Search results

1369 - 1380 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1369 - 1380 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • HUGHES, HUGH DERFEL (1816 - 1890) Bethesda. Ei gân orau yw'r ' Cyfamod Disigl,' a gyfansoddodd wrth groesi'r Berwyn â'i bladur ar ei ysgwydd, o'r cynhaeaf yn Sir Amwythig. Aeth y pennill olaf,' ' Y Gŵr a fu gynt o dan hoelion,' yn rhan o gyfoeth emynau'r genedl. Ei gywydd gorau yw ' Y Bore Olaf.' Yn ei gofiant i'w dad, dyry hefyd gefndir ei fywyd ei hun; gweler Y Traethodydd, 1946, 174-183; 1947, 177-83.
  • HUGHES, HUGH JOHN (1828? - 1872), awdur a cherddor Ganwyd yn Brynmoel, gerllaw y Bala, Sir Feirionnydd, c. 1828. Ymfudodd i U.D.A. yn 1849 ac ymsefydlu yn Deerfield, talaith Efrog Newydd. Argraffydd ydoedd o ran galwedigaeth; yr oedd hefyd yn gerddor da. Yn 1859 enillodd wobr yn eisteddfod Utica am draethawd ar gerddoriaeth gysegredig; bu hefyd yn ysgrifennu erthyglau i'r Cyfaill (Utica). Cyhoeddodd (1) Y Delyn Aur: sef Casgliad o Hymnau, Tonau
  • HUGHES, HUGH JOHN (1912 - 1978), athro ysgol, awdur, golygydd ac adolygydd Ganwyd 18 Awst 1912 ym Mwlch-gwyn, Garndolbenmaen, Sir Gaernarfon, yr hynaf o ddau fab Thomas Hughes, ffermwr, a'i wraig Mary Jane (gynt Jones). (Roedd y brodyr John Roberts, Llangwm, a Robert Roberts, Clynnog, pregethwyr amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn eu dydd, ymhlith ei hynafiaid). Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor Brynengan (1917-25), ysgol sir Pen-y-groes (1925-31; (enillodd y gadair
  • HUGHES, HUGH MICHAEL (1858 - 1933), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 13 Awst 1858 yn Llanllechid, Sir Gaernarfon, mab Michael ac Elisabeth Hughes. Cafodd ei addysg yn y Coleg Coffa, Aberhonddu, ac yng ngholegau'r brifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd. Fe'i hordeiniwyd yn 1886 a bu'n bugeilio eglwysi'r Hen Dabernacl, Caergybi; Grove Street, Lerpwl; ac Ebenezer, Caerdydd - yr olaf o'r rhain am yn agos i 40 mlynedd. Yr oedd yn bregethwr nodedig, yn amlwg iawn
  • HUGHES, HUGH ROBERT (1827 - 1911) Kinmel, Dinorben,, yswain ac achyddwr Ganwyd 6 Mehefin 1827, yn fab i Hugh Robert Hughes, Bache Hall, sir Gaer, o'i ail wraig, Anne, merch Thomas Lance, Wavertree Hall Lancashire. Y cyntaf o'r teulu i ymsefydlu yng Nghinmel, hen gartref yr Holandiaid oedd ei daid y Parch. Edward Hughes, M.A. (1738 - 1815), a brynodd y stad yn niwedd y 18fed ganrif. Mab ydoedd ef i Hugh Hughes, Lleiniog, Môn (1705/6 - 1773/4), a fu'n ysgrifennydd
  • HUGHES, HYWEL STANFORD (1886 - 1970), ranshwr, cymwynaswr a chenedlaetholwr , Llundain, a Thomas Charles Williams yn gweinyddu. Ganwyd hi yn Llundain yn ferch i Owen Williams, Gwalchmai, Môn, dilledydd llwyddiannus yn Llundain a fu'n uchel siryf y sir. Yr oedd hi'n nith i Syr Vincent Evans, Parhaodd eu plant i ffermio yn Colombia. Ni cheisiodd Hywel Hughes ddinasyddiaeth y wlad honno, ond dewis bob amser bwysleisio'i genedligrwydd Cymreig. Yr oedd yn aelod brwdfrydig o Blaid Cymru
