Search results

1753 - 1764 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1753 - 1764 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JONES, HUGH (1837 - 1919), gweinidog Wesleaidd (1880), Lerpwl (Shaw Street) (1883), Tregarth (1886), Lerpwl (Mynydd Sion) (1887), Lerpwl (Shaw Street) (1890), Tregarth (1893), Lerpwl (Mynydd Sion) (1896), Bangor (1899). Penodwyd ef yn oruchwyliwr y Llyfrfa (1902). Ymneilltuodd yn 1911, a bu farw 23 Mai 1919. Priododd Mary, merch y Parch. John Williams (Methodistiaid Calfinaidd), Llansilin. Mab iddo oedd John Arthur Jones, gol. Y Calcutta Statesman
  • JONES, HUGH ROBERT (1894 - 1930), sylfaenydd Plaid Genedlaethol Cymru; Ganwyd 3 Mehefin 1894 yn ' Ebenezer ' (Deiniolen), Sir Gaernarfon, mab Robert Hugh Jones ac Ellen ei wraig, y naill yn disgyn o hen deulu Bodnithoedd, a'r llall o deulu John Elias a ' Ieuan o Leyn.' Yn dair oed, aeth i ysgol y bechgyn, Clwtybont, a pharhau yno hyd yn 13 oed. Yna, i'r chwarel, i'r un alwedigaeth â'i dad - cael addysg y chwarel ar awr ginio, darllen llyfrau lawer, lloffa'n drwyadl
  • JONES, HUGH WILLIAM (1802 - 1873), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a golygydd Ebeneser, Blaenafon; bu wedyn yn Nhredegar (Awst-Rhagfyr 1831), yn Charles Street, Casnewydd (1832-5), ac yn y Tabernacl, Caerfyrddin (1835-72). Pregethai'n anwastad, ond ar adegau'n ysgubol iawn. Eithr odid nad ar y llwyfan ac yn y Wasg y bu'n fwyaf ei ddylanwad. Yr oedd yn Rhyddfrydwr cryf, ac yn ddyn o gryn bwys yng ngwleidyddiaeth ei sir. Ddiwedd 1837, prynodd Seren Gomer, a chyhoeddodd ef o 1838 hyd
  • JONES, HUMPHREY (Bryfdir; 1867 - 1947), bardd ac arweinydd eisteddfodau Ganwyd 13 Rhagfyr 1867, yng Nghwm Croesor, Sir Feirionnydd, mab John Jones, tyddynnwr, a Mary Roberts ei wraig; yr oedd yn ŵyr i Robert Roberts, Erw Fawr, sefydlodd yr ysgol sul yn Llanfrothen. Wedi iddo adael yr ysgol yn 12 oed, aeth i weithio mewn chwarel. Treuliodd ei oes bron yn gyfangwbl ym Mlaenau Ffestiniog; yng nghydol amser daeth i ddal swydd o gyfrifoldeb mewn chwarel. Dysgodd elfennau
  • JONES, HUMPHREY OWEN (1878 - 1912), cemegwr Ganwyd 20 Chwefror 1878 yn Goginan, Sir Aberteifi. Symudodd y teulu i Ebbw Vale ac addysgwyd y mab yn Ysgol Lewis, Pengam. Daeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn 1894 ac yr oedd ymhlith graddedigion cyntaf prifysgol newydd Cymru. Oddi yno aeth i Goleg Clare, Caergrawnt, gan raddio yn uchel yno yn 1900. Fe'i dewiswyd yn ' Jacksonian Demonstrator ' yn fferyllfa'r brifysgol yn 1902, ac yn
  • JONES, HUW (1700? - 1782), bardd a chyhoeddwr, ac un o brif faledwyr y 18fed ganrif tlodi a gorthrwm. Cyfansoddodd hefyd nifer o anterliwtiau megis ' Histori'r Geiniogwerth Synnwyr,' ' Capten Factor,' ac ' Ymddiddan rhwng Protestant a Neillduwr.' Yn 1759 golygodd Dewisol Ganiadau yr oes hon, yn cynnwys gwaith William Wynn (Llangynhafal), Goronwy Owen, 'Ieuan Brydydd Hir,' ac eraill, a gwaith amryw o feirdd nas cyhoeddwyd o'r blaen, eiddo Huw Jones yn eu plith; cafwyd pum argraffiad
