Search results

121 - 132 of 154 for "Howel"

121 - 132 of 154 for "Howel"

  • ROBERTS, BARTHOLOMEW (1682? - 1722), môr-leidr Ganwyd yn sir Benfro. Yn 1718 yr oedd yn ail fêt ar y Princess, llong a gymerwyd trwy rym gan Howel Davis, môr-leidr arall o Gymro; gorfu i Roberts wasnaethu o dan yr hwn a'i cymerodd yn garcharor. Pan laddwyd Davis etholwyd Roberts yn gapten y llong - yr oedd eisoes, yng nghorff chwech wythnos, wedi ei ddangos ei hun yn ŵr dewr a sgilgar. Wrth dderbyn y cynnig i fod yn gapten y llong dywedodