Search results

1945 - 1956 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1945 - 1956 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JONES, THOMAS LLOYD (Gwenffrwd; 1810 - 1834), bardd Ganwyd yn Brynffordd, Holywell, yn 1810. Bu'n gweithio mewn melin gotwm yn y Maesglas, Holywell, hyd tua 18 oed, cyn treulio cyfnod glerc yng ngwasanaeth Thomas Jones (1802 - 1851), cyfreithiwr yn Nhreffynnon, a'i swyddfa yn Chapel Street. Yr oedd yn barddoni yn ei gyfnod yn Nhreffynnon; enillodd wobr am gyfieithiad o ' Hymn of the Seasons ' (Thompson) i'r Gymraeg mewn eisteddfod yn Nhrelawnyd, a
  • JONES, THOMAS OWEN (Gwynfor; 1875 - 1941), llyfrgellydd, dramodydd, actor a chynhyrchydd Ganwyd 19 Ionawr 1875=, ym Mhwllheli, Caernarfon, mab William ac Ellen Jones, Stryd Newydd. Derbyniodd ei addysg yn ysgol y cyngor yn y dref honno, a'i brentisio wedyn mewn siop groser leol. Rhwng 1916 ac 1917 bu'n cadw busnes ei hun yn nhref Caernarfon nes ei benodi'n llyfrgellydd y sir ar gyflog o £130 y flwyddyn. Hon oedd y llyfrgell sir gyntaf i'w sefydlu yng Nghymru. Lleolwyd hi mewn dwy
  • JONES, THOMAS PARRY (1935 - 2013), dyfeisydd, entrepreneur a dyngarwr Ganwyd Tom Parry Jones ar 27 Mawrth 1935 yn Nwyran, Sir Fôn, ac fe'i magwyd yng Ngharreglefn yn yr un sir, yr hynaf o dri o blant Owen Thomas Jones (1916-1999), ffermwr, a'i wraig Grace Parry (1917-2018). Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Carreglefn ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Bu'n gweithio yn ffatri cwmni ICI yn Northwich, Sir Gaer, cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor ym
  • JONES, THOMAS ROBERT (Gwerfulyn; 1802 - 1856), sefydlydd mudiad dyngarol y Gwir Iforiaid a fyddai'n cynorthwyo ei haelodau yn ariannol yn ogystal â diogelu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Mynegodd Robert Davies, ' Bardd Nantglyn ', a William Owen Pughe eu parodrwydd i'w noddi ond bu farw'r ddau cyn cael cyfle i'w helpu. Mentro ymlaen a wnaeth Jones gan sefydlu ' Cymdeithas Undebawl a Gomeraidd dan arwydd y Drylliau Croesion ' yn Wrecsam ar 6 Mehefin 1836. Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar
  • JONES, THOMAS ROCYN (1822 - 1877), meddyg esgyrn Ganwyd yn Penalltgoch, Maenordeifi, Sir Benfro, mab Thomas Jones. Yr oedd y tad, heblaw ffermio Penalltgoch, yn gelfydd yn y gwaith o drin clefydau anifeiliaid, a gelwid am ei wasanaeth yn fynych yn siroedd Aberteifi, Caerfyrddin, a Phenfro. Bu'r mab yn helpu'r tad ar y fferm, gan ddangos diddordeb arbennig yn ei waith fel meddyg anifeiliaid. Fel y cynyddai ei brofiad, dechreuodd fanteisio ar ei
  • JONES, THOMAS WILLIAM (BARWN MAELOR O'R RHOS), (1898 - 1984), gwleidydd Llafur gyfrifol am les yr holl weithwyr a drosglwyddwyd o'r dinasoedd i ffatrïoedd gogledd Cymru. Daeth y gwaith hwn ef ag ef i gysylltiad rheolaidd â phroblemau'r dosbarth gweithiol a chynorthwyodd i ffurfio ei syniadau fel gwleidydd Llafur. Daeth Jones yn Ynad Heddwch dros Sir Ddinbych ym 1937 ac yntau ond yn 39 mlwydd oed (y gŵr ieuengaf erioed o'r dosbarth gweithiol i gael ei ddewis yn Ynad Heddwch yn yr
