Search results

2077 - 2088 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

2077 - 2088 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • LEWIS, HUGH DAVIES (1866 - 1937), rheolwr cyffredinol cwmni yswiriant 'Liverpool and London and Globe' ,' pryd y penodwyd ef yn rheolwr y cwmni hwnnw yn Llundain. Yn 1921 penodwyd ef yn rheolwr cyffredinol y cwmni. Bu hefyd yn rheolwr cyffredinol y ' Japan Insurance Co. ', a ffurfiwyd i ddelio â'r safle ar ôl y ddaeargryn yn Japan yn 1923. Yr oedd yn aelod o gorff llywodraethol y London School of Economics ac o gyngor Prifysgol Lerpwl. Bu'n siryf Môn yn 1934-5. Cymerodd ddiddordeb mewn ehedeg, a chafodd
  • LEWIS, HYWEL DAVID (1910 - 1992), Athro ac athronydd tri maes athronyddol, athroniaeth gwleidyddiaeth, moeseg ac athroniaeth crefydd. Ym 1955 symudodd i Goleg y Brenin Prifysgol Llundain yn athro Hanes ac Athroniaeth Crefydd lle'r arhosodd nes iddo ymddeol ym 1977. Cyhoeddodd dros ugain o gyfrolau o bwys yn Gymraeg a Saesneg gan gynnwys Our Experience of God (1959), Freedom and History (1962), The Elusive Mind (1969), The Self and Immortality (1973
  • LEWIS, IVOR (1895 - 1982), llawfeddyg ymgynghorol Ganwyd Ivor Lewis ar 27 Hydref 1895 yn Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin, yn unig blentyn i Lewis Lewis, ffermwr diwylliedig, a'i wraig Mary (ganwyd Davies). Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llandeilo, ac er i'w fam dduwiol obeithio y byddai ei mab yn mynd i'r weinidogaeth ryw ddydd, ei uchelgais ef oedd bod yn feddyg. Ar ôl iddo ddilyn astudiaethau cyn-glinigol yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd
  • LEWIS, JAMES (1674 - 1747), gweinidog Annibynnol Ganwyd yn Ninas Cerdin, plwyf Llandysul, Sir Aberteifi, o hen deulu'r Lewisiaid o'r lle hwnnw. Dywed ei faen coffa ym mynwent eglwys Llanllawddog ei fod 'o rieni duwiol ac elusengar.' Urddwyd yn weinidog yn 1706 ar eglwys Pencadair, lle, mae'n debyg, yr oedd yn aelod, ac yr oedd eglwys Pantycreuddyn (Horeb wedyn) hefyd o dan ei ofal. Ef oedd olynydd y Parch. William Evans, a daeth yn arweinydd
  • LEWIS, JANET ELLEN (1900 - 1979), nofelydd, bardd a newyddiadurwr Ganwyd Eiluned Lewis ar 1 Tachwedd 1900 mewn tŷ o'r enw Glan Hafren ym Mhenstrowed, Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn, yn ferch i Hugh Lewis (1860-1921) a'i wraig Eveline (g. Griffiths, 1871-1958). Ei henwau bedydd oedd Janet Ellen, a chymerodd yr enw Eiluned ar gyfer ei gwaith creadigol. Roedd ganddi ddwy chwaer, Medina a May, a brawd, Peter. Roedd ei thad yn dirfeddiannwr ac yn berchen ar danerdy; bu
  • LEWIS, JENKIN (1760 - 1831), gweinidog ac athro Annibynnol , yr oedd yn gweithredu fel cynorthwywr i'r athro, Benjamin Davies. Symudodd gyda'r academi (1782) i Groesoswallt, i gynorthwyo'r Dr. Edward Williams, ond ym mis Tachwedd 1784 urddwyd ef yn weinidog yn Wrecsam. Pan ymadawodd Edward Williams o Groesoswallt (1791), pwyswyd ar Lewis i gymryd ei le, a chan na fynnai ef ymado â Wrecsam, symudwyd yr academi i'r dref honno (1792). Yn 1811, gwahoddwyd ef i
