Search results

133 - 144 of 154 for "Howel"

133 - 144 of 154 for "Howel"

  • THICKENS, JOHN (1865 - 1952), gweinidog (MC), hanesydd ac awdur diwinyddiaeth, hanes ac emynyddiaeth, y cyfrinwyr oedd ei hoff fyfyrdod. Bu'n wr amlwg ym mywyd ei Gyfundeb; bu'n llywydd Sasiwn y De (1938), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1945). Cyhoeddodd esboniad ar Lyfr yr Actau yn 1925. Traddododd y Ddarlith Davies (1934), ac fe'i cyhoeddwyd yn gyfrol swmpus yn 1938 dan y teitl Howel Harris yn Llundain. Trwythodd ei hun yn hanes ac ethos Methodistiaeth Galfinaidd
  • THOMAS, BENJAMIN (1723 - 1790), pregethwr gyda'r Annibynwyr a chynghorwr Methodistaidd yn 1743 ac erlidiwyd ef ym Môn. Penodwyd ef yn gynorthwywr i Howel Harris fel arolygwr dros Gymru yn sasiwn Porth-y-rhyd - 'my assistant' y geilw Harris ef yn ei ddyddiadur. Anfonwyd ef i'r Gogledd yn 1748, a chrybwyllir amdano yn 1749 fel un o brif genhadon y Methodistiaid yng Ngwynedd. Aeth i sasiwn Llanidloes, 1750, ac ochrodd gyda Daniel Rowland yn yr ymraniad. Cyfarfu Harris ag ef yn sasiwn
  • THOMAS, HENRY (1712 - 1802), cynghorwr Methodistaidd a gweinidog Annibynnol brodor o Dalacharn, Sir Gaerfyrddin. Daw i'r golwg gyntaf fel ysgolfeistr cylchynol ym Morgannwg a chynghorai'n achlysurol yn seiadau'r Methodistiaid. Priododd, c. 1747, Gwen, merch Jenkin David, Gelli Dochlaethe, ger y Crynant, a chafodd dŷ ar dir y Gelli i gynnal cyfarfodydd ynddo. Yno, ond odid, yr oedd man cyfarfod seiat fore'r ardal. Ymwelai Howel Harris yn aml â'r Gelli, a chynhaliwyd rhai
  • THOMAS, JOHN (1730 - 1804?), gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac emynydd; Howel Harris yn pregethu yn nhy Sieffre Dafydd, Llanddeusant (1745), ysgytiwyd ei holl anianawd ysbrydol. Yn 15 oed aeth yn was yn nhy Griffith Jones yn Llanddowror, a bu yno am ddwy flynedd; ond ni chefnogai Griffith Jones ei awydd at bregethu. Eithr rhoes Howel Harris ysgol yn rhad iddo yn Nhrefeca; yno ymroes i fynychu seiadau a chyfarfodydd crefyddol, ac i gynghori. Bu am nifer o flynyddoedd yn
  • THOMAS, RICHARD (1718 - 1807), cynghorwr Methodistaidd cyntaf Môn Bedyddiwyd yn Llanfechell 31 Gorffennaf 1718. Oherwydd rhyw 'afreolaeth' ffoes i'r Deheudir; cafodd droëdigaeth yno tua 1739. Dechreuodd gynghori a gweithio'n ddiwyd. Edrydd mewn llythyr at Howel Harris ('Llanfeigan, Gorph. 27, 1746') ei fwriad i ddychwelyd i Fôn a phregethu i'w genedl ei hun. Cyfrifir ef y pregethwr cyntaf o sir Fôn. Dywedir iddo lwyr glirio ei ddyledion. Prin ydyw'r hanes
  • THOMAS, WILLIAM (1723 - 1811), cynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn y Dyffryn Uchaf, Margam, Morgannwg. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth Howel Harris yn 1739, ac ymunodd â seiat yr Hafod yn 1743. Ar ôl priodi symudodd i dyddyn ger hen gapel y Dyffryn, a bu ei gartref yn llety fforddolion. Âi'n gyson i'r cymun yn Llangeitho a dechreuodd bregethu. Symudodd i'r Tŷ-draw, y Pîl, yn 1760, a phrynodd nifer o dai i'w cymhwyso yn gapel. Yng nghapel y Cyrneli, o
  • TIBBOTT family TIBBOTT, RICHARD (1719 - 1798), cynghorwr Methodistaidd a gweinidog gyda'r Annibynwyr Crefydd; Ganwyd 18 Ionawr 1719 yn Hafod-y-pant, Llanbrynmair. Yn 1738 dechreuodd bregethu'n achlysurol gyda'r Annibynwyr, eithr yn 1740 daeth o dan ddylanwad Howel Harris. Yn fuan wedyn aeth i ysgol Griffith Jones yn Llanddowror ac ymuno â'r Methodistiaid. Bu'n cadw ysgol ei hun yng nghymdogaeth Llanddowror ac
  • TUCKER, JOSIAH (1712 - 1799), economydd a diwinydd Mryste, yr oedd Tucker yn wrthwynebol iawn i'r Methodistiaid; cyhoeddodd ymosodiad arnynt yn 1739, a atebwyd gan John Wesley yn 1742. Ond erbyn rhyfel 1756-63 yr oedd pethau wedi newid. Edrydd dyddlyfr cynulleidfa Forafaidd Bryste, dan 3 Awst 1759, fod Howel Harris (a oedd ym Mryste ar y pryd gyda'i filisia) wedi cael llythyr gan Tucker (bellach yn ddeon) yn pwyso ar 'the religious people,' h.y
  • WALTERS, THOMAS (1729 - 1794), gweinidog gyda'r Annibynwyr Yn byw ar ei dreftadaeth, Pant-yr-hesg, Mynydd-islwyn (Mynwy). Ni wyddys pa bryd y dechreuodd bregethu y mae'n amlwg ei fod yn rhy ieuanc i fod yn un o ddychweledigion cenhadaeth Howel Harris yn y parthau hynny, ond y mae yr un mor amlwg mai diwygiad Methodistaidd ei naws a effeithiodd arno, oblegid y mae Philip David yn ei sennu droeon, yn ei ddyddlyfr, am 'gadw sŵn' a 'rantio' wrth bregethu
  • WILLIAM, THOMAS (1717 - 1765), cynghorwr Methodistaidd, a gweinidog Annibynnol wedyn Ganwyd 1717, mab melinydd Melin Corrwg, Eglwysilan, Morgannwg. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth Howel Harris, c. 1738. Bu'n ysgolfeistr cylchynol, dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid, ac apwyntiwyd ef yn arolygwr y seiadau ym Mro Morgannwg yn 1743. Yr oedd yn un o'r rhai a arwyddodd y neges i'r sasiwn yn 1745 ynghylch ordeinio'r cynghorwyr; cafodd ef a'i gyfaill William Edwards ryw fath o
  • WILLIAMS family Gwernyfed, Brycheiniog , passim; M. H. Jones yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1908-9. Dug hyn ef i gyswllt agos â Howel Harris, a thrwy ei ddylanwad ef y cafodd Harris gapteiniaeth ym milisia Brycheiniog; y mae yng nghasgliad Trefeca amryw lythyrau a basiodd rhwng y ddeuddyn. Gan i'w unig fab (Edward) farw o'i flaen (1800), aeth Gwernyfed i'w ferch, MARY WILLIAMS. Priododd hi â Thomas Wood, o Middlesex; bu
  • WILLIAMS, DAVID (1709 - 1784), gweinidog gyda'r Annibynwyr , croesawodd ef yn galonnog. Gwahoddodd Howel Harris i ymweld ag Eglwysilan, a threfnodd oedfa iddo; gweler llythyr 110 yng nghasgliad Trefeca, 17 Mai 1738. Sgrifennai'r daeuddyn at ei gilydd trwy gydol 1738 a 1739; sonia'r llythyrau am sefydlu seiadau yma a thraw, am Williams yn pregethu mewn amrywiol fannau, ac am ei gyfeillgarwch â John Thomas, curad Methodistaidd y Gelligaer. Clywir hefyd am ysgol yn y