Morgan o Dinas [Rhondda], 23 Chwefror 1836, ac ymddengys yn weddol sicr mai at wrthrych yr ysgrif hon y