  • HUGHES, ISAAC (Craigfryn; 1852 - 1928), nofelydd Ganwyd yn Quakers Yard, Sir Forgannwg, yn fab i Daniel Hughes, crydd. Ychydig o ysgol a gafodd. Yr oedd yn gweithio yng nglofa Llancaiach, Gelligaer, pan oedd yn 9 oed. Yn ddiweddarach, treuliodd chwe mis yn yr ysgol a gedwid gan Thomas Evans yn y Carpenters Arms. Ysgrifennai farddoniaeth a storïau byrion i gylchgronau a chyfnodolion Cymraeg, ond yn 1881 y daeth i fri pan enillodd ei nofel, Rhys
  • HUGHES, JAMES (Iago Bencerdd; 1831 - 1878), cerddor Ganwyd yn Ysgubor Gerrig, Trefriw, Sir Gaernarfon - cofnodir ei fedydd yn eglwys Trefriw ar 23 Chwefror 1831. Dangosodd dalent arbennig at gerddoriaeth yn blentyn, a dysgodd ganu'r ffliwt, y feiolin, a'r delyn, a daeth yn chwaraewr medrus ar y delyn deirres a'r delyn bedal. Gwnaeth delyn iddo ei hun, a chanodd arni yn eisteddfod Llanrwst, 1874. Dysgodd lawer i ganu'r delyn, a daeth amryw ohonynt
  • HUGHES, JAMES (Iago Trichrug; 1779 - 1844), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd, ac esboniwr Beiblaidd Ganwyd 3 Gorffennaf 1779, yn y Neuadd-ddu, Ciliau Aeron, Sir Aberteifi, mab Jenkin ac Ellen Hughes. Cafodd ychydig o addysg elfennol yn ei ardal a phrentisiwyd ef yn of. Cafodd dröedigaeth yn 1797 wrth wrando ar y Parch. Dafydd Parry, Llanwrtyd, ac ymaelododd gyda'r Methodistiaid yn Llangeitho. Aeth i Lundain yn 1799 ac ymsefydlodd yn Deptford, lle bu'n flaenllaw gyda chychwyniad achos crefyddol
  • HUGHES, JOHN (1775 - 1854), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, awdur, ac emynydd Ganwyd ym Mhenyfigin, Llanfihangel yng Ngwynfa, Sir Drefaldwyn, 22 Chwefror 1775. Dysgodd grefft gwehydd, ond ar ôl gwrando ar Thomas Jones, Llanwnnog, yn pregethu, ac ymuno â'r seiat Fethodistiadd ym Mhenllys, fe ddaeth i sylw Thomas Charles, Bala, a chyflogwyd ef yn athro yn yr ysgolion cylchynol. Bu'n cadw ysgol mewn amryw fannau. Bu'n lletya un adeg yn Nolwar Fach, a gwyddys ei fod yn
  • HUGHES, JOHN (1827 - 1893), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 27 Medi 1827 yn nhŷ capel y Methodistiaid Calfinaidd, Llannerch-y-medd, Môn, mab i John ac Ellen Hughes. Yn 15 oed prentisiwyd ef yn grydd; bu hefyd yn gyflogydd cryddion. Dysgodd William Roberts, Amlwch, Roeg iddo. Cyflwynwyd ei achos yng nghyfarfod misol Cemaes, 20 Rhagfyr 1847, a derbyniwyd ef yng nghyfarfod misol y Garreglefn, 17 Ionawr 1848. Aeth i athrofa'r Bala, Awst 1848; yr oedd
  • HUGHES, JOHN (1776 - 1843), gweinidog Wesleaidd, a hynafiaethydd Ganwyd yn Aberhonddu, 18 Mai 1776, mab i William Hughes, hetiwr, o'i ail wraig Elizabeth Thomas, o Dan-y-cefn gerllaw Aberhonddu; ar garreg fedd ei thad John Thomas (Jones, History of the County of Brecknock, 3ydd arg., iv, 159), a fu farw yn 1757 yn 55 oed, gelwir ef yn 'gent.'; aeth ei brawd John (1752 - 1829) i Rydychen, a bu'n ficer Caerlleon-ar-Wysg (1784?-1829). Yn 1778, aeth John Hughes i