Search results

277 - 288 of 703 for "Catherine Roberts"

277 - 288 of 703 for "Catherine Roberts"

  • JONES, SAMUEL (1628 - 1697) Brynllywarch, gweinidog Anghydffurfiol ac athro Ganwyd yn ardal y Waun, sir Ddinbych, mab John Roberts o Gorwen. Mabwysiadodd enw cyntaf ei dad yn gyfenw iddo'i hun. Ni wyddys ddim am ei addysg yn ei ieuenctid. Ymaelododd yng Ngholeg All Souls, Rhydychen; bu'n gymrawd o Goleg Iesu yn yr un brifysgol ac yn athro yno. Cymerth urddau eglwysig yn Taunton, Gwlad-yr-haf, a phenodwyd ef yn ficer Llangynwyd, Morgannwg, tua 1657. Priododd ferch Rees
  • JONES, THOMAS (Twm Shon Catti; 1532 - 1609), tirfeddiannwr, hynafiaethydd, achydd, a bardd O Borth-y-ffynnon ger Tregaron, mab anghyfreithlon bonheddwr o Geredigion. Yn ôl Dyddiadur John Dee ganwyd ef 1 Awst 1532 (J. Roberts ac Andrew G. Watson, John Dee's Library Catalogue (1990), 45-46). Ymwelodd Thomas Jones â Dee yn Llundain yn 1590 a Manceinion yn 1596, a buont yn gohebu yn 1597 : galwai Dee ef 'my cousin'. Disgrifiwyd ef fel 'Thomas Johns alias Catty' yn 1559. Ni wyddys enw ei
  • JONES, THOMAS (1756 - 1807), mathemategwr Ganwyd yn Aberriw 23 Mehefin 1756, yn fab gordderch. Erys ansicrwydd ynghylch ei rieni. Yn ôl y traddodiad a gofnodir gan Williams, Montgomeryshire worthies, yr oedd yn fab gordderch i Owen Owen, Llifior, Aberriw a cheir cofnod yng nghofrestr bedyddiadau Aberriw 29 Mehefin 1756 'Thomas son of Catherine Evans of Llivior'. (Yr oedd Owen wedi priodi aeres Llifior.) Yn 1760 bu achos yn erbyn
  • JONES, THOMAS (Glan Alun; 1811 - 1866), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor Owen ef fel 'dyn hyll a phrysur,' yn 'braidd gyffwrdd' â phopeth, ond yn llednais a diniwed. Nid pawb a gafodd ysgrifau coffa gan dri gwr fel 'Ceiriog' (Y Traethodydd, 1868), 'Gwalchmai' (Y Dysgedydd, 1879), a Daniel Owen (Y Geninen, 1886). Priododd ei ferch hynaf y Cenhadwr John Roberts (1842 - 1908, priododd merch arall iddo a J. Puleston Jones; a bu mab iddo JOHN THOMAS ALUN JONES (23 Awst 1851
  • JONES, THOMAS LLECHID (1867 - 1946), offeiriad, llenor, a llyfryddwr Ganwyd 4 Rhagfyr 1867, yn y Tyddyn Uchaf, Llanllechid, Sir Gaernarfon, yn fab i Hugh Jones a Catherine ei wraig. Cafodd ei addysg yng ngholeg y Brifysgol, Bangor, a choleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan. Wedi iddo raddio (B.A., yn 1896) yng ngholeg Dewi Sant ordeiniwyd ef (1897) i guradiaeth eglwys S.David, Blaenau Ffestiniog; daeth yn offeiriad yn 1899. Yn 1902 daeth yn gurad Llanllyfni, Sir
  • JONES, THOMAS MORRIS (Gwenallt; 1859 - 1933), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor a newyddiadurwr , Gronant, ar 25 Ionawr. Tra oedd yn weinidog ym Magillt priododd a merch Thomas Roberts, swyddog elusennol; cawsant fab a dwy ferch. Sgrifennodd T. M. Jones lawer i gylchgronau a newyddiaduron Cymru, ond fe'i cofir yn arbennig am ddau lyfr: Llenyddiaeth fy Ngwlad, sef hanes y newyddiadur a'r cylchgrawn Cymraeg (Holywell, 1893), a Cofiant y Parch. Roger Edwards, yr Wyddgrug (Gwrecsam, 1908). Bu'n fuddugol
