Search results

13 - 24 of 247 for "Llywelyn"

13 - 24 of 247 for "Llywelyn"

  • CARADOG ap GRUFFYDD ap RHYDDERCH (d. 1081) Ŵyr Rhydderch ab Iestyn, gŵr o ddylanwad yn Ne Cymru hyd ei farw yn 1033, a mab Gruffydd ap Rhydderch, cydymgeisydd Gruffydd ap Llywelyn, gan yr hwn y'i lladdwyd yn 1055. Yng Ngwynllwg a Gwent yr oedd cartref y teulu; yn y rhanbarth hwn o Gymru y daw Caradog i'r golwg gyntaf, yn 1065, pryd y daeth ar warthaf tŷ hela'r iarll Harold yn Portskewet, gan ei ddistrywio ac anrheithio'r gymdogaeth - heb
  • CATRIN ferch GRUFFYDD ab IEUAN ap [LLYWELYN?] FYCHAN (fl. 16eg ganrif), bardd Merch, y mae'n debyg, i'r bardd Gruffydd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan. Un gerdd ganddi a gadwyd, sef awdl i Dduw ac i'r byd - yn NLW MS 722B (155). Ymddengys mai chwaer iddi, Ales ferch Gruffydd ab Ieuan, biau'r cywydd a geir yn Cardiff MS. 19 (742), Cwrtmawr MS 14C (72), ac NLW MS 6681B (404).
  • CLARE family castell mawr yng Nghaerffili (1268). Rhuthrodd Llywelyn i lawr (Hydref 1270) a difodi'r castell; fis Mehefin 1271 cychwynnodd Gilbert ei ailgodi; fis Tachwedd cytunwyd fod garsiwn frenhinol i gymryd meddiant ohono tra fyddid yn ceisio terfynu'r brif ddadl; ond trwy ystryw, llwyddodd gwŷr Gilbert i ymwthio iddo drachefn. Ond pan fu farw'r brenin (1272), buan y boddwyd y cweryl lleol hwn yn yr anghydfod
  • CYNAN ab IAGO (d. 1060?), tywysog a alltudiwyd mab Iago ab Idwal, yn disgyn o Rodri Mawr, ac arglwydd Gwynedd o 1033 hyd 1039. Pan lofruddiwyd Iago yn 1039 gan ei wŷr ei hun a dyfod Gruffydd ap Llywelyn, o linach arall, i awdurdod, ffoes Cynan i blith Daniaid Dulyn. Yno priododd Ragnhildr, ŵyres Sitric 'â'r farf sidanog' (bu farw 1042), ac felly daeth i berthyn i'r teulu brenhinol. Yn ôl David Powel (Historie of Cambria) fe ymdrechodd
  • CYNAN ap HYWEL (d. 1242?), tywysog a sefydlwyd gan ei dad Hywel Sais (bu farw 1204) yn St Clears ac a gydunai fel rheol â Maelgwn ap Rhys yn y cwerylon teuluol. Ceir sôn amdano gyntaf yng ngosgorddlu Maelgwn pan gymerwyd ef yn garcharor yn 1210 gan ei gefndyr Rhys ac Owain yr amser yr ymosodwyd ganddynt ar wersyll eu hewythr yn Cilcennin. Daw i'r golwg yn nesaf yn 1223, pryd y'i ceir yn erbyn Llywelyn, tywysog y Gogledd, ac yn
  • CYNDDELW BRYDYDD MAWR (fl. 1155-1200), pencerdd pwysicaf Cymru yn y 12fed ganrif iddo o leiaf un mab, o'r enw Dygynnelw, a laddwyd ar faes y frwydr (The Myvyrian Archaiology of Wales, 185 A). Dyrchafwyd Cynddelw yn bencerdd llys Madawg ab Maredudd, tywysog Powys (bu farw 1160), a dwy gerdd bwysicaf ei gyfnod yn y llys hwnnw oedd 'Rhieingerdd Efa,' sef merch y tywysog, a'r gyfres firain o ddeunaw englyn marwnad i Fadawg a'i fab Llywelyn lle y coffeir diwedd undod Powys. Yna trodd
  • DAFYDD ab IFAN ab EINION (fl. 1440-1468), gŵr sy'n enwog am iddo amddiffyn castell Harlech ar ran plaid Lancaster (1460-8) yn Rhyfel y Rhosynnau Ei dad oedd Ieuan ab Einion o Gryniarth a'r Hendwr, yn yn Edeirnion, Meironnydd, o hil Llywelyn ap Cynwrig o Gors y Gedol; ei fam, Angharad, yn ferch ac etifeddes Dafydd ap Giwn Llwyd o'r Hendwr. Ei wraig oedd Marged, merch John Puleston o Emral, Sir y Fflint. Fel llawer Cymro ieuanc arall yn y cyfnod milwriodd gyda byddinoedd Lloegr yn Ffrainc yn ystod rhan olaf Rhyfel y Can Mlynedd - yn Rouen
  • DAFYDD ab OWAIN (d. 1512), abad ac esgob Gŵr o Lasgoed ym Meifod a mab Owain ap Deio ap Llywelyn ab Einion ap Celynin. Bu'n astudio'r gyfraith ganon a sifil yn Rhydychen, a dywedir iddo ennill gradd Doethur Cyfraith. Ymddengys iddo ymarfer a'i ddysg gyfreithiol yng ngwasanaeth Sion, iarll Caerwrangon, prif ustus Gogledd Cymru rhwng 1461 a 1467. Os felly, cefnogai deulu Iorc, ond y mae tystiolaeth y beirdd yn dangos iddo, fel eraill
  • DAFYDD ab OWAIN GWYNEDD (d. 1203) ymsefydlu yn awr yn y Berfeddwlad, gyda chastell hardd ganddo (Rhuddlan) a edmygid gan Gerallt Gymro a fu'n aros noson yno, pan oedd gyda'r archesgob Baldwin, yng ngwanwyn 1188. Yn 1194 cafodd ail ddyrnod gan ffawd. Cafodd ei boeni am beth amser gan ei nai ieuanc egnïol, Llywelyn ab Iorwerth, a ymrwymodd â'i gefndyr, meibion Cynan ab Owain Gwynedd, ac a orchfygodd Ddafydd yn llwyr, gyda'u cymorth, mewn
  • DAFYDD ap BLEDDYN (d. 1346), esgob Esgob Llanelwy ar ôl marw Llywelyn ap Llywelyn, 1314. Yn ôl Iolo Goch (Gwaith, gol. C. Ashton, 273), yr oedd o linach Uchtryd; o'r herwydd, fe'i gwneir gan yr achau yn frawd Ithel Anwyl ac yn nai Ithel Fychan, deuwr o ddylanwad yng ngwlad Fflint yn nechrau'r ganrif (Powys Fadog, iii, 106; iv, 154). Yr un ydoedd yr esgob, y mae'n bosibl, â'r ' David ab Bleyney, parsone de Kirkyn (Cilcen ?)' a
  • DAFYDD ap GRUFFYDD (d. 1283), tywysog Gwynedd trydydd mab Gruffydd ap Llywelyn a Senena, a brawd iau i Owain a Llywelyn ap Gruffydd. Nid oes sicrwydd am flwyddyn ei eni. Gwyddom nad oedd yn ddigon hen i fod â rhan fel Owain a Llywelyn yn nhelerau cytundeb Woodstock (1247); gwyddom hefyd ei fod yn 1262 - er i bob golwg yn parhau o dan ofal ei fam - yn arglwydd Cymydmaen yng ngorllewin eithaf Gwynedd : felly tybiwn iddo gyrraedd oedran gŵr
  • DAFYDD AP GWILYM (c. 1315 - c. 1350), bardd Yr oedd Dafydd ap Gwilym yn fab i Wilym Gam ap Gwilym ab Einion Fawr o'r Tywyn ap Gwilym ap Gwrwared ap Gwilym ap Gwrwared Gerdd Gymell ap Cuhelyn Fardd. Enw ei fam oedd Ardudful, ac mae'n bosibl mai brawd iddi hi oedd y Llywelyn ap Gwilym ap Rhys ap Llywelyn ab Ednyfed Fychan a alwyd yn ewythr gan y bardd. Yr oedd hynafiaid Dafydd yn uchelwyr llewyrchus a fu'n gwasanaethu arglwyddi Normanaidd yn