Search results

2089 - 2100 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

2089 - 2100 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • LEWIS, JOHN DANIEL VERNON (1879 - 1970), ysgolhaig, gweinidog (A), awdur, Athro a phrifathro coleg , Rhydychen. Cerddasai enw'r prifathro Andrew Martin Fairbairn hyd ymhell, ac yr oedd gwaith George Buchanan Gray, Studies in Hebrew Proper Names, at ei ddant. Rhoes cipio Proctor Travelling Scholarship gyfle iddo i astudio yn Leipzig, a bod wrth draed Rudolf Kittel ac ysgolheigion eraill. Heblaw llanw gofynion M.A. Rhydychen, gofalodd yr Athro Arabeg, David Samuel Margoliouth, ei gymeradwyo i gylch dethol
  • LEWIS, JOHN DAVID (1859 - 1914), llyfryddwr, hanesydd lleol, a sefydlydd gwasg argraffu llên a barodd iddo ddechrau gwerthu rhai llyfrau, cylchgronau a phapurau Cymraeg ym masnachdy cyffredinol ei dad yn Market Stores, a phenderfynu yn 1892 ddechrau busnes argraffu a chyflogi bachgen ifanc o'r enw William John Jones o Lannerch-y-medd, Sir Fôn, yn argraffydd - gŵr a fu'n brif argraffydd y Mri J. D. Lewis a'i Feibion o 1892 hyd ei farw yn 1955. Symudwyd o Market Stores i adeilad presennol
  • LEWIS, Syr JOHN HERBERT (1858 - 1933), cyfreithiwr a gwleidyddwr Ganwyd 27 Rhagfyr 1858 yn Mostyn Quay, Sir y Fflint, unig fab Enoch Lewis, gor-nai Thomas Jones, Dinbych, a'i wraig Catherine Roberts, Plas Llangwyfan, sir Ddinbych. Cafodd ei addysg yn Ninbych, Montreal (Prifysgol McGill), a Rhydychen (graddiodd o Goleg Exeter, 1879). Herbert Lewis oedd cadeirydd cyntaf cyngor sir y Fflint (1889); yr oedd hefyd yn un o sylfaenwyr y cynllun addysg ganolraddol i
  • LEWIS, JOHN HUW (1931 - 2008), cyhoeddwr ac argraffwr Ganwyd Huw Lewis ar 13 Ionawr 1931 ym Mrondeifi, Llandysul, Ceredigion, yr hynaf o bedwar plentyn Rhys Lewis a Myra Lewis (née Evans). Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llandysul, Ysgol Ramadeg Llandysul a Choleg Llanymddyfri, ac oddi yno enillodd ysgoloriaeth i'r London College of Printing. Treuliodd ddwy flynedd yn y fyddin yn cwblhau ei Wasanaeth Cenedlaethol gan wasanaethu'n bennaf yn yr
  • LEWIS, JOHN SAUNDERS (1893 - 1985), gwleidydd, beirniad a dramodydd daearyddol, hanesyddol, crefyddol a diwylliannol, parch at awdurdod a ffieidd-dra at Ramantiaeth. Cwblhaodd Lewis ei radd BA yn 1920. Erbyn iddo ennill ei MA ddwy flynedd yn ddiweddarach, am astudiaeth ar ddylanwad beirdd Saesneg y ddeunawfed ganrif ar eu cyfoeswyr Cymraeg (y cyhoeddwyd ei sylwedd yn A School of Welsh Augustans yn 1924), yr oedd wedi cyhoeddi'r ddrama 'Eingl-Gymreig' The Eve of St John
  • LEWIS, JOSHUA (1816 - 1879), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn y Neuadd-fach, Llanybydder, yn 1816, yn fab i Timothy Lewis, teiliwr, ac aelod gyda'r Bedyddwyr yn Aberduar - yr oedd Joshua Lewis yn ewythr i Timothy Richard. Aeth i ysgol a gedwid ar y pryd yn Rhyd-y-bont, gan William Jones (Abertawe wedyn), a dechreuodd yno gyfeillachu â'r Annibynwyr. Yn 16 oed, agorodd ysgol yng Ngwernogle, ond yn bur fuan aeth yn gynorthwywr i Evan Jones, gweinidog