  • JONES, WILLIAM (1770 - 1837), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd un o'r wyth o Ogledd Cymru a ordeiniwyd yn 1811; ganwyd yn 1770, yn fab i Gadwaladr a Catherine Jones, Nant-fudr (Coed-cae-du), Trawsfynydd. Porthmon oedd ei dad, a'i hanfonodd i ysgol yn Lloegr. Wedyn, yn yrrwr gwartheg, aeth y llanc i Lundain, lle'r argyhoeddwyd ef dan bregeth William Romaine. Ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nhrawsfynydd, ond yn 1794 ymbriododd â Susan Watkins, gweddw a
  • JONES, WILLIAM (1806 - 1873), clerigwr a llenor hwyrfrydig neilltuol fu ei gyd- Fedyddwyr i gefnogi'r cynllun - yn ddiweddarach teimlai gwŷr blaenllaw fel R. D. Roberts o Lwynhendy mai camgymeriad mawr fu iddynt wrthod. Daliodd William Jones i sgrifennu ymhlaid ei gynllun ac i deithio i gasglu arian ato. Ar daith felly ymwelodd ag Aberteifi, lle'r oedd gweinidog Bethania, John Herring, newydd farw; a rhoddwyd galwad iddo gan fwyafrif yr eglwys, ddiwedd
  • JONES, WILLIAM (1726 - 1795), hynafiaethydd a bardd Mab William John David a Catherine ei wraig. Swyddog ar y goits fawr o Amwythig i Fachynlleth oedd ei dad, ond amaethai hefyd Ddôl Hywel, Llangadfan, Sir Drefaldwyn, ac yno y bu William Jones fyw ar hyd ei oes. Bedyddiwyd ef yn eglwys blwyf Llangadfan, 18 Mehefin 1726. Yr unig addysg a gafodd oedd ychydig amser yn un o ysgolion Griffith Jones yn yr ardal, eithr ymrodd ati i'w ddiwyllio ei hun
  • JONES, Syr WILLIAM (1566 - 1640), barnwr Mab hynaf William ap Griffith ap John (bu farw 1587) a'i wraig gyntaf, Margaret, merch Humphrey Wynn ap Maredudd, Cesail Gyfarch (bu farw 1583), cefnder i dadcu Syr John Wynn o Wydir (gweler dan WYNN (TEULU) Gwydir). Yr oedd ei hendaid, John ap Robert ap Llywelyn ab Ithel alias John Roberts, Castellmarch (Llangïan) yn un o'r swyddogion lleol cyntaf a apwyntiwyd yn Sir Gaernarfon dan y Ddeddf Uno
  • KENYON family Dechreuodd cysylltiad teulu Kenyon â Chymru gyda phriodas (c. 1694) THOMAS KENYON (1668 - 1731), pedwerydd mab ROGER KENYON, Peel, Lancashire, a Catherine (ganwyd 1660), merch ac aeres Luke Lloyd (bu farw 1695), Bryn, plwyf Hanmer, Sir y Fflint; yr oedd teulu Luke Lloyd wedi ymsefydlu yng nghantref Maelor Saesneg ers blynyddoedd lawer ac yn hawlio eu bod yn disgyn o Rodri Mawr. Bu Luke Lloyd yn
  • KNIBB, MARY (c.1798 - 1866), diddymydd a diwygydd cymdeithasol y tŷ yn Kettering. Gyda chymorth ariannol gan y Ladies Negro's Friend Society yn Birmingham, bu i Mary a dwy o'i merched, Catherine ac Ann, gynnal ysgol i ferched o'r tŷ, gan barhau'r rhaglen addysgol a ddechreuwyd pan oedd William yn fyw. Anfonid adroddiadau rheolaidd i'r gymdeithas yn egluro sut roedd eu harian yn cael ei wario ac am gynnydd y merched a fynychai'r ysgol. Teimlai Mary yn