Search results

1609 - 1620 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1609 - 1620 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JOHN, EDWARD THOMAS (1857 - 1931), diwydiannwr a gwleidyddwr Ganwyd 14 Mawrth 1857 ym Mhontypridd. Bwriodd ei gyfnod diwydiannol yn Middlesbrough, yn aelod o ffyrm Bolckow, Vaughan, a Williams, gwneuthurwyr haearn - ffyrm a sefydlwyd gan John Vaughan (1799? - 1868), Cymro a fu'n gweithio yn ei ieuenctid fel ' roll-turner ' yng ngwaith haearn Clydach ym mhlwy Llanelli yn sir Frycheiniog, ac a atynodd lawer iawn o Gymry i Middlesbrough ar un cyfnod. Y mae
  • JOHN, EWART STANLEY (1924 - 2007), diwinydd, gweinidog gydag enwad yr Annibynwyr, athro a phrifathro coleg Ganwyd Stanley John ar gyrion pentref Wdig, Abergwaun, ym mhlwyf Llanwnda, ar 20 Mai 1924, y chweched o saith plentyn Dafydd (a oedd yn ddiacon ac yn godwr canu yn eglwys Rhosycaerau) a Mary Ann John, Bwlch y Rhos (man ei eni) ac yn ddiweddarach, Ffynnon Clun a Brynhyfryd. Fe'i haddysgwyd yn ysgol elfennol Wdig ac yn Ysgol Sir Abergwaun, lle yr enynnodd ei athro Saesneg, D. J. Williams, gariad
  • JOHN, GEORGE (1918 - 1994), gweinidog (Bed.) a phrifathro coleg Ganwyd George John ym Mhen-rhiw, plwyf Eglwys Wen, Sir Benfro, ar 8 Tachwedd 1918, yn fab i William a Margaret John. Roedd ganddo un chwaer, Mattie, a dwy hanner chwaer o briodas gyntaf ei dad. Addysgwyd ef yn yr ysgol gynradd leol, ac yn Ysgol y Sir, Aberteifi. Bedyddiwyd ef yn Eglwys y Bedyddwyr, Bethabara, ac yno, o dan weinidogaeth y Parchg Lewis Young Hayden, y codwyd ef i bregethu. Yn 1938
  • JOHN, GWENDOLEN MARY (1876 - 1939), arlunydd Ganwyd yn Hwlffordd, Penfro, 22 Mehefin 1876, ail blentyn Edwin William John ac Augusta (ganwyd Smith) ei wraig, a chwaer hyn Augustus John. Addysgwyd hi yn Ninbych-y-pysgod, lle'r aeth y teulu i fyw wedi marw ei mam yn 1884. Bu'n tynnu lluniau o'i phlentyndod, a'i phaentiadau olew cynharaf i oroesi yw'r portread o Winifred ei chwaer iau (amgueddfa Dinbych-y-pysgod) a golygfa o harbwr Dinbych-y
  • JOHN, HENRY (1664 - 1754), emynydd Ganwyd yn Blaenau Gwent, sir Fynwy, lle yr oedd yn un o aelodau cyntaf eglwys y Bedyddwyr. Symudodd yn ddiweddarach i Bontypŵl. Cyhoeddwyd Rhai Hymnau … Duwiol gan S. Farley, Bryste, yn 1747. Cyhoeddwyd Amryw Hymnau Dymuniadol a Phrofiadol o'i waith, gydag emynau gan eraill, gan S. Farley, Bryste, yn 1773. (O 1740 hyd 1742 argreffid ym Mhontypŵl lyfrau Cymraeg gan S. Farley ar anogaeth Miles
  • JOHN, ISAAC (fl. 1729-30), awdur halsingau, sef carolau duwiol yr oedd yn byw, y mae'n debyg, yng ngwaelod Sir Aberteifi.
  • JOHN, JAMES MANSEL (1910 - 1975), gweinidog (Bed.) ac Athro coleg Parchg Cynog Williams. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Elfennol Aberdâr cyn symud i Ysgol Ramadeg y Bechgyn, ac yna gael ei dderbyn i ddarllen hanes yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd yn 1929. Graddiodd yn 1933 gan ennill Gwobr Charles Morgan am waith ar Hanes Cymru. Yn 1934 aeth ymlaen i ddarllen Diwinyddiaeth yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen. Dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth James Neobard, a sefydlwyd yn
  • JOHN, THOMAS (1816 - 1862), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 29 Medi 1816, yng Nghilgeran, Sir Benfro, mab Lewis a Hannah John. Ymaelododd â'r Methodistiaid c. 1837, a dechreuodd bregethu yn 1839. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Tyddewi, 1846, bu dan addysg yn Nhrefeca yn 1849, a bu farw 27 Tachwedd 1862. Yr oedd yn bregethwr hynod yn ei ddydd. Yr oedd ei gorff tenau, esgyrnog, ei wyneb salw, a'i ddull dramatig, brawychus, wrth draddodi, yn creu arswyd nid
  • JOHN, THOMAS GEORGE (1880 - 1946), peiriannydd a dyn busnes Ganwyd Thomas John ar 18 Tachwedd 1880 yn Noc Penfro, Sir Benfro, yn ail o bedwar o blant William H. John, saer llongau, a'i wraig Maria (g. Rees). Roedd ganddo ddau frawd ac un chwaer, a Chymraeg oedd iaith yr aelwyd. Ar ôl ei addysg mewn ysgolion lleol, daeth yn brentis yn nociau'r llynges lle gweithiai ei dad. Gwnaeth gryn argraff ar ei gyflogwyr, ac enillodd ddwy ysgoloriaeth i astudio yng
  • JOHN, WALTER PHILLIPS (1910 - 1967), gweinidog (B) Ganed 31 Ionawr 1910 yn y Gilfach, ger Bargod, Morgannwg, yr ail o bum plentyn Daniel Robert John (m. 1948), gweinidog (B) a'i briod, Susannah Mary (ganwyd Rees), y ddau o ardal Pen-y-groes ger Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Bu'r tad yn weinidog eglwysi yn y Bargod, Porth (Rhondda), Abercynon ac eglwys hynafol Rhydwilym. Addysgwyd Walter P. John yn ysgol ramadeg Aberpennar, coleg y Bedyddwyr a Choleg
  • JOHN, Syr WILLIAM GOSCOMBE (1860 - 1952), cerflunydd Ganwyd yng Nghaerdydd 21 Chwefror 1860, yn fab i Thomas John, Llantriddyd, Morgannwg, ac Elizabeth (ganwyd Smith) o Randwick, swydd Gaerloyw. Cerfiwr pren 3ydd Ardalydd Bute oedd ei dad a dechreuodd William ei gynorthwyo gyda'r gwaith cerfio yng nghastell Caerdydd yn 1874. Mynychodd Ysgol Gelf Caerdydd 1871-1881 a dysgodd anatomi o 1876 ymlaen gan James Philpotts, paentiwr cerbydau lleol. Bu John
  • JOHNES, ARTHUR JAMES (1809 - 1871), barnwr llysoedd sirol Ganed 4 Chwefror 1809, mab Edward Johnes, Garthmyl, Sir Drefaldwyn, a Mary Jones ei wraig, o Llifior, ac a oedd felly a chysylltiad a theulu Owen o Gefn-hafodau. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Croesoswallt a Choleg Prifysgol Llundain, a galwyd ef yn fargyfreithiwr gan Lincoln's Inn yn 1835. Yn 1847 penodwyd ef yn farnwr llysoedd sirol yng Ngogledd Cymru; cynhwysai ei ranbarth ar un adeg beth