Search results

1801 - 1812 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1801 - 1812 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JONES, JOHN CHARLES (1904 - 1956), Esgob Bangor Ganwyd 3 Mai 1904, yn nawfed plentyn i Benjamin a Rachel Jones, Llan-saint, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Caerfyrddin, ac wedi graddio gyda dosbarth cyntaf mewn Hebraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, 1926, aeth ymlaen i Rydychen gydag ysgoloriaeth Hody i Goleg Wadham, lle'r enillodd y Junior LXX Prize ac ysgoloriaeth Pusey ac Ellerton 1927. Graddiodd yn B.A. 1928 gyda
  • JONES, JOHN DAVID RHEINALLT (1884 - 1953), dyngarwr, sefydlydd a chyfarwyddwr South African Institute of Race Relations . Williams, Bangor (20 Mai 1905) o gyfansoddiad cryf ac yn llawn egni. Ymdaflodd i waith dyngarol a bu'n flaenllaw yn yr ymdrech i sefydlu y South African Institute of Race Relations. Ef oedd y cyfarwyddwr o 1930 hyd 1947. Y flwyddyn honno penodwyd ef yn gynghorwr ar faterion brodorol yr Anglo-American Corporation. Eithr cyn hynny buasai'n olygydd (1915) The South African Quarterly gan barhau yn y swydd
  • JONES, JOHN EDWARD (1905 - 1970), ysgrifennydd a threfnydd Plaid Cymru meddiannu tir Cymru gan y Swyddfa Rhyfel; cylchynwyd gwersyll milwrol Trawsfynydd ddwywaith gan aelodau'r Blaid. Tyfodd yr ymgyrch yn erbyn boddi Cwm Tryweryn yn fawr iawn; ond diau mai'r ymgyrch yn erbyn yr Ysgol Fomio yn Llŷn oedd yr enwocaf, pan garcharwyd Saunders Lewis, Lewis Valentine a D.J. Williams. Golygai'r ymgyrchoedd niferus hyn waith mawr wrth geisio ennill cefnogaeth y wlad. Cyfrannodd ef yn
  • JONES, JOHN EDWARD (Iorwerth Twrog; 1886 - 1934), ysgolfeistr, bardd, a datgeiniad gyda'r tannau Ganwyd yn hen Dŷ'r Ysgol, Maentwrog, Sir Feirionnydd, 12 Mai 1886. Mab i John Ellis a Kate Jones. Yr oedd ei dad yn gerddor da, ac am hanner canrif yn organydd Eglwys Maentwrog. Cafodd ' J.E. ' fel yr adwaenid ef trwy Gymru, ei addysg yn ysgol Maentwrog, a bu yn ddisgybl-athro yno. Yn 1905 symudodd i Gorris, ac oddi yno i Aber-carn, Sir Fynwy. Aeth am gwrs o addysg i goleg hyfforddi athrawon ym
  • JONES, JOHN EIDDON (1841 - 1903), gweinidog Methodistiaid Calfinaidd, eisteddfodwr, a dirwestwr Ganwyd 8 Mai 1841 yn Rhydymain, Sir Feirionnydd. Cafodd addysg ar gyfer' gwaith athro ysgol yng Ngholeg Llangollen, ac ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Bala, a'i gychwyn mewn cerddoriaeth gan 'Owen Aran.' Yr oedd yn aelod o Goleg y Tonic Solffa ac yn arholwr iddo. Ysgrifennodd hanes y tonic solffa yng Nghymru (Traethodydd, xxiv, 51-60). Cyhoeddodd hanes ' Ieuan Gwyllt ' yn llyfr, Ieuan
  • JONES, JOHN EMRYS (1914 - 1991), ysgrifennydd a threfnydd y Blaid Lafur yng Nghymru Ganwyd ef ar 12 Mawrth 1914, yn fab i William ac Elizabeth Susan Jones. Eu cartref oedd 5 Teras Harris, Penrhiwceiber yng nghwm Cynon. Addysgwyd ef mewn ysgol uwchradd yn Aberpennar, ond gadawodd yr ysgol yn bedair ar ddeg mlwydd oed. Gweithiodd fel cynorthwywr mewn siop, 1928-29, ar y rheilffyrdd, 1929-33, yn ffatri ceir Rootes, 1933-36, ac eto ar y rheilffyrdd, 1936-49. Ymunodd ag Undeb
  • JONES, JOHN EVANS (1839 - 1893), newyddiadurwr Ganwyd yn Bagillt, Sir y Fflint, yn 1839. Prentisiwyd ef gyda P.M. Evans, argraffydd a chyhoeddwr, Holywell. Yn 1867 aeth i swyddfa David Roberts, masnachydd coed, Lerpwl, ac yn ystod ei dymor yn y ddinas honno dechreuodd bregethu, a bu â'i fryd ar y weinidogaeth gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; ond newidiodd ei lwybr a phenderfynodd fyned yn newyddiadurwr. Yn 1872 penodwyd ef yn olygydd y
  • JONES, JOHN HARRIS (1827 - 1885), gweinidog Methodistiaid Calfinaidd ac athro yng Ngholeg Trefeca Ganwyd 28 Awst 1827 yn Waunwthan, plwyf Llangeler, Sir Gaerfyrddin, mab John ac Elizabeth Jones, Penybanc, Closygraig. Pan oedd yn ddwyflwydd oed symudodd ei rieni i gartref y fam, sef Penybanc. Cafodd ei addysg foreol mewn ysgol a gynhelid yng nghapel Saron, Llangeler. Pan oedd yn 12 oed aeth am dair blynedd i ysgol ramadeg yng Nghastellnewydd Emlyn a gedwid gan yr Undodwr J. Davies (1795 - 1858
  • JONES, JOHN HENRY (1909 - 1985), addysgydd a chyfieithydd ddiweddarach yn bregethwr lleyg yn ei rengoedd) yn Llangefni, a thrwy ei ddygnwch darllengar ef ei hun a'r addysg a dderbyniodd yn Ysgol Genedlaethol Penrallt ac Ysgol Sir Llangefni, datblygodd John Henry Jones yn ddisgybl eithriadol o addawol, yn arbennig yn y clasuron Groeg a Lladin, ac enillodd yr ysgoloriaeth uchaf i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1927. Parhaodd yr un disgleirdeb academaidd ym
  • JONES, JOHN HERBERT (Je Aitsh; 1860 - 1943), newyddiadurwr ac awdur Ganwyd 29 Mai 1860, yn Nhalsarnau, Sir Feirionnydd, mab Elizabeth a William Jones, garddwr ym mhlas Cae'rffynnon, a blaenor yng nghapel M.C. Bethel, a fudasai o Faesneuadd, ger Llanaelhaearn. Yn ysgol y pentref y cafodd ei unig addysg reolaidd. Wedi yspaid yng ngwasanaeth teiliwr ym Mhorthmadog aeth i Birkenhead i ddysgu crefft y cysodydd, ac yn 1882 aeth i Gaernarfon i ddilyn ei alwedigaeth yn
  • JONES, JOHN HUGH (1843 - 1910), offeiriad yn Eglwys Rufain Ganwyd yn Tanrhiw, Llanycil, 21 Mai 1843; ei dad oedd John Jones, ac yr oedd ei fam Mary née Jones yn ŵyres i Ddafydd Cadwaladr. Bu yn ysgol ramadeg y Bala a hefyd, medd y coffad amdano yn Cennad Catholig Cymru, dan addysg breifat gan John Williams ('Ab Ithel'). Yn 1862 aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, gan fwriadu paratoi ar gyfer urddau yn Eglwys Loegr, ond ar 18 Hydref 1865, cyn cwpláu ei gwrs
  • JONES, JOHN ISLAN (1874 - 1968), gweinidog (U), awdur i'w fro enedigol. Ac yntau mewn gwth a oedran gwahoddwyd ef i ddod yn brifathro Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin yn 1945; bu yno 3 blynedd a gweinidogaethu i Eglwys Parcyfelfed yr un pryd. Yr oedd yn wr o argyhoeddiadau cryfion, yn hyddysg yn y cynganeddion ac yn arweinydd côr. Cyhoeddodd A brief history of the Unitarian Church, Accrington (1909), Egwyddorion yr Undodiaid (1948), a chyfrol o atgofion