Search results

2101 - 2112 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

2101 - 2112 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • LEWIS, PIERCE (1664 - 1699), clerigwr, a 'diwygiwr' Beibl 1690 Ganwyd 11 Ebrill 1664, mab i Pierce Lewis o Blas Llanfihangel (Tre'r Beirdd), cofrestrydd esgobaeth Bangor, a'i wraig Elizabeth Lloyd o'r Henblas yn Llangristiolus. Aeth i Goleg Iesu yn Rhydychen yn 1681, a graddiodd yn 1684; ymddengys iddo aros yn Rhydychen hyd 1690, ac mai yno y golygodd yr argraffiad o'r Beibl a gysylltir yn gyffredin â'i gâr William Lloyd, esgob Llanelwy - llysenwid Lewis yn
  • LEWIS, REES (Eos Ebrill; 1828 - 1880), cerddor Ganwyd yn 1828 yn Twyn Cynordy, ger Brynmawr, sir Frycheiniog, mab William Lewis, a oedd yn gerddor lled dda ac yn arweinydd y canu yng nghapel Nebo, Penycae. Cafodd wersi cerddorol gan ei dad a chan gerddor o Sir Benfro a ddaeth i fyw i'r ardal. Dygwyd ef i fyny yn ysgolfeistr, a bu am ddwy flynedd yng Ngholeg Borough Road, Llundain. Bu'n cadw ysgol yn y Blaenau, Mynwy, ac oddi yno symudodd i
  • LEWIS, RICHARD (Dic Penderyn; 1807/8 - 1831) i'r ddalfa a'i gyhuddo o gynnull mewn cythrwfl ac ymosod o ddrwgfwriad ar Donald Black, o'r 93rd Regiment, a'i glwyfo pan oedd hwnnw yn gwneuthur ei ddyletswydd. Safodd ei brawf ym mrawdlys Caerdydd o flaen y barnwr Bosanquet, ac ar bwys tystiolaeth James Abbott, barbwr, a William Williams, teiliwr - ill dau o Ferthyr - fe'i cafwyd ef yn euog. Condemniwyd ef i farwolaeth - i'w grogi ar 31 Gorffennaf
  • LEWIS, RICHARD MORRIS (1847 - 1918), ysgolhaig a llenor Ganwyd 1847 yn Forest Arms, Brechfa, Sir Gaerfyrddin, mab John a Leisa Lewis. Daeth yn brif glerc yn swyddfa'r Inland Revenue yn Abertawe. Bu'n ddiwyd yn cyfieithu emynau i'r iaith Gymraeg (ceir enghreitfftiau yn rhai o'r llyfrau emynau) a darnau, mewn mydr, o ' Iliad ' Homer, ond efallai mai ei waith gorau fel cyfieithydd yw ei drosiad o Elegy Gray. Bu farw 20 Medi 1918, a chladdwyd ef ym
  • LEWIS, y Fonesig RUTH (1871 - 1946), un o arloeswyr cofnodi alawon gwerin Cymru, cefnogydd mudiadau addysgol, crefyddol, dirwestol a dyngarol Ganwyd 29 Tachwedd 1871, yn 16 Alexandra Drive, Lerpwl, yn drydedd plentyn William Sproston Caine (DNB, 1901-50), a'i wraig Alice, merch Hugh Stowell Brown, gweinidog eglwys (B) Myrtle Street, Lerpwl. Wedi ethol ei thad yn A.S. dros Scarborough yn 1880 symudodd y teulu i fyw yn Llundain, ac yn ysgol uwchradd y merched yn Clapham y cafodd ei haddysg gynnar nes ymaelodi yng Ngholeg Newnham
  • LEWIS, THOMAS (fl. 18fed ganrif), emynydd a fu'n byw yn Ynyswen, ym mhlwyf Llanegwad, Sir Gaerfyrddin, ac, mewn cyfnod arall, yng Nghastell Hywel, Sir Aberteifi. Cyhoeddwyd yn 1795 gyfrol o'i emynau hirion, Caniadau Duwiol. Ceir cywydd gan David Richards ('Dafydd Ionawr') i'r awdur yn y gyfrol.
