Search results

313 - 324 of 745 for "Dic Siôn Dafydd"

313 - 324 of 745 for "Dic Siôn Dafydd"

  • HUW ap RICHARD ap SION ap MADOG - see HUW BODWRDA
  • HUW BODWRDA (fl. 1566) Fodwrda,, boneddwr, bardd, a noddwr beirdd
  • HUW CAE LLWYD (fl. 1431-1504), bardd moliant i Syr Rhys ap Tomos a gynorthwyodd Harri 'r VII ym mrwydr Bosworth yn 1485. Yn ôl pob tebyg, dychwelodd yn ei henaint i fro ei febyd yn y Gogledd, a dywed traddodiad ei gladdu yn Llanuwchllyn, lle'r huna'r beirdd Llawdden, Madog Benfras, a Sion Ceri.
  • HUW CEIRIOG (fl. c. 1560-1600), bardd Brodor o sir Ddinbych a raddiodd yn ddisgybl disgyblaidd cerdd dafod yn eisteddfod Caerwys, 1568 (Peniarth MS 132 (59)). Ceir peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, a hwnnw'n cynnwys cywyddau ysgafn i serch a natur, rhai eraill i Simwnt Thelwal o Blas y Ward, Sion Salbri o Lyweni (marwnad), ac un o fawl i Blas Moelyrch. Ceir hefyd englyn ganddo i'r eisteddfod a enwyd uchod. Cynnwys y
  • HUW DAFI (fl. 15fed-16eg ganrif), bardd Ceir yr enw 'Huw Dafi,' 'Huw Dafi o dir Llŷn,' a 'Huw Dafi o Wynedd' wrth farddoniaeth mewn llawysgrifau. Ni wyddys dim am y bardd - neu'r beirdd - ac nid yw'n glir ai yr un ydynt â'r Huw ap Dafydd y ceir llawer o'i waith yn y llawysgrifau.
  • HUW LLWYD ap DAFYDD ap LLYWELYN ap MADOG - see HUW ap DAFYDD ap LLYWELYN ap MADOG
  • HUW LLŶN, bardd Brodor o Lŷn a raddiodd yn ddisgybl pencerddaidd cerdd dafod yn eisteddfod Caerwys yn 1568 (Peniarth MS 132 (59)). Efallai ei fod yn frawd i Wiliam Llŷn (NLW MS 1244D (28), NLW MS 1580B (308); Bulletin of the Board of Celtic Studies, ix, 112, etc.). Dywedir gan ' Myrddin Fardd,' J. E. Griffith, a J. C. Morrice mai'r boneddwr Huw ap Rhisiart ap Dafydd o Gefn Llanfair oedd Huw Llŷn. Gwyddys fod Huw
  • HUW MACHNO (fl. 1585-1637), bardd Mab Owen ab Ieuan ap John o Benmachno, a olrheiniai ei hynafiaid o Ddafydd Goch, Penmachno, mab ordderch Dafydd, tywysog Cymru. Ei fam oedd Margaret ferch Robert ap Rhys ap Hywel. Ni wyddys pa bryd y ganwyd ef, ond dywedir iddo farw yn 1637, a bod yr ysgrifen ' H.M. obiit 1637 ' ar ei garreg fedd ym mynwent Penmachno. Ymddengys iddo fod yn ddisgybl i Siôn Phylip, oherwydd yn ei farwnad i'r bardd
  • HUW PENNAL (fl. 15fed ganrif), bardd brodor, y mae'n debyg, o Bennal yn Sir Feirionnydd. Cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau, ac yn ei blith gywyddau i'r iarll Wiliam Herbert o Benfro, Dafydd ap Rhys o Langurig, tri mab Ieuan Blaenau o Gregynog, a dau gywydd serch. Ni wyddys unrhyw fanylion am ei fywyd, ond y mae'n amlwg bod y dyddiadau a roir iddo yn Blackwell, a W. Owen, Cambrian Biog., yn rhy ddiweddar.
  • HUW PENNANT Syr (fl. yn ail hanner y 15fed ganrif), offeiriad, bardd, hynafiaethydd Mab Dafydd Pennant, Bychton, gerllaw Holywell, Sir y Fflint, a brawd i Thomas Pennant, abad Dinas Basing. Cadwyd peth o'i farddoniaeth, sef cywyddau brud, mewn llawysgrifau. Llawysgrif a wnaeth Syr Huw ei hun tua 1514 yw Peniarth MS 182, yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, achau, barddoniaeth, a'i gyfieithiad i'r Gymraeg o destun Lladin Buchedd Wrsula S.
  • HUW, THOMAS (fl. c. 1574-1606), bardd brodor, y mae'n debyg, o Ogledd Cymru. Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau ac yn ei phlith gywyddau moliant i Harri Wyn o Fôn a Siôn Wyn Amhorys (Brogyntyn MS. 6 (157b); Llanstephan MS 11 (21), cywydd marwnad Rhisiart Llwyd o'r Llannerch Fawr yn Llŷn (Llanstephan MS 123 (114), cywydd i ofyn cymod ieuenctid (NLW MS 783B (128), cywydd ateb i gywydd gan Rhobert Elis (Jes. Coll. MS. 16, ii
  • HYWEL ab EINION LLYGLIW (fl. c. 1330-70), bardd Ewythr i'r bardd Gruffudd Llwyd ap Dafydd ab Einion Llygliw. Ni wyddys dim o'i hanes, ond cadwyd ei awdl serch i Myfanwy Fychan o gastell Dinas Bran, Llangollen, yn NLW MS 1553A (275), NLW MS 4973B (369b), NLW MS 6209E (216); argraffwyd hi yn The Myvyrian Archaiology of Wales, a cheir cyfieithiad Saesneg ohoni hefyd yn Pennant, Tours in Wales. Hywel ab Einion o Faelor y gelwir y bardd yn y cyntaf