  • LEWIS, JOHN (fl. 1646-56) Glasgrug,, awdur Piwritanaidd; mab James Lewis, Cwmowen, a'i wraig Mary, aeres Glasgrug (Meyrick, History and Antiquities of Cardigan, arg. 1907, 308). Yn ystod y Rhyfel Cartrefol credai, fel Presbyteriad, y dylid derbyn y Cyfamod, ac fe'i gwobrwywyd am ei gefnogaeth i'r Senedd pan apwyntiwyd ef yn gomisiynydd tan Ddeddf Taenu'r Efengyl (1650). Ymddangosodd ei bamffled o blaid y Senedd yn 1646 o dan y teitl Contemplations upon
  • LEWIS, JOHN (Eos Glyn Wyre; 1836 - 1892), bardd a cherddor Ganwyd 6 Ebrill 1836, mab Lewis Lewis a Margaret ei wraig, Hen Dŷ Mawr, Llanrhystyd, Sir Aberteifi. Teiliwr oedd ei dad; yr oedd hefyd yn gerddor. Dilynwyd ef yn yr un grefft gan ddau o'r meibion, sef David Lewis, ' y Cerddor ' a John, sef ' Eos Glyn Wyre.' Codwyd y brawd arall, Evan, yn grydd. Priododd John Lewis ferch Felinganol, o'r enw Jane Davies, ac aeth i fyw i'r lle hwnnw, a ganwyd iddynt
  • LEWIS, JOHN (fl. 1773), Crynwr ac awdur yn byw yn Hwlffordd, Sir Benfro. Ysgrifennodd Brief Observations on the History of Modern Enthusiasm, 1759, a chyfieithodd yn Gymraeg, dan y teitl Egwyddorion y Gwirionedd (Caerfyrddin, 1773), lyfr gan J. Crooksworth (Principles of Truth). Yr oedd yn ŵr o ddylanwad ymysg Crynwyr Sir Benfro.
  • LEWIS, JOHN (d. 1616) Llynwene, Llanfihangel Nant Melan, bargyfreithiwr a hanesydd William Sais, a chafwyd dau fab a merch o'r briodas. Ceir disgrifiad o bais arfau John Lewis, 'Lluynweney,' sir Faesyfed, yn B.M. Harl. MS. 6870. Cyfeiria Hugh Thomas yn ei ewyllys (a wnaethpwyd 14 Medi 1720) at gyfrol 1729 fel hyn: 'Whereas I have receiv'd several pounds towards printing my book now in ye press and begun by Mr. John Lewis of Llanwenny' (B.M. Harl. MS. 6840; gweler Edward Owen
  • LEWIS, JOHN (fl. 1728-55), argraffydd a chyhoeddwr mwyaf, oddi wrth George Whitefield a'i ohebwyr. Parhaodd y papur am rai blynyddoedd dan y teitlau amrywiol The Weekly History, 1741-2, An Account of the Progress of the Gospel, 1743-4), a The Christian History, 1744-5. Cyhoeddodd lawer o lyfrynnau o waith Methodistiaid y cyfnod. Bu farw 13 Mai 1755, a chladdwyd ef yn Bloomsbury. Yr oedd ei wraig a'i blant yn Forafiaid.
  • LEWIS, JOHN (1792? - 1816), cenhadwr gyda'r Wesleaid mab Jenkin a Mary Lewis, Talsarn, Trefilan, Sir Aberteifi. Ymddengys mai Eglwyswyr oedd ei rieni; bedyddiwyd ef 23 Ionawr 1793. Addysgwyd ef yn yr ardal a than yr enwog David Davis, Castell Hywel. Ymunodd â'r Wesleaid, ac yn 1813 ceir ef yn gwasanaethu yng nghylchdaith Dolgellau. Y flwyddyn wedyn derbyniwyd ef fel cenhadwr cydnabyddedig i'w ddanfon i India'r Gorllewin. Ymsefydlodd i ddechrau ar