  • JONES, IDWAL (1899 - 1966), addysgydd ac Athro prifysgol Ganwyd 31 Rhagfyr 1899 ym Mhen-clawdd, Morgannwg, yn fab i Llewelyn a Margaret (ganwyd Rees) Jones. Bu mewn ysgol gynradd ym Mhenclawdd ac yn ysgol sir Tre-gŵyr, wedyn yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth lle y graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd yn Saesneg yn 1922. Cafodd ei M.A. yn 1924 am draethawd ar ' The Critical ideas of Matthew Arnold, with special reference to French and German Criticism
  • JONES, IORWERTH (1913 - 1992), gweinidog, awdur a golygydd ddiwyd yno am un mlynedd ar hugain, ac ar ben ei brysurdeb mewn eglwys enwog am ei gweithgarwch, bu'n hyrwyddo'r Ymgyrch Newydd yng Nghymru a gweithgarwch y Ganolfan Ecwmenaidd ym Mlaendulais, a chychwyn Y Crynhoad (y Reader's Digest Cymraeg) ym 1949. Ar Awst 15, 1940 priododd â Nesta Roberts o Landegái, Bangor, nyrs wrth ei galwedigaeth, ac un â'i gwreiddiau yn Sir Fôn, ei thad o Lanfairpwllgwyngyll
  • JONES, ISHMAEL (1794 - 1876) Ganwyd yn 1794 mewn tŷ to gwellt a elwid Plas-yn-pant, Ponciau, yn fab i Thomas ac Elisabeth Jones. Glöwr ydoedd yn nyddiau ei lencyndod, ond ar waethaf y creithiau glas a oedd ar ei wyneb, ni fynnai gydnabod ei alwedigaeth wreiddiol. Daeth o dan ddylanwad pregethu 'Williams o'r Wern,' ac yn fuan wedi ymaelodi gyda'r Annibynwyr dechreuodd bregethu. Bu yn athrofa Hackney cyn ei ordeinio i'r
  • JONES, JACK (1884 - 1970), awdur a dramodydd llenorion yr ysgol Eingl-Gymreig : a'i lyfrau wedi cael cylchrediad eang - tair nofel (Rhondda roundabout 1934, Black parade 1935, Bidden to the feast 1938), drama (Land of my fathers 1937), a chyfrol gyntaf ei hunangofiant (Unfinished journey, 1937): yr oedd yn adnabyddus fel siaradwr ar y radio ac i lawer o gynulleidfaoedd yng Nghymru; ac aeth yn fwy enwog byth pan gynhyrchwyd ei ddrama, Rhondda
  • JONES, JAMES IDWAL (1900 - 1982), prifathro a gwleidydd Llafur of Wales (1955), A New Geography of Wales (1960) ac J. R. Jones (Ramoth) a'i Amserau (1967). Ei ddiddordebau oedd ffotograffiaeth a phaentio tirweddau. Mae ei bapurau yng ngofal Archifdy Sir Ddinbych, Rhuthun. Roedd Joneswedi priodi ym 1931 Catherine Humphreys, a bu iddynt dri o blant. Bu un ferch farw o flaen ei thad. Roeddent yn byw yn Stryd Ellis, Maelor, Ponciau, Wrecsam. Bu yntau farw, ar ôl
  • JONES, JAMES IFANO (1865 - 1955), llyfrgellydd a llyfryddwr history of Nonconformity in Cardiff, 1912, a ' Sir Mathew Cradock and some of his contemporaries ' yn Archæologia Cambrensis, 1919. Ysgrifennodd gofiant W. T. Samuel, ei fywyd a'i lafur yn 1920. Trodd at feirniadaeth lenyddol gydag erthygl ' Llenyddiaeth hanner ola'r ddeunawfed ganrif ' yn Y Geninen, 1902 (Ionawr a Gorffennaf). O 1905 i 1929 bu'n olygydd ' Y golofn Gymreig ' yn y S. Wales Weekly News