Search results

145 - 154 of 154 for "Howel"

145 - 154 of 154 for "Howel"

  • WILLIAMS, DAVID (1738 - 1816), llenor a phamffledydd gwleidyddol Ganwyd yn 1738 yn Waunwaelod (y Carpenters' Arms yn ddiweddarach), plwyf Eglwysilan, gerllaw Capel Watford, ar ochr heol (nid y briffordd) yn arwain o Gaerffili i Gaerdydd. William David (un o ddychweledigion Howel Harris), a aned yn Llwynybarcud, plwyf Llanharry, oedd ei dad. Cafodd ei addysg mewn ysgol a gedwid yn y gymdogaeth gan David Williams (1709 - 1784). Yn unol â dymuniad a wnaeth ei dad
  • WILLIAMS, DAVID (1779 - 1874) Troedrhiwdalar, gweinidog gyda'r Annibynwyr ddiwedd ei oes. Bu farw 20 Awst 1874. Meddai gorff iach, cydnerth, llais clir, clochaidd, parabl rhwydd, ac arddull boblogaidd iawn. Pregethai bob blwyddyn yng nghymanfaoedd Gogledd a De. Yr oedd yn bregethwr gwresog, efengylaidd yn ôl urdd Howel Harris a diwygwyr y 18fed ganrif. Tebyg iddo deithio a phregethu gymaint, onid mwy, na neb yn ei gyfnod.
  • WILLIAMS, EDMUND (1717 - 1742), un o emynwyr cynnar y diwygiad Methodistaidd Brodor o Gwm Tyleri, sir Fynwy, ac un o ddychweledigion Howel Harris ar ei daith bregethu gyntaf yn sir Fynwy - Mawrth ac Ebrill 1738. Eglwyswr ydoedd, o deulu da ac yn dda ei fyd. Cafodd addysg dda. Yr oedd yn ŵr defosiynol ac o dan ddylanwad Harris daeth yn 'gynghorwr mawr ei barch ymysg y Methodistiaid.' Cyhoeddodd ef a'i gyfaill Morgan John Lewis, yntau yn gyd-ddychweledig ag ef, gasgliad o
  • WILLIAMS, EVAN (1719 - 1748) Cwmllynfell, gweinidog Annibynnol a diwygiwr Ganwyd 6 Ionawr 1719 yn Abercraf, Brycheiniog, yn frawd i William Evans, Cwmllynfell. Hanoedd o deulu crefyddol. Yn ôl pob tebyg, bu yn ysgol Joseph Simmons yn Abertawe neu Gastell Nedd. Yn y frwydr boeth rhwng Calfiniaeth ac Arminiaeth yng Nghwmllynfell ymunodd a phlaid Howel Harris a Daniel Rowland. Ffaglodd ei ysbryd efengylaidd tanllyd yn ei gyfathrach â'r diwygwyr. Yr oedd yn wir ddiwygiwr o
  • WILLIAMS, JOHN (fl. 1739-79), cynghorwr Methodistaidd ac emynydd Sonia Howel Harris am 'dear Jack of Errwd ' yn 1739; trigai teulu o'r cyfenw yn Erwd, plwyf Cerrig Cadarn, sir Frycheiniog. Yr oedd ef a William, ei frawd, yn gynghorwyr yn 1742-3, a chynhelid seiat Fethodistaidd yn eu cartref. Priododd William (bu farw 1746) ag Anne Bowen o'r Tyddyn. Priododd Sarah, ei chwaer, â Thomas James y cynghorwr o Lanfair-ym-Muellt. Gwasnaethai Howel Harris dad bedydd i
  • WILLIAMS, Syr TREVOR (c. 1623 - 1692) Llangibby, gwleidyddwr yn disgyn o briodas Howel Gam ap David (fl. 1300) â merch i deulu Scudamore. Mabwysiadwyd y cyfenw'n gyntaf gan ei daid, Roger William (bu farw 1583), a oedd yn siryf sir Fynwy yn 1562 ac a ddilynwyd yn y swydd honno yn 1627 gan ei fab, Syr Charles Williams, tad Syr Trevor Williams; bu Syr Charles Williams, a wnaethpwyd yn farchog yn 1621, yn aelod seneddol y sir y flwyddyn honno hefyd eithr
  • WILLIAMS, WILLIAM (1717 - 1791), clerigwr Methodistaidd, awdur, ac emynydd Ganwyd yn 1717 yn y Cefncoed, Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin, mab John a Dorothy Williams. Yr oedd ei dad yn henuriad llywodraethol yn eglwys Annibynnol Cefnarthen. Addysgwyd ef, gyda'r bwriad o fod yn feddyg, yn athrofa Llwynllwyd; ac yn ystod ei dymor yno cafodd dröedigaeth o dan weinidogaeth Howel Harris ym mynwent Talgarth. Ymunodd â'r Eglwys Sefydledig ac ordeinwyd ef yn ddiacon yn 1740
  • WYNN family Ynysmaengwyn, Dolau Gwyn, fyw yn 1425), a JENKIN AB IORWERTH. Yr oedd Jenkin ab Iorwerth yn ' ffermiwr ' (h.y. prydleswr ar ran y Goron) melinau Cyfyng a Chaethle a fferri Aberdyfi yn y 36 flwydd o deyrnasiad y brenin Harri VI. Bu HOWEL AP JENKIN AB IORWERTH farw o'r pla yn 1494. Dilynwyd ef gan ei fab, HUMPHREY (bu farw 1545); ei fam ef oedd Mary, ferch Syr Roger Kynaston, cwnstabl castell Harlech. Gwraig Humphrey oedd
  • WYNN family Maesyneuadd, Llandecwyn Yr oedd y teulu hwn, fel teuluoedd eraill yng ngorllewin Meirionnydd, yn olrhain yr ach hyd at Osbwrn Wyddel, trwy Dafydd ab Ieuan ab Einion, cwnstabl castell Harlech a'i wraig Margaret (Puleston). Mab i Dafydd ab Ieuan a Margaret oedd THOMAS a briododd, â Gwerfyl, ferch Howel ap Rhys, Bron-y-foel gweler teulu Ellis, Bron-y-foel ac Ystumllyn, ac a ddaeth yn dad DAFYDD, gwraig yr hyn oedd Lowry
  • WYNN, WILLIAM (1709 - 1760), clerigwr, hynafiaethydd, a bardd Medi 1734 yn ddiacon yn Watlington gerllaw Rhydychen, a symudodd i Lanbrynmair wedi ei benodi'n ficer y plwyf hwnnw 9 Mehefin 1739. Bu ymryson rhyngddo â Howel Harris yn Llanbrynmair Tachwedd, 1740. Priododd â Martha Roberts, Rhydonnen, Llandysilio gerllaw Dinbych, 6 Awst 1742. Bu iddynt blant a chyfeirir atynt gan Wynn (Panton MS. 58 (185)) a chan William Morris (Morris Letters, ii, t. 168