Search results

1885 - 1896 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1885 - 1896 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JONES, RICHARD LEWIS (1934 - 2009), bardd ac amaethwr -1957). Yno ar fferm Tan-yr-eglwys, yng ngodre'r sir, y magwyd Dic Jones. Yr oedd ganddo frawd hŷn, David Goronwy (1932-2002), ac yn ddiweddarach daeth tair chwaer, Rhiannon Maud Sanders (1935-), Margaret Elizabeth Daniel (1941-) ac Eleanor Mary Isaac Jones (1942-) i gwblhau'r teulu. Cafodd ei addysg ffurfiol yn ysgolion cynradd Blaen-porth ac uwchradd Aberteifi cyn gadael yn bymtheg oed. Er iddo
  • JONES, RICHARD ROBERT (Dic Aberdaron; 1779 - 1843) iddo aros am gyfnodau byr ym Mangor, yng Nghaernarfon, ac yn sir Fôn, ac iddo yn ystod ei grwydradau gael cyfle i ddysgu Hebraeg yn ogystal â rhai ieithoedd diweddar fel Sbaeneg ac Eidaleg. Cariai nifer helaeth o lyfrau o'i gwmpas ym mhlygion ei ddillad, a bu rhaid arno droeon, o brinder bwyd a dillad, werthu rhai ohonynt a'u prynu yn ôl drachefn. Nid oedd ganddo unrhyw dro at lenyddiaeth, a gallai
  • JONES, ROBERT (Trebor Aled; 1866 - 1917), bardd a gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd 4 Hydref 1866 yn Llety'r Eos, Llansannan, sir Ddinbych. Ni chaffodd ond ychydig addysg gynnar, a dechreuodd weithio yn ifanc iawn; bu'n fugail yn ymyl Dinbych am gyfnod, ac wedi hynny yn werthwr llyfrau dros gwmni o argraffwyr. Dechreuodd bregethu yn Ninbych yn 1893, ac ordeiniwyd ef yn weinidog yr eglwysi yn Llansannan a Llanfairtalhaearn yn 1898; symudodd i Dalybont, ger Aberystwyth, yn
  • JONES, ROBERT (1810 - 1879), clerigwr ac awdur Ganwyd 6 Ionawr 1810, mab hynaf Robert Jones o Lanfyllin, Sir Drefaldwyn. Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg Croesoswallt. Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Iesu, 12 Rhagfyr 1834, a graddio'n B.A. yn 1837. Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Carey o Lanelwy, 1 Gorffennaf 1837, a'i drwyddedu i guradiaeth Llaneurgain, Sir y Fflint. Cafodd urddau offeiriad 5 Mai 1838, a bu'n gurad yn
  • JONES, ROBERT (1560 - 1615), offeiriad o urdd yr Ieswitiaid a phennaeth yr Ieswitiaid Seisnig o 1609 hyd 1613, ganwyd 1560, ger Y Waun, sir Ddinbych - yng Nghroesoswallt, medd adroddiad arall. Dichon ei fod yn ddisgybl i'r merthyr Richard Gwyn, ac yn sicr adwaenai deulu Edwardes, Plas Newydd, Y Waun, oblegid gyda Richard a Francis Edwardes y cyrhaeddodd Rheims, 20 Awst 1581; a chyda'r cyntaf y daeth i goleg y Saeson yn Rhufain ar 6 Tachwedd 1582. Ymhen
  • JONES, Sir ROBERT (1857 - 1933), llawfeddyg orthopedig chymdeithasau llawfeddygol ym Mhrydain a gwledydd eraill; cafodd hefyd chwech o raddau ('er anrhydedd') gan brifysgolion - yn eu plith (1917) D.Sc. Prifysgol Cymru. Dangoswyd teyrnged byd cyfan iddo am ei waith a'i allu pan etholwyd ef yn llywydd cyntaf yr International Society of Orthopaedic Surgery. Cafodd ei wneuthur yn K.B.E., yn C.B., ac yn farwnig. Bu farw 14 Ionawr 1933, yn Bodynfoel, Llanfechain, Sir
  • JONES, ROBERT (1769 - 1835), clerigwr a chyfaill y bardd William Wordsworth; ganwyd fis Tachwedd 1769 yn Plas-yn-llan, Llangynhafal, sir Ddinbych, mab Edward Jones, atwrnai. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Rhuthyn cyn mynd i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, lle yr oedd yn gyd-efrydydd â Wordsworth. Bu gyda'r bardd hwnnw ar daith gerdded ar gyfandir Ewrop yn 1790 ac ar daith arall trwy Ogledd Cymru yn 1791. Ordeiniwyd ef yn Llanelwy yn
  • JONES, ROBERT (1745 - 1829), athro, pregethwr, ac awdur Ganwyd 13 Ionawr 1745, mab John a Margaret Williams o'r Suntur, Llanystumdwy. Dysgwyd darllen iddo gan ei fam, a bu yn un o ysgolion cylchynol Griffith Jones a gedwid gan Thomas Gough. Llwyddodd Robert Jones i berswadio Madam Bevan i ailagor yr ysgolion cylchynnol yng Ngwynedd, a bu ef yn athro yn Llangybi (1766), Beddgelert (1767), Capel Curig (1768), Rhuddlan (1769), Brynsiencyn (1770
  • JONES, ROBERT (1806 - 1896), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur ei Amddiffyn, 1846, i ateb llyfryn William Roberts, Clynnog, ar fedyddio babanod; Casgliad o Hymnau ar Destynau Efengylaidd, 1851, yn cynnwys 918 o emynau a llawer ohonynt yn waith Robert Jones ei hunan; Ystyriaethau ar Fedydd, 1853; Traethawd ar Babyddiaeth, 1855 - dyma'r llyfr y rhoes fwyaf o'i amser iddo; Gemau Duwinyddol, 1865, casgliad o nodiadau o weithiau y Piwritaniaid ynghyd â llawer o'i
  • JONES, ROBERT (1706? - 1742) castell Ffonmon,, bonheddwr tiriog
  • JONES, ROBERT (WILFRID) (1862 - 1929), cerddor gwrs o addysg, a bu yno hyd farwolaeth yr athro yn 1883. Wedi hynny, cafodd gwrs ychwanegol gan J. H. Roberts ('Pencerdd Gwynedd') ac aeth i'r Academi Gerddorol Frenhinol, Llundain, a chafodd yrfa lwyddiannus yno. Wedi gadael yr academi, ymsefydlodd yn Llundain fel datganwr (bariton), a phenodwyd ef yn athro llais yn y Richmond School of Arts. Yn 1893 daeth i Wrecsam, ac ymsefydlodd yn athro cerdd
  • JONES, ROBERT (1891 - 1962), aerodynamegydd Ganwyd 7 Tachwedd 1891 yn y Tŷ Newydd, Cricieth, Caernarfon, yn bedwerydd plentyn John Jones a'i wraig Sarah Mary; addysgwyd ef yn yr ysgol fwrdd leol ac wedyn yn ysgol sir Porthmadog. Ym mis Hydref 1908, aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru gydag ysgoloriaeth fechan. Mathemateg oedd ei brif gwrs o dan yr Athro G. H. Bryan, F.R.S., un o sefydlwyr gwyddor Aerodynameg. Bu hefyd yn astudio Ieitheg