  • JONES, TREVOR ALEC (1924 - 1983), gwleidydd Llafur yn brif lefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig. Daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1979. Noddodd Ddeddf Diwygio Ysgariad 1969. Fel y gellid tybio, roedd ganddo ddiddordeb mawr a pharhaol mewn materion fel tai a gwasanaethau cymdeithasol. Priododd Alec Jones ar 12 Awst 1950 Mildred Maureen, merch William T. Evans, a bu iddynt un mab. Eu cartref oedd 58 Stryd Kenry, Tonypandy, Rhondda. Ar ôl
  • JONES, WALTER (d. 1819) Cefn Rug,, comisiynwr o dan ddeddfau i gau tiroedd Yr oedd yn oruchwyliwr stadau Syr Robert Williames Vaughan, a daeth hyn ag ef i sylw ym mywyd cyhoeddus ei sir, e.e. fel comisiynwr milisia ac ymddiriedolwr o dan ddeddf harbwr Abermaw (37 Geo. III. cap. 50). O 1806 ymlaen yr oedd yn gweithredu, yn barhaus bron, fel comisiynwr o dan nawdd gweithred seneddol yn olynol yn delio â chau tiroedd yn sir Fôn, Sir Gaernarfon, Sir Feirionnydd, a sir
  • JONES, WALTER DAVID MICHAEL (1895 - 1974), arlunydd a bardd -Sacsonaidd). Pan gafodd droëdigaeth at Gatholigiaeth yn 1921, mabwysiadodd yr enw ychwanegol Michael. Brodor o Dreffynnon, Sir y Fflint, oedd ei dad, James Jones (1860-1943), ac fe symudodd i Lundain yn 1883 i weithio fel argraffydd i'r Christian Herald. Roedd ei fam, Alice Ann (1856-1937), yn ferch i Ebenezer Bradshaw, saer llongau a hwylbrenni o Rotherhithe, a honnai fod ei chyndeidiau ar ochr ei mam o
  • JONES, WALTER IDRIS (1900 - 1971), Prif Gyfarwyddwr Datblygu Ymchwil i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB) Ganed Idris Jones ar 18 Ionawr 1900, yn fab i Frederick (rholiwr mewn gwaith tun) ac Elizabeth Jones, Old Castle Road, Llanelli, Sir Gaerfyrddin. Wedi ennill ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol Cymru (CPC), Aberystwyth yn 1918, graddiodd yn BSc (Cemeg, anrhydedd dosbarth 1af) yn 1921, a chydag ysgoloriaethau ymchwil Rhondda a Frank Smart aeth i Goleg Gonville a Caius, Caergrawnt (1922-26), gan ennill
  • JONES, WILLIAM (1764 - 1822), emynydd brodor o Gynwyd. Aeth i'r Bala 'n ifanc, ac yr oedd yn wehydd mewn ffatri a berthynai i Simon Lloyd; yr oedd yn flaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cyhoeddodd yn 1819 Aberth Moliant, neu Ychydig Hymnau; ymddengys un neu fwy o'r emynau hyn yn y rhan fwyaf o'n hemyniaduron, a William Jones piau'r pennill enwog iawn sy'n dechrau, ' Yr Iawn a dalwyd ar y groes.' Bu farw 2 Mai 1822, yn 58 oed.
  • JONES, WILLIAM (Gwilym Myrddin; 1863 - 1946), bardd Ganwyd ar fferm Llwyndinawed ym mhlwyf Cil-y-cwm ger Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, 12 Ebrill 1863, yn fab i Evan Jones. Prin a fu ei ddyddiau ysgol oherwydd gofynion y fferm. Yn 1886 priododd Elizabeth Jones, Pumpsaint, Sir Gaerfyrddin, a thua diwedd 1898 gadawodd ei fro enedigol, a symud i'r Betws, Rhydaman. Bu am ysbaid yn feili ar fferm ger Rhydaman ac yn ddiweddarach cafodd swydd fel gofalwr