Search results

253 - 264 of 877 for "Owen"

253 - 264 of 877 for "Owen"

  • HUGHES, THOMAS HYWEL (1875 - 1945), gweinidog gyda'r Annibynwyr, ysgolhaig, diwinydd, ac athronydd dwfn a gysegrodd ei holl ddoniau i amcanion ymarferol y weinidogaeth ydoedd. Wedi ymddeol cartrefodd yn Mount Grange, Penyrheol Drive, Sgeti, Abertawe, lle y daliodd y bregethu hyd at ei farwolaeth yno ar 14 Awst 1945, ychydig ar ôl ei briod Nina (bu farw 1940), merch Daniel Owen. Ni fu iddynt blant.
  • HUGHES, THOMAS ROWLAND (1903 - 1949), bardd a nofelydd Ganwyd 17 Ebrill 1903 yn 20 Goodman Street, Llanberis, Sir Gaernarfon, mab William Rowland Hughes a'i wraig May, merch Thomas Morydd Owen. Cafodd ei addysg yn ysgol elfennol Dolbadarn, ysgol sir Brynrefail, a choleg y Brifysgol, Bangor, lle y graddiodd, 1925, gydag anrhydedd y dosbarth cyntaf yn y Saesneg a'r Gymraeg. Ym mis Medi 1926 aeth yn athro i ysgol sir y Bechgyn, Aberdâr, lle y bu am ddwy
  • HUGHES, WILLIAM JOHN (1891 - 1945), athro ysgol a choleg Ganwyd ger Penfforddelen, Y Groeslon, Sir Gaernarfon, 10 Medi 1891, yn fab i John Owen ac Ann Jane Hughes, ond symudodd ei rieni yn fuan ar ôl ei eni i fyw i Nantlle. Chwarelwr oedd y tad, ac yn ddiweddarach, arolygydd llechi. Addysgwyd yn ysgol y cyngor, Nantlle. Amlygodd yn gynnar ei fod yn fachgen talentog, a chafodd yrfa eithriadol o lwyddiannus yn yr ysgol sir ym Mhen-y-groes, 1904-1908
  • HUGHES, WILLIAM ROBERT (1798? - 1879), meddyg cancr a'r 'ddafaden wyllt' Ganwyd yn Tanyrallt, plwyf Abererch, Sir Gaernarfon, o deulu y dywedid fod ganddynt allu eithriadol i wella'r ddafaden wyllt, etc. Ar ôl priodi symudodd i fyw yn Mur Crysto, Llangybi, 1821. Yr oedd yn gyfeillgar â David Owen ('Dewi Wyn o Eifion'), Ebenezer Thomas ('Eben Fardd'), a Robert Williams ('Robert ap Gwilym Ddu'). Gymaint oedd ei allu fel y gelwid ef ' Dewin y Cennin.' Ymfudodd i U.D.A
  • HUGHES, MARGARET (Leila Megàne; 1891 - 1960), cantores Ganwyd Bethesda, Caernarfon, 5 Ebrill 1891, yn un o ddeg plentyn Thomas Jones, aelod o heddlu Arfon, a Jane Phillip (ganwyd Owen) ei wraig. Symudodd y teulu i Bwllheli yn 1894, ac yno y magwyd y gantores. Collodd ei mam pan oedd yn 7 oed, ac aberthodd ei thad lawer er mwyn rhoi addysg gerddorol iddi. Astudiodd ganu am gyfnod gyda John Williams, arweinydd Cymdeithas Gorawl Caernarfon, a'r unawd
  • HUMPHREYS, EDWARD OWEN (1899 - 1959), addysgwr
  • HUMPHREYS, HUMPHREY (1648 - 1712), esgob Bangor a Henffordd (yn olynol), hynafiaethydd, hanesydd, ac achyddwr esgob Humphreys yn Gymro gwladgarol ac yn llawn haeddu teyrnged Thomas Hearne iddo - 'he was reckon'd next to Mr. Edw. Lluyd for knowledge in the British language; but Mr. Lluyd used to say he was a greater master of it.' Ysgrifennodd y beirdd Edward Morus ac Owen Gruffydd gywyddau yn ei glodfori, a chydnabu'r llenorion Edward Samuel, Ellis Wynne, a Samuel Williams, eu dyled iddo; cyflwynodd Ellis
  • HUMPHREYS, RICHARD (1790 - 1863), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd nodedig am ei synnwyr cyffredin a'i ffraethineb, a chymerodd ran amlwg yng ngwaith y cyfundeb, gyda'r mudiad dirwest, ac ynglŷn â mudiad addysg; yr oedd yn un o'r rhai a wahoddwyd i Lundain gan Syr Hugh Owen yn 1854 i drafod y posibilrwydd o gael prifysgol i Gymru. Ysgrifennodd i'r Traethodydd ac i'r Methodist, ac yr oedd yn gyfeillgar â 'Dewi Wyn' ac 'Eben Fardd.' Ni chymerodd ran amlwg iawn mewn
  • HUMPHREYS-OWEN, ARTHUR CHARLES (1836 - 1905), Aelod seneddol Ganwyd yn Garthmyl (Maldwyn), 9 Tachwedd 1836, yn fab i Erskine Humphreys, bargyfreithiwr; o du ei fam, yr oedd yn nai i A. J. Johnes. Yn 1876, etifeddodd diroedd Oweniaid Glansevern (Cefnhafodau gynt - gweler dan Owen o Gefnhafodau), a chymerodd yr enw 'Humphreys-Owen.' Aeth i ysgol Harrow ac i Goleg y Drindod yng Nghaergrawnt (lle y graddiodd yn 1860); derbyniwyd ef yn fargyfreithiwr yn 1863
  • HUW LLŶN, bardd ap Rhisiart hefyd yn fardd, ond nid oes unrhyw brawf mai'r un person oeddynt. Cadwyd peth o farddoniaeth Huw Llŷn, ac yn ei phlith gerddi i Walter Devereux (iarll Essex), Henry Rowland (esgob Bangor), Simwnt Thelwal o Blas y Ward, ac i'r Deheuwyr Tomas Fychan (Pembre), Gruffudd Dwn (Ystrad Merthyr), Wiliam a Siors Owen (Henllys), a Sion Llwyd (Cilgwyn). Canwyd ymryson rhyngddo a Sion Mawddwy, ac un
  • HUW MACHNO (fl. 1585-1637), bardd Mab Owen ab Ieuan ap John o Benmachno, a olrheiniai ei hynafiaid o Ddafydd Goch, Penmachno, mab ordderch Dafydd, tywysog Cymru. Ei fam oedd Margaret ferch Robert ap Rhys ap Hywel. Ni wyddys pa bryd y ganwyd ef, ond dywedir iddo farw yn 1637, a bod yr ysgrifen ' H.M. obiit 1637 ' ar ei garreg fedd ym mynwent Penmachno. Ymddengys iddo fod yn ddisgybl i Siôn Phylip, oherwydd yn ei farwnad i'r bardd
  • HUW PENNAL (fl. 15fed ganrif), bardd brodor, y mae'n debyg, o Bennal yn Sir Feirionnydd. Cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau, ac yn ei blith gywyddau i'r iarll Wiliam Herbert o Benfro, Dafydd ap Rhys o Langurig, tri mab Ieuan Blaenau o Gregynog, a dau gywydd serch. Ni wyddys unrhyw fanylion am ei fywyd, ond y mae'n amlwg bod y dyddiadau a roir iddo yn Blackwell, a W. Owen, Cambrian Biog., yn rhy ddiweddar.