Search results

181 - 192 of 233 for "Ioan"

181 - 192 of 233 for "Ioan"

  • ROBERTS, JOHN (1576 - 1610), mynach Benedictaidd a merthyr Ganwyd yn Nhrawsfynydd yn 1576. Ar sail Peniarth MS 287 tybir bellach mai Robert, un o feibion Ellis ap William ap Gruffydd, Rhiwgoch, ydoedd ei dad, a'i fod felly yn gefnder i Robert Lloyd, Rhiwgoch aelod seneddol tros sir Feirionnydd, 1586-7. Magwyd ac addysgwyd ef fel Protestant, ac ymaelododd yng Ngholeg S. Ioan, Rhydychen 26 Chwefror 1595/6. Yno daeth i gyffyrddiad agos â John (Leander
  • ROBERTS, THOMAS FRANCIS (1860 - 1919), prifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth Ganwyd yn Aberdyfi 25 Medi 1860, mab hynaf Thomas Roberts, sersiant yn yr heddlu ac Anne ei wraig. Cafodd ei addysg yn Nhywyn ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn 1879 enillodd ysgoloriaeth i Goleg S. Ioan, Rhydychen. Cafodd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn yr arholiad cyntaf (1881) a'r ail (1883) yn y clasuron, a graddio yn 1883. Ar derfyn ei dymor yn Rhydychen penodwyd ef yn
  • ROBINSON, THEODORE HENRY (1881 - 1964), Athro, ysgolhaig ac awdur Ganwyd 9 Awst 1881 yn Edenbridge, swydd Caint, yn fab i W. Venis Robinson, gweinidog (B), a'i briod Emily Jane. Cafodd ei addysg yn ysgol Mill Hill; Coleg S. Ioan, Caergrawnt; Coleg y Bedyddwyr, Regent's Park, Llundain; a Phrifysgol Göttingen. Yr oedd yn Litt.D. o Brifysgol Caergrawnt ac yn D.D. o Brifysgol Llundain. Bu am gyfnod yn Athro Hebraeg a Syrieg yng Ngholeg Serampore, Bengal. Daeth i
  • ROCYN-JONES, Syr DAVID THOMAS (1862 - 1953), swyddog iechyd meddygol a gŵr cyhoeddus Bwrdd Rhanbarthol Ysbytai Cymru, y Gymdeithas Feddygol Brydeinig a Brigâd Ambiwlans S. Ioan - yr oedd yn Knight of Grace Urdd S. Ioan. Hefyd, cadwodd gysylltiad agos ag Undeb Rygbi Cymru am 45 mlynedd, ac ef oedd y llywydd pan fu farw. Penodwyd Rocyn-Jones, a fu'n ynad y sir am lawer o flynyddoedd, yn Ddirprwy-Lifftenant sir Fynwy yn 1947. Urddwyd ef yn farchog y flwyddyn ddilynol; gwnaethpwyd ef yn
  • ROGERS, RICHARD SAMUEL (1882 - 1950), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, golygydd ac awdur , Pontlotyn, yn 1906; aeth yn weinidog Rhos, Aberpennar, yn 1908, ac oddi yno yn 1915 i Gapel Gomer, Abertawe, lle'r arhosodd nes ymddeol yn 1948. Cyhoeddodd ei lyfr Y Deyrnas a'r Ail Ddyfodiad yn 1914, ac ugain mlynedd yn ddiweddarach rhoes Prifysgol Cymru y radd M.A. iddo am draethawd ar Athrawiaeth y Diwedd, a chyhoeddwyd ei lyfr ar yr un testun y flwyddyn honno. Cyhoeddwyd ei esboniad Datguddiad Ioan yn
  • ROWLAND, DAVID (1795 - 1862), gweinidog hynod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn y Bala yn 1795 (bedyddiwyd 11 Mehefin), yn fab i David Rowland 'y trumpeter ' a'i wraig Jane Roberts, Cwmtylo, Llanuwchllyn; chwaer iddo oedd mam 'Ioan Pedr' (John Peter). Wedi marw ei fam ac yntau'n blentyn, magwyd ef yng Nghwmtylo gan ei nain. Bu am ysbeidiau mewn ysgolion, gan gynnwys ysgol yr Hen Gapel yn Llanuwchllyn, ond ar y fferm y bwriodd y rhan fwyaf o'i amser. Dygwyd ef at
  • ROWLAND(S), ELLIS (1621 - 1691), Ymneilltuwr cynnar Ganwyd yn 1621 yn fab i Thomas Rowland, 'yeoman,' Biwmares; yr oedd ganddo frawd o'r enw Richard Rowlands. Bu yn ysgol ramadeg Biwmares, ac aeth, fis Gorffennaf 1639, 'yn 18 oed,' i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, ond ni raddiodd (Venn, Alumni Cantabrigienses). Clywir nesaf amdano ym mywoliaeth Llanelidan, a pharhawyd ef ynddi (1653) gan brofwyr y Weriniaeth. Bu yno hyd 1657, pan gafodd blwyfi Clynnog
  • RUSSON, Syr WILLIAM CLAYTON (1895 - 1968), diwydiannwr . Gwasanaethodd ar Gyngor Cymru o 1949 i 1963 gan fod yn gadeirydd ei banel ar dwristiaeth. Bu'n aelod o Gorfforaeth Datblygu Cymru o 1958 i 1963, ac yn gadeirydd nifer o gwmnïau hadau a chwmni Phostrogen, Corwen. Gwasanaethodd Urdd St. Ioan fel swyddog o 1960 a chodi'n gomander yn 1962 a marchog yn 1968. Cafodd ryddfreiniaeth dinas Llundain. Priododd â Gwladys Nellie, merch Henry Markham o Dulwich yn 1931
  • SANDERS, IOAN (fl. 1786), cynghorwr Methodistaidd ac emynydd
  • SEABORNE-DAVIES, DAVID RICHARD (1904 - 1984), cyfreithiwr a gwleidydd Ganed Seaborne-Davies ym Mhwllheli ar 26 Mehefin 1904, yn fab i David S. Davies, capten ar y môr a Claudia Davies, ei wraig. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn y gyfraith yn 1924. Cyflawnodd yr un gamp yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, lle daeth ar ben y rhestr yn nhreipos y gyfraith a dyfarnwyd
  • SHIPLEY, WILLIAM DAVIES (1745 - 1826), clerigwr Jonathan Shipley o Leeds a Martha ei wraig, yn Twyford; cafodd ei addysg yn Reading ac yng ngholegau S. Ioan ac Eglwys Crist yn Rhydychen. Graddiodd B.A. yn 1735 ac M.A. yn 1738; daliodd amryw swyddi eglwysig a dyrchafwyd ef yn esgob Llandaf yn 1769 a'i symud yr un flwyddyn i Lanelwy. Ymwelai yn achlysurol â'i esgobaeth.
  • SIMON, BEN (c. 1703 - 1793) farwnad i Griffith Jones, Llanddowror, fod dylanwad hwnnw a'i ysgolion yn fawr iawn arno, fel ar eraill o'i genhedlaeth, megis ' Ioan Siencyn ' o Aberteifi. Anghydffurfiwr oedd Simon, fel eraill o lenorion a hynafiaethwyr y cyfnod, ac enwir ef yn aelod ym Mhanteg, Sir Gaerfyrddin, Mawrth 1743 (yn y llyfr eglwys, NLW MS 12362D). Un oedd Ben Simon o'r cylch copïwyr y dylanwadwyd arnynt yn fawr gan ' Iaco