Search results

505 - 516 of 877 for "Owen"

505 - 516 of 877 for "Owen"

  • OWEN, ELIAS (1833 - 1899), clerigwr a hynafiaethydd Ganwyd yn 1833, mab i James Owen, amaethwr ym mhlwyf Llandysilio, Sir Drefaldwyn, a ymsefydlodd wedyn yn Llanidloes. Ar ôl cwrs mewn coleg hyfforddiadol, penodwyd Elias Owen yn brifathro Ysgol Genedlaethol Llanllechid. Yma dechreuodd ymddiddori mewn hynafiaethau. Trodd ei sylw at hen olion y plwyf, a chyhoeddodd ffrwyth ei ymchwiliadau yn y North Wales Chronicle a'r Archæologia Cambrensis dan y
  • OWEN, ELIZABETH MARY - see JONES, ELIZABETH MARY
  • OWEN, ELLIS (1789 - 1868), amaethwr, hynafiaethydd, a bardd Ganwyd yn Cefn-y-meysydd Isaf, plwyf Ynyscynhaearn, Eifionydd, Sir Gaernarfon, 31 Mawrth 1789. Yr oedd yn ddibriod, a threuliodd ei oes yng Nghefn-y-meysydd gyda'i fam a'i chwiorydd. Bu farw 27 Ionawr 1868 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Ynyscynhaearn, ger Pentrefelin, 31 Ionawr. Addysgwyd ef gyntaf mewn ysgol a gynhelid yn eglwys Penmorfa; yr oedd David Owen ('Dewi Wyn') yn gyd-ysgolor ag ef
  • OWEN, FOULKE (fl. 1686), bardd brodor o Nantglyn, sir Ddinbych. Nid oes dystiolaeth ym mha le y cafodd ei addysg er ei bod yn bosibl iddo fod yn Rhydychen, os oedd yn perthyn (gallasai fod yn ŵyr) i'r Foulk Owen hwnnw o sir Ddinbych a raddiodd yno yn 1584. Bu'n berchen ' Llyfr Du Basing,' llawysgrif bwysig o'r 14eg a'r 15fed ganrif a gedwir yn awr yn Ll.G.C. (NLW MS 7006D), fel y tystiodd ef ei hun wrth dorri'i enw deirgwaith
  • OWEN, GEORGE (c. 1552 - 1613), hanesydd, hynafiaethydd, ac achydd Ganwyd yn Henllys, plwyf Nanhyfer, yng ngogledd Sir Benfro, c. 1552, mab hynaf William Owen (c. 1486 - 1574), cyfreithiwr llwyddiannus a brynodd farwniaeth Cemais yn 1543 gan John Tuchet, arglwydd Audley, gan ddyfod yn arglwydd y farwniaeth. Ei fam oedd Elisabeth, merch Syr George Herbert, Abertawe, brawd William, iarll 1af Penfro o linach yr Herbertiaid (yr ail gread). Gorffennodd ei addysg
  • OWEN, GEORGE - see HARRY, GEORGE OWEN
  • OWEN, GERALLT LLOYD (1944 - 2014), athro, cyhoeddwr, bardd Ganwyd Gerallt Lloyd Owen yn Nhŷ Uchaf, fferm ym mhlwyf Llandderfel, Sir Feirionnydd, ar 6 Tachwedd 1944, yr ail fab i Henry Lloyd Owen (1906-1982), Amaethwr a Swyddog Pla Meirionnydd a Gwynedd, a Jane Ellen (Jin, 1905-1989), athrawes a fu hefyd yn cadw siop a llythyrdy'r Sarnau wedi i'r teulu symud yno i fyw i'w hen gartref hi, Broncaereini, yn 1945 pan benodwyd y gŵr i'w swydd gyda Chyngor Sir
  • OWEN, GORONWY (1723 - 1769), clerigwr a bardd Ganwyd ar Galan Ionawr 1723 mewn bwthyn ar y Rhosfawr ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf yn sir Fôn. Yr oedd ei daid, Goronwy Owen yr eurych, a'i dad, Owen Gronw, yn rhigymwyr ac achyddion, a'i fam, Siân Parri, yn Gymraes ddiwylliedig. Pan oedd yn 10 oed aeth i ysgol a gynhelid yn Llanallgo; yn 1734 neu 1735 i ysgol rad ym Mhwllheli, ac oddi yno yn 1741 i Ysgol y Friars, Bangor. Tan y prifathro
  • OWEN, Syr GORONWY (1881 - 1963), gwleidydd Ganwyd 22 Mehefin 1881 ym Mhen-llwyn, Aberystwyth, Ceredigion, mab ieuengaf Abraham Owen a'i wraig Margaret (ganwyd Sylvanus Williams). Derbyniodd ei addysg yn ysgol Ardwyn, Aberystwyth, a C.P.C., Aberystwyth. Graddiodd yn M.A. Bu'n gweithio fel ysgolfeistr a darlithydd yn bennaf yn Llundain am rai blynyddoedd cyn Rhyfel Byd I. Yr oedd yn un o'r rhai a ffurfiodd fataliwn Cymry Llundain yn 1914
  • OWEN, GRIFFITH (1647 - 1717), Crynwr a meddyg mab Robert a Jane Owen, Dolserau, Dolgellau. Bu'n feddyg yn Lancashire am ysbaid cyn ymfudo, gyda'i rieni oedrannus, yn y llong Vine i Pennsylvania yn 1684, ac ymsefydlu ym Merion ('Welsh Tract'). Teithiodd lawer ymhlaid ei grefydd ac edmygid ef yn fawr gan William Penn. Dychwelodd i'r fam-wlad yn 1695 a'r flwyddyn honno cyhoeddodd lyfryn, Our Ancient Testimony, yn gwrthwynebu heresïau George
  • OWEN, GWILYM (1880 - 1940), gwyddonydd ac athro anianeg yng ngholeg y brifysgol yn Aberystwyth Ganwyd 19 Gorffennaf 1880 yn Ninbych, yn fab i William Owen, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Lerpwl ac wedyn yng Nghonwy. Cafodd ei addysg fore yn ysgolion elfennol Bodfari a Henllan, a bu am 5 mlynedd yn ysgol ramadeg Rhuthun. Graddiodd ym mhrifysgol Lerpwl gyda chlod uchel yn 1901 ac enillodd ysgoloriaeth yr '1851 Exhibition' a fu'n foddion iddo allu mynd i goleg Crist, Caergrawnt
  • OWEN, HENRY (1716 - 1795), clerigwr, meddyg, ac ysgolhaig Ganwyd yn 1716 yn Nyffrydan, tua 3 milltir o Ddolgellau, yn fab i William Owen (a fu farw 1767), cyfreithiwr, a bedyddiwyd 29 Ionawr yn Nolgellau. Enw ei fam oedd Jonet(te). Yn ôl Powys Fadog (vi, 463-72), hanoedd y teulu o'r barwn Lewis Owen. Ail fab oedd Henry Owen; y mab hynaf oedd Lewis Owen (a fu farw 1757), a mab i hwnnw oedd y meddyg Henry Owen (1750 - 1827) o Ddolgellau, a ymbriododd i