Search results

253 - 264 of 1867 for "Mai"

253 - 264 of 1867 for "Mai"

  • DAVIES, LEWIS (1777 - 1828), cadfridog mab i John Davies o'r Crugiau, Llanbadarn-fawr, Aberystwyth. Ymunodd â'r fyddin yn 1791, bu'n brwydro ar y Cyfandir (1794, 1799), yn India'r Gorllewin (1796), ac yn Sbaen; enillodd glod arbennig yn Salamanca (1812). Ymneilltuodd i Dan-y-bwlch, Aberystwyth, a bu farw yno 10 Mai 1828, yn 51 oed.
  • DAVIES, LEWIS (1863 - 1951), nofelydd, hanesydd lleol Ganwyd yn Tramway, Hirwaun, Aberdâr, Morgannwg, 18 Mai 1863, yn blentyn ieuangaf Lewis ac Amy Davies. Yr oedd ei dad yn ffeinar ('refiner') yng ngwaith haearn Crawshay ar Hirwaun. Addysgwyd y mab yn ysgol elfennol Penderyn nes iddo aeddfedu yn ddisgybl athro. Enillodd ysgoloriaeth i'r Coleg Normal, Bangor, lle y bu'n fyfyriwr am ddwy fl. (1881-82). Bu'n ysgolfeistr ym Mhenderyn o 1884 hyd 1886 ac
  • DAVIES, MARGARET (c. 1700 - 1785?), gwraig y ceir amryw lawysgrifau o'i gwaith yn ein llyfrgelloedd cyhoeddus Gaernarfon yn hanner cyntaf y 18fed ganrif, er mai ychydig o gyfeiriadau a geir ati yn llyfrau a llawysgrifau ei chyfoeswyr. Y mae gennym englynion a chywyddau o'i gwaith yn ei llaw hi ei hun, ond nid oes ryw lawer o gamp arnynt. Gellir barnu wrth ddarnau o lythyrau a geir yma a thraw yn ei llawysgrifau iddi fwrw llawer o'i hamser yn ymweled â chartrefi ei chyfeillion a'i pherthnasau, megis y Goetre ym
  • DAVIES, MARGARET SIDNEY (1884 - 1963), casglydd celfyddydwaith a chymwynasydd chwaer Gwendoline Elizabeth Davies Ganwyd yn Llandinam, Trefaldwyn, 14 Rhagfyr 1884. Er mai ar y cyd â'i chwaer y cyflawnwyd y rhan fwyaf o'i gweithgarwch, yr oedd hi ei hun yn arlunydd amatur eithaf derbyniol. Yr oedd ' Miss Daisy ' fel y gelwid hi fynychaf, yn fwy confensiynol ei chwaeth na'i chwaer, ond ar ôl marwolaeth Gwen fe helaethodd ei chasgliad o beintiadau i gynnwys Bonnard, Kokoschka
  • DAVIES, NOËLLE (1899 - 1983), llenor, addysgydd ac ymgyrchydd gwleidyddol . Methodd y cynllun oherwydd ymrwymiad y Wladwriaeth i addysg enwadol, ac ym Mai 1925 rhoddasant y gorau i'r syniad, gan briodi ac ymadael am Gymru, lle y bu Noëlle yn byw am ddeng mlynedd ar hugain. Cyhoeddodd ei bywgraffiad gwleidyddol o arloeswr ysgolion gwerin Denmarc N. F. S. Grundtvig (1783-1872), Education for Life yn 1931. Y flwyddyn ganlynol, cafodd hi a'i gŵr afael ar Bantybeilïau yn y Gilwern
  • DAVIES, OLIVER (fl. tua 1820), telynor Ganwyd yn Nhrefaldwyn. Efe oedd prif delynor eisteddfod Trallwng yn 1824, ac eisteddfod Cymmrodorion Llundain, 6 Mai 1829, pan synnwyd at ei fedrusrwydd i ganu y delyn bedawl. Yr oedd hefyd yn yr eisteddfod a gynhaliwyd yn Llundain, 1831. Cyfeirir ato gan ' Bardd Alaw ' yn ei ysgrif ar y ' Cambrian Pedal Harp ' a geir yn Y Cymmrodor, i, fel hyn: 'This harp will be introduced at the anniversary
  • DAVIES, OWEN (1840 - 1929), gweinidog gyda'r Bedyddwyr , sy'n awgrymu mai cydysgrifennydd ydoedd gan i John Rufus Williams hefyd ddal swydd o'r cychwyn. ] Bu'n golygu Yr Athraw a'r Greal (1871-1918). Priododd, Mai 1872, Sarah Jane, merch Owen a Catherine Ellis, Bryn y Pin, ger Conwy, a bu iddynt fab a thair merch. Bu farw 30 Mai 1929 a chladdwyd ef yn y Fynwent Newydd, Caernarfon; bu Mrs. Davies farw 22 Tachwedd 1939. Yr oedd O. Davies yn un o bregethwyr
  • DAVIES, RANDOLF (d. 1695), offeiriad a dadleuydd ar faterion crefyddol Ni wyddys ddim, hyd yn hyn, am ei eni, ei dras, ei addysg, a'i ordeinio. Fe'i dewiswyd yn ficer Meifod, Sir Drefaldwyn, 13 Ebrill 1647, gan y ' Commissioners of the Great Seal' (Piwritanaidd); ymddengys, felly, mai clerigwr Anglicanaidd a gydymffurfiasai ydoedd. Er dywedyd o rai i un Stephen Lewis gymryd ei le ym Meifod yn 1648, nid oes amheuaeth na bu iddo barhau'n ficer y plwyf hwnnw hyd yr
  • DAVIES, RHYS (1795 - 1838), peiriannydd a diwydiannwr Ganwyd Rhys Davies yn Llangynidr, Sir Frycheiniog, yn Ionawr 1795. Gweithiwr haearn oedd ei dad, ac efallai mai ef oedd y Rees Davies o Langynidr a adeiladodd dair ffwrnais ar gyfer Cwmni Tredegar yn Sir Fynwy o 1800 ymlaen. Dechreuodd Rhys Davies weithio yng ngweithfeydd haearn Tredegar yn 11 oed. Rywbryd yn y 1820au, ymunodd â Chorfflu'r Peirianwyr Brenhinol. Cynorthwyodd i adeiladu melinau
  • DAVIES, RICHARD (1501? - 1581), esgob a chyfieithydd yr Ysgrythur , ac oherwydd tlodi'r esgobaeth (£187 11s. 6ch.) cafodd ganiatâd i ddal 'in commendam' ei ddwy fywoliaeth yn sir Buckingham a dwy arall yn Llanelwy. Yn gynnar yn 1560 anfonodd restr o'i offeiriaid i'r archesgob Parker. Etholwyd ef yn esgob Tyddewi ar 21 Mawrth 1561, yn olynydd i Thomas Young, a chymerth y llw ar 18 Mai, ond nid oes yn ei gofrestr ddim cofnod cyn Medi 1561. Byddai'n bresennol yn gyson
  • DAVIES, RICHARD (Tafolog; 1830 - 1904), bardd a beirniad Mab ydoedd i Edward a Joanna Davies, ganwyd Mai 1830 yn y Dugoed Bach ym mhlwyf Mallwyd, ond pan oedd ef yn ifanc aeth ei deulu i fyw i Gwm Tafolog, ym mhlwyf Cemais, Sir Drefaldwyn. Cafodd ychydig fisoedd o ysgol, a bu'n gweithio yng Nghroesoswallt am ysbaid er mwyn dysgu Saesneg. Gartref ar ffarm ei dad y bu nes priodi yn 1865, a myned i fyw i'r Hirddol ger Penegoes. Bu farw ei wraig yn 1882
  • DAVIES, RICHARD OWEN (1894 - 1962), gwyddonydd, ac athro cemeg amaethyddol Ganwyd yn y Ganllwyd, ger Dolgellau, Meirionnydd, 25 Mai 1894, yn fab i Owen Davies, gweinidog (A). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Dolgellau a Choleg y Brifysgol Aberystwyth lle'r enillodd radd M.Sc. yn 1916. Wedi cyfnod o 5 mlynedd mewn cemeg diwydiannol gyda chwmni ffrwydron Nobel, apwyntiwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol mewn cemeg amaethyddol yn ei hen goleg, a dyrchafwyd ef yn ddarlithydd yn