Search results

1645 - 1656 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1645 - 1656 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JONES, Syr CADWALADR BRYNER (1872 - 1954), gŵr amlwg yn hanes addysg amaethyddol Cymru a gwas sifil o fri Ganwyd 6 Ebrill 1872, mab Enoch Jones, Cefnmaelan, Dolgellau, Meirionnydd, a Jane ferch Lewis Jones, Maesbryner. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Dolgellau a choleg amaethyddol Aspatria; cymerodd radd M.Sc. Prifysgol Durham ac etholwyd ef yn Gymrawd o'r Highland and Agricultural Society of Scotland. Apwyntiwyd ef gan Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn ddarlithydd cynorthwyol i fod yn
  • JONES, CALVERT RICHARD (1802 - 1877), ffotograffydd arloesol, artist ac offeiriad iawn am ddarganfyddiadau eu cefnder William Henry Fox Talbot o Abaty Lacock, Wiltshire, dyfeisiwr y dull positif-negatif o wneud ffotograff. Oherwydd problemau ymarferol gyda phroses Talbot cymerodd yn gyntaf at broses y 'daguerrotype' a'i meistroli'n llwyr erbyn 1841. Yn ystod yr 1840au bu'n cydweithio gyda Talbot a chyda Ffrancwyr megis Hippolyte Bayard, ac yn ddolen gyswllt pwysig rhwng arloeswyr
  • JONES, Syr CYNAN (ALBERT) EVANS (Cynan; 1895 - 1970), bardd, dramodwr ac eisteddfodwr Ganwyd 14 Ebrill 1895, yn fab i Richard Albert Jones a Hannah Jane (ganwyd Evans), Pwllheli, Sir Gaernarfon. Cafodd ei addysg yn ysgol elfennol ac ysgol sir Pwllheli, a Choleg y Brifysgol, Bangor, lle graddiodd yn 1916. Yn yr un flwyddyn ymunoddd â'r R.A.M.C., a bu'n gwasanaethu yn Salonica ac yn Ffrainc, fel aelod o'r 86th Field Ambulance ac yn ddiweddarach fel caplan. Ar ôl y rhyfel aeth i
  • JONES, DAFYDD (1711 - 1777), emynydd Ganwyd 1711 yng Nghwm Gogerddan, Caeo, Sir Gaerfyrddin, mab Daniel John, porthmon. Porthmon oedd yntau hefyd, a chafodd dröedigaeth yng nghapel Troed-rhiw-dalar wrth ddychwelyd adref o borthmona. Ymunodd ag eglwys Annibynnol Crug-y-bar, a bu'n aelod blaenllaw yno ar hyd ei oes. Priododd, (1), Ann Jones, Llanddewi-brefi, (2) - Price, Hafod Dafolog, Llanwrda. Aeth i fyw i'r Hafod c. 1763; bu farw
  • JONES, DAFYDD (Dafydd Siôn Siâms; 1743 - 1831), cerddor, bardd, a llyfr-rwymwr Bedyddiwyd 5 Mai 1743 yn eglwys Llandanwg, Sir Feirionnydd, mab John a Gwen James. Bu'n byw ym Maentwrog, lle y priododd ei wraig gyntaf, ac ym Mhenrhyndeudraeth (lle yr adeiladodd dy a'i alw'n ' Llundain'). Gofalai am y canu yn eglwys plwyf Llanfrothen ac âi o gwmpas i eglwysi eraill i ddysgu cantorion. Dywedir iddo adael yr Eglwys gan ymuno â'r Methodistiaid Calfinaidd, a gofalu am y canu yn y
  • JONES, DAFYDD RHYS (1877 - 1946), ysgolfeistr a cherddor Ganwyd 10 Mehefin 1877, ym Maes Comet, Drofa Dulog, Patagonia, yn un o ddeg o blant Dafydd Jones a Rachel (ganwyd Williams) ei wraig. Yr oedd y tad yn y fintai gyntaf i lanio ar draethau Patagonia. Hanai o ardal Blaen-porth, Ceredigion, o'r un teulu â John Jones, Blaenannerch (1807 - 1875;). Ymfudasai teulu'r fam o Brynmawr i'r wladfa Gymreig yn Rio Grande yn Brazil ac yr oedd hi'n rhugl mewn
  • JONES, DANIEL (1788 - 1862), gweinidog gyda'r Bedyddwyr oddi yno i'r Felinfoel (1845-1853), eglwys a oedd ar y pryd mewn cyflwr drwg ac a adfywiwyd ganddo. Yn 1853 symudodd i Dongwynlais, lle y bu farw 31 Rhagfyr 1862. Merch iddo oedd Jane, priod William Roberts ('Nefydd'). Yr oedd Daniel Jones yn un o bregethwyr mwyaf ei enwad. Yn y Felinfoel cyhoeddodd gyfrol o'i bregethau, a hefyd lyfr emynau, Crynhodeb o Hymnau Cristionogol (1845).
  • JONES, DANIEL (1757 - 1821), clerigwr Methodistaidd Ganwyd c. 1757, brodor, fe dybir, o Lanboidy, Sir Gaerfyrddin. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1781 a'i drwyddedu'n gurad Pencarreg, eithr curad Llanybydder oedd pan ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1782. Daeth i Radyr, Morgannwg, c. 1785, a bu'n gurad yno weddill ei oes. Priododd, 1792, Joan, merch Edmund Williams, Sain Ffagan. Cefnogai'r Methodistiaid, a phregethai yn eu capeli; deuent hwythau i
  • JONES, DANIEL (1813 - 1846), cenhadwr ar ran y Methodistiaid Calfinaidd mab Edward Jones, Maesyplwm, Llanrhaeadr, sir Ddinbych. Pan nad oedd ond 15 oed gwnaeth adduned yn eglwys fechan Llynypandy, gerllaw yr Wyddgrug, i'w roddi ei hun i wasanaeth yr efengyl, a chan ei fod mor dduwiolfrydig edrychid arno fel un cymwys i'r weinidogaeth ac, yn ddiweddarach, i wasanaethu ar faes y genhadaeth. Aeth i Goleg y Bala yn 1842 a mynd oddi yno, yn 1844, i Lundain am gwrs pellach
  • JONES, DANIEL (1908 - 1985), gwleidydd Llafur frwd weithgareddau CND. Priododd ym 1932 Phyllis, merch John Williams, Maesteg, a bu iddynt ddau fab ac un ferch. Eu cartref oedd 124 Marsden Road, Burnley. Cerddoriaeth a cherdded oedd ei ddiddordebau. Bu farw Daniel Jones ar 19 Chwefror 1985.
  • JONES, DANIEL (1725? - 1806), bardd amheus mai ef a gyfieithodd i'r Gymraeg ran o lyfr y Dr. John Gill Exposition of the Revelation of St. John fel y dywedir yn Llyfryddiaeth Sir Ddinbych, iii, 67. Yn ôl NLW MS 325E (39) 'roedd dros ei 80 mlwydd oed pan fu farw tua diwedd 1803, ond yn ôl cofnodion swyddogol Esgobaeth Llanelwy ar 10 Mawrth 1806 y claddwyd ef o'r elusendy yn Rhiwabon.
  • JONES, DANIEL ANGELL (1861 - 1936), llysieuydd ac awdurdod ar redyn a mwsogl Ganwyd 14 Gorffennaf 1861 yn Lerpwl, a bu'n ysgolfeistr ym Machynlleth a Harlech. Yr oedd ganddo wybodaeth arbennig am blanhigion siroedd Meirionnydd a Chaernarfon, ac yr oedd yn awdurdod cydnabyddedig ar fwsogl ym Mhrydain. Enillodd wobr yn eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog, 1898, am draethawd ar blanhigion Sir Feirionnydd. Ef a ail-ddarganfu, ar Gader Idris, yn 1901, y planhigion a