Search results

337 - 348 of 572 for "Morgan"

337 - 348 of 572 for "Morgan"

  • MORGAN, PHILIP (d. 1435), esgob Caerwrangon (1419) ac Ely (1426)
  • MORGAN, REES (1764 - 1847), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn y Capelhir, Talyllychau, Sir Gaerfyrddin, mab Morgan Rees a fynychai'r seiat Fethodistaidd yng Nglanyrafon-ddu Ganol. Argyhoeddwyd ef yn ieuanc o dan weinidogaeth William Llwyd o Gaeo, ei gyfaill mawr ar ôl hynny. Dechreuodd bregethu c. 1784-5, a bu ar y maes ar hyd ei oes faith dros Gymru oll. Cymdeithasodd lawer â Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, ac eraill o'r prif ddiwygwyr
  • MORGAN, RHYS (c. 1700 - c. 1775), bardd a oedd yn byw yn ffermdy Pencraig-nedd ym mhlwyf Llangatwg yng Nglyn Nedd. Y mae'n bosibl, er na ellir profi hynny'n bendant, ei fod yn un o ddisgynyddion Tomas Llywelyn o Rigos. Dywaid ' Iolo Morganwg ' ei fod yn saer, yn wehydd, yn delynor, ac yn bregethwr gyda'r Ymneilltuwyr. Y mae'n weddol sicr ei fod yn aelod yn yr ' Hen Dŷ Cwrdd ' ym Mlaengwrach. Digwydd enw dau ' Rees Morgan ' ymhlith yr
  • MORGAN, RICHARD (1743 - 1805), gweinidog gyda'r Annibynwyr
  • MORGAN, RICHARD (1854 - 1939), prifathro ysgol y cyngor, Llanarmon-yn-Iâl; ganwyd yn Nhalybont, Sir Aberteifi, 1854, yn fab i Thomas Morgan, crydd. Cafodd ei addysg yn yr hen Ysgol Frutanaidd yn Nhalybont ac wedi hynny yng Ngholeg Prifysgol Bangor, a bu'n athro ysgol yn Aberystwyth am beth amser cyn symud i Lanarmon. Treuliodd yn agos i 40 mlynedd o'i oes yn Llanarmon a threfnodd yno hefyd ddosbarthiadau nos llewyrchus iawn. Ei
  • MORGAN, RICHARD HUMPHREYS (1850 - 1899), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a llenor Ganwyd yn Lluesty, Dyffryn Ardudwy, 14 Awst 1850, mab y Parch. Edward Morgan. Bu yn academi Holt, mewn ysgol yn Hastings, yng Ngholeg y Bala (1865), a Phrifysgol Edinburgh a'r Coleg Newydd yno. Graddiodd yn M.A. Aeth yn weinidog ar eglwys Caersalem, Abermaw, ac ordeiniwyd ef 5 Medi 1877. Yn 1888 aeth yn weinidog yr eglwys Saesneg ym Mhorthaethwy. Penodwyd ef i gasglu cronfa at Goleg y Bala yn
  • MORGAN, RICHARD WILLIAMS (Môr Meirion; c. 1815 - c. 1889), clerigwr ac awdur British Kymry or Britons of Cambria, 1857 - cyfieithwyd hwn yn Gymraeg gan John Williams ('Ab Ithel'), fel Hanes yr Hen Gymry, eu Defodau a'u Sefydliadau, 1858 (ail arg., Efrog Newydd, 1860); Amddiffyniad yr Iaith Gymraeg, 1858; St. Paul in Britain or the Origin of the British as Opposed to Papal Christianity (ail arg., 1880); Correspondence and Statements of Facts connected with the case of Morgan and
  • MORGAN, ROBERT (1608 - 1673), esgob Bangor Ganwyd yn 1608 yn Bronfraith, Llandysul, Sir Drefaldwyn, trydydd mab Richard Morgan, a addysgwyd yn Rhydychen ac a fu'n cynrychioli sir Drefaldwyn yn Senedd 1593. Mary, merch Thomas Lloyd, Gwernbuarth, oedd ei fam. Ar ôl bod yn astudio gartref o dan dad Simon Lloyd, archddiacon Meirionnydd wedi hynny, aeth i Goleg Iesu, Caergrawnt (6 Gorffennaf 1624), a graddio yn B.A. 1628, B.D. 1638, D.D. 1661
  • MORGAN, ROBERT (1621 - 1710), gweinidog gyda'r Bedyddwyr (neu Morgan) y dywedir ei fod yn ysgolfeistr yn Horsley Down, Llundain.
  • MORGAN, THOMAS (1543 - c. 1605), Pabydd a chynllwynwr Honnai ei fod yn hanfod o ' right worshipful family of Monmouthshire '; tybia awdur yr erthygl arno yn y D.N.B. mai teulu Morgan, Llantarnam ydoedd hwn, tyb David Mathew (Celtic Peoples and Renaissance Europe, 89) ydyw mai perthyn i'r teulu Morgan, Machen yr oedd, eithr ni ellir ei gysylltu â'r naill deulu na'r llall fel y rhoddir eu hachau yn Clark, Limbus, 311-3, 322-3. Ar ôl cael addysg yn
  • MORGAN, Syr THOMAS (c. 1542 - 1595), milwr mab iau William Morgan, S. George's (Sir Forgannwg) a Phencarn (sir Fynwy). Yr oedd tua 30 oed pan ddewiswyd ef ym mis Ebrill 1572 yn gapten y cwmni cyntaf o wirfoddolwyr o Loegr a anfonwyd i gynorthwyo'r Is-Ellmyn yn eu gwrthryfel yn erbyn Sbaen. Ar wahân i gyfnod byr yn Iwerddon yn 1574 treuliodd Morgan weddill ei oes yn yr Iseldiroedd. Dilynodd Syr Humphrey Gilbert yn gyrnol y gatrawd o
  • MORGAN, THOMAS (1720 - 1799), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 7 Ionawr 1720 yn y Dyffryn Uchaf gerllaw'r Groeswen, Eglwysilan - yr oedd ganddo yn 1783 frawd, Morgan Thomas, yn byw yng Ngwerngerwn, Pontypridd. Argyhoeddwyd ef gan Howel Harris yn 1738 neu 1739; bu ganddo feddwl mawr o Harris byth wedyn, ac am rai blynyddoedd cyfeillachai â Methodistiaid ei fro, megis John Belcher a Thomas Williams o Eglwysilan. Ymaelododd (1739) yn eglwys Annibynnol