Search results

1309 - 1320 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1309 - 1320 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • HOPKINS, WILLIAM (1706 - 1786), clerigwr ac awdur Ganwyd yn Nhrefynwy. Fe'i haddysgwyd yn ysgol ramadeg Trefynwy a Choleg All Souls, Rhydychen, lle y graddiodd yn 1728. Wedi iddo fod yn gurad mewn amryw leoedd yn Sussex fe'i dewiswyd yn athro cynorthwyol ysgol ramadeg Cuckfield yn 1731, yn ficer Bolney, pentref cyfagos, yn fuan wedyn, yn athro ysgol Cuckfield yn 1756, ac, yn 1766, yn gurad Slaugham, y cyfan yn yr un sir. Cyhoeddodd nifer o
  • HORSFALL TURNER, ERNEST RICHMOND (1870 - 1936), ysgolfeistr a hanesydd lleol Ganwyd 13 Ionawr 1870 yn Brighouse, yn fab i Joseph Horsfall Turner, yntau hefyd yn ysgolfeistr a hanesydd lleol. Addysgwyd ef yn ysgol ei dad a dechreuodd ei yrfa fel athro yn yr ysgol honno. Yn ddiweddarach graddiodd ym Mhrifysgol Llundain. Bu'n athro ym Mlaenau Ffestiniog ac ym Mae Colwyn, ac yn 1895 penodwyd ef yn brifathro ysgol sir Llanidloes. Dysgodd Gymraeg, ac yna dechreuodd ymddiddori
  • HOWARD, JAMES HENRY (1876 - 1947), pregethwr, awdur a sosialydd rhagair gan y gwir anrhydeddus D. Lloyd George (1914); Life beyond the veil (1918); Which Jesus? Young Britain's choice (1926); Perarogl Crist: cofiant a phregethau y Parch. William Jones, Treforis (1932); Jesus the agitator: foreword by the Rt. Hon. George Lansbury (1934); Winding lanes: A book of impressions and recollections (1938). Bu farw mewn ysbyty preifat ym Mae Colwyn 7 Gorffennaf 1947 a
  • HOWE, ELIZABETH ANNE (1959 - 2019), ecolegydd 1991 a pharhaodd yn y swyddogaeth honno gyda Cyfoeth Naturiol Cymru tan ei marwolaeth. Hi oedd awdur y ddwy bennod ar amffibiaid ac ymlusgiaid Môn yn A New Natural History of Anglesey, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Môn yn 1990. Prif etifeddiaeth Howe ym maes cadwraeth yw ei gwaith fel cydawdur y gyfrol glodfawr Habitats of Wales: A Comprehensive Field Survey, 1979-1997, a gyhoeddwyd gan
  • HOWEL, HARRI (fl. 1637-71), bardd Dolgellau, a Dolaugwyn gerllaw Tywyn, Meirionnydd. Y mae'n debyg ei fod, fel Siôn Phylip (gweler Phylipiaid Ardudwy), yn amaethu ei dir ei hun - y mae hyd heddiw le o'r enw ' Ffridd Harri Howel ' ar derfynau plwyfi Dolgellau a Llanfachreth. Canodd farwnad Sion Miltwn, Gwaenynog, yn 1637, a chywydd priodas Robert Owen, person Llangelynnin, Sir Feirionnydd, yn 1671.
  • HOWELL, DAVID (Llawdden; 1831 - 1903) genedlaethol. Cyhoeddodd y llyfrynnau hyn: Foreign missions, their progress during the reign of Queen Victoria … 1879; Welsh Nationality: an address delivered … before the 'Welsh National Society of Liverpool' … Dec. 1st 1901, 1902; a chyhoeddodd erthyglau yn Y Cyfaill Eglwysig a chylchgronau eraill. Eglwyswr efengylaidd Cymreig ydoedd. Bu farw yn Nhyddewi, 15 Ionawr 1903, ac y mae yn yr eglwys gadeiriol
  • HOWELL, DAVID (1797 - 1873), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn Waunbrics, Sain Clêr, Sir Gaerfyrddin, 31 Mawrth 1797, mab Dafydd Howell. Derbyniwyd ef yn ieuanc i gymundeb seiat Bancyfelin gan Thomas Charles o'r Bala. Aeth i Abertawe yn 1814 i ddysgu crefft teiliwr, ac ymaelododd yn eglwys y Crug-glas. Dechreuodd bregethu yno yn 1817; anfonwyd ef gan ei gyfundeb yn genhadwr i sir Faesyfed yn 1821, ac ymsefydlodd ym Mhen-y-bont. Ordeiniwyd ef yn
  • HOWELL, GWILYM (1705 - 1775), almanaciwr a bardd Ganwyd ef ym mhlwyf Llangurig, Sir Drefaldwyn, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i oes ym mhlwyf Llanidloes, lle bu'n stiward ar stad Berthllwyd am lawer blwyddyn. Bu'n faer Llanidloes, 1762-3. Yr oedd yn fardd ei hun a chasglodd weithiau beirdd eraill, yn arbennig barddoniaeth Huw Morys. Dywed ' Iolo Morganwg ' i ' Gwallter Mechain ' wneud defnydd helaeth o'r casgliad hwn wrth gyhoeddi Eos Ceiriog
  • HOWELL, JAMES (1594? - 1666), awdur Ail fab Thomas Howell, curad Llangammarch, sir Frycheiniog - wedi hynny'n rheithor Cynwyl ac Abernant, Sir Gaerfyrddin. O ysgol rydd Henffordd, aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1610, 'yn 16 oed' a graddiodd yn 1613. Aeth i fyd busnes, ac ar ôl 1616 bu'n teithio ar gyfandir Ewrop am rai blynyddoedd. Oherwydd iddo ddysgu ieithoedd tramor yn ystod y blynyddoedd hyn cafodd ei anfon o 1622 ymlaen ar
  • HOWELL, JOHN (Ioan ab Hywel, Ioan Glandyfroedd; 1774 - 1830), gwehydd, ysgolfeistr, bardd, golygydd, a cherddor Ganwyd yn Abergwili, Sir Gaerfyrddin. Ychydig o addysg a gafodd. Prentisiwyd ef yn wehydd, a gweithiodd wrth y grefft honno am rai blynyddoedd. Oherwydd ei ddawn gerddorol cafodd fynd yn aelod o seindorf cartreflu Caerfyrddin, a gwnaethpwyd ef yn bennaeth 'fife-band' y gatrawd. Yn ystod ei oriau hamdden dechreuodd gasglu gwybodaeth, a dangos diddordeb arbennig mewn barddoniaeth a rhifyddiaeth. Bu
  • HOWELL, JOHN HENRY (1869 - 1944), arloeswr addysg dechnegol yn Seland Newydd Ganwyd yn Frampton Cotterell, ger Bryste yn 1869, yn drydydd plentyn William Mends Howell (1838 - 1873), gweinidog capel (A) yn y pentref hwnnw a anwyd yn Arberth, Penfro, a'i wraig Harriet (ganwyd Brown); addysgwyd ef yn ysgol Lewisham (Caterham), ac y mae ei enw ddwywaith ar restr anrhydedd yr ysgol. Er ennill ysgoloriaeth ar derfyn ei yrfa yn yr ysgol nid oedd yn ddigon i'w gynnal yng
  • HOWELL, THOMAS (d. 1540?), farsiandwr yn Sbaen ac a adawodd arian yn ei ewyllys (a wnaethpwyd ganddo yn 1540 yn Seville) er lles merched dibriod o'i dylwyth yng Nghymru. Gadawodd Howell 12,000 o 'duckats' a oedd i'w hanfon i wardeiniaid Drapers' Hall, Llundain, er mwyn eu buddsoddi (trwy brynu tir yn ninas Llundain) - ' …the said Wardeynes … to buy therewith 400 duckats of rent yearly for evermore - in possession for evermore … the said