  • LEWIS, THOMAS (1859 - 1929) Cameroons, Congo, cenhadwr gyda'r Bedyddwyr Ganwyd ger Hendy-gwyn, Sir Gaerfyrddin, 13 Hydref 1859, yn fab i William Lewis, gof a Bedyddiwr selog. Yn 1871 bedyddiwyd ef a'i dderbyn yn aelod o Nazareth, Eglwys y Bedyddwyr, Hendy-gwyn. Am beth amser, bu'n gweithio yn efail ei dad, ond enynnwyd ynddo sêl genhadol wedi clywed am hanes William Carey, a chymhellwyd ef i ddechrau pregethu. Bu'n ddisgybl i'r Parch. John Evans yn ysgol ramadeg
  • LEWIS, THOMAS (1823 - 1900), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a hanesydd Ganwyd 3 Awst 1823 ym mhlwyf Llandeilo'r-fan, Brycheiniog. Symudodd y teulu yn 1829 i Gwmdŵr, a bedyddiwyd y mab yno yn 1837. Gweithiai mewn ffatrioedd gwlân yng Nghwmdŵr a Llanwrtyd. Dechreuodd bregethu yn 1840 ym Mhantycelyn. Addysgwyd ef yn Horeb (Cwmdŵr), ysgol ' Brutus ' ger Pentrebach, ysgol D. Williams (Annibynnol) yn Nhredwstan, ac athrofa Pontypŵl. Bu'n weinidog yn Llanddewi Rhydderch
  • LEWIS, THOMAS (fl. 1731-49), cyfieithydd a chynghorwr Methodistaidd , curad Merthyr Cynog (ficer Llanddew 1741-1783), yw'r gŵr a gyfrifid yn brif arolygwr seiadau Brycheiniog. Yn ddiweddarach yn 1743 fe'i penodwyd i arolygu'r seiadau rhwng y 'Passage' (dros Hafren) ac afon Wysg, ac i gynorthwyo'r brodyr Saesneg pan fyddai angen. Enwir rhyw Thomas Lewis yn aelod o sasiynau ym Morgannwg yn 1747-9 yn adroddiadau Thomas William, Eglwys Ilan.
  • LEWIS, THOMAS (1868 - 1953), Prifathro'r Coleg Coffa, Aberhonddu Ganwyd 14 Rhagfyr 1868 ym Mhant-y-Waun, yn agos i'r ffordd o Flaen-y-coed i Dre-lech, Sir Gaerfyrddin, yn bumed plentyn i James ac Anna Lewis; un o ddeuddeg o blant (er i ddau farw'n ifanc), yn cynnwys Howell (Elfed), yr hynaf. Ar ochr y fam yr oedd dawn a diddordeb cerddorol a fu'n ddylanwad ar Elfed yr emynydd ac ar Thomas a fu'n gantor baritôn am gyfnod yn ardal Aberhonddu lle y byddai'n
  • LEWIS, THOMAS (1759 - 1842), emynydd Ganwyd yng Nghwmcynwal, Llanwrda, Sir Gaerfyrddin. Cafodd ychydig addysg yn ei ardal enedigol, a phrentisiwyd ef yn of. Ymsefydlodd fel gof yn Nhalyllychau, ac yno y bu ar hyd ei oes. Cafodd argraffiadau crefyddol dan weinidogaeth y Bedyddwyr, eithr William Lloyd o Gaeo oedd ei dad ysbrydol. Ymunodd â'r Methodistiaid yn Llansawel, ac ef oedd un o sefydlwyr yr achos yn Esgair-nant yn 1806
  • LEWIS, THOMAS (1837 - 1892), athro gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn 1837 ym Mydroilyn, Sir Aberteifi. Addysgwyd ef yn Ystrad Meurig. Bu'n cadw ysgol am gyfnod yng Nghrugybar. Yn 1862 aeth i Goleg Caerfyrddin; yn 1864 cymerth ofal ysgol Parc-y-felfet, ac wedi tair blynedd yno aeth i Manchester College ac enillodd radd B.A. gydag anrhydedd yn y dosbarth blaenaf. Yna aeth i Gaerdydd i gadw ysgol uwchradd, a bu'n rithriadol lwyddiannus yn y gwaith. Yn 1874