  • LEWIS, LEWIS (Lewsyn yr Heliwr, Lewys Shanco Lewis; 1793 - ?) bedyddiwyd 21 Mawrth 1793, mab Jenkin a Margaret Lewis, Blaencadlan, plwyf Penderyn, sir Frycheiniog, y tad yn gigydd. Halier oedd y mab - dyna'r rheswm dros ei alw 'yr Heliwr' - yn cludo glo o'r pyllau glo yn Llwydcoed i'r odynau calch ym Mhenderyn. Yn y cythrwfl ym Merthyr Tydfil, 1831, cymerodd ran flaenllaw (2 Mehefin) yn yr ymosodiad ar dŷ Joseph Coffin, clerc y ' Court of Requests '; bu
  • LEWIS, LEWIS WILLIAM (Llew Llwyfo; 1831 - 1901), bardd, nofelydd, a newyddiadurwr Ganwyd 31 Mawrth 1831 ym mhentref Pensarn, Llanwenllwyfo, sir Fôn. Bu'n gweithio pan oedd yn fachgen yng ngwaith copr Parys, ger Amlwch; bu'n brentis gyda brethynnwr ym Mangor; cadwodd siop ei hun, ar ôl hynny, yn Nhalsarn, ac ysgol wedyn yn yr un lle. Yn 1852 yr oedd yn is-olygydd Y Cymro (Holywell); yn 1855 symudodd i Lerpwl i olygu 'r Amserau; yn 1858 aeth i Aberdâr i olygu 'r Gwladgarwr a'r
  • LEWIS, MATHEW (1817? - 1860), gweinidog Annibynnol ac ysgrifennwr erthyglau i'r Traethodydd. Ymadawodd â Lerpwl, a bu'n weinidog eglwys Annibynnol yn y Dref Newydd, Sir Drefaldwyn. Ymddiswyddodd eilwaith o'r weinidogaeth, ac ymunodd â'r fyddin. Bu farw yn China yn 1860, 'yn 43 oed.'
  • LEWIS, MORGAN JOHN (c. 1711 - 1771), emynydd, a chynghorwr Methodistaidd Cymru (Mwythig, 1740). Ef ac Edmund Williams, Cwm Tyleri, a gyhoeddodd Hymnau Duwiol o Gasgliad Gwyr Eglwysig M.J. ac E.W. (Pontypŵl, 1741). Ceir emyn o'i waith hefyd yn Sail, Dibenion, a Rheolau'r Societies (Bryste), llyfryn o gyhoeddiad yn sasiwn Fethodistaidd, 1742. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid, a phenodwyd ef yn gynghorwr cyhoeddus yn sasiwn Watford, 1743; yn ddiweddarach, gwnaed ef yn
  • LEWIS, MOSES (fl. 1748-1800), cynghorwr Methodistaidd, ac Antinomiad mab Arthur Lewis o'r Fron, Brymbo, sir Ddinbych. Yr oedd yn un o sefydlwyr yr achos yn Adwy'r Clawdd, a ffodd Peter Williams i'w dŷ' ar ôl ei erlid yn 1748. Dechreuodd bregethu c. 1750. Ymlynai wrth blaid Howel Harris yn 1751, ond cefnodd arno yn fuan gan wrthod ymuno â'r 'Teulu' yn Nhrefeca. Coleddodd syniadau Antinomaidd a chafodd rai i'w ddilyn yn Nyffryn Clwyd ac Arfon. Enwir ef gyda Thomas
  • LEWIS, OWEN (1533 - 1595), esgob Cassano dan Elisabeth, cefnodd ar y Brifysgol a chilio i'r Cyfandir. Aeth i brifysgol newydd Douai i gymryd graddau doethur yn y gyfraith ac mewn diwinyddiaeth, ac yno fe'i penodwyd yn athro'r gyfraith eglwysig. Gwnaed ef yn ganon eglwys gadeiriol Cambrai yn fuan ar ôl hyn, ac wedyn yn archddiacon Hainault. Rhoes bob cynhorthwy i'r Dr. William Allen, ei gyfaill er dyddiau Rhydychen, i sefydlu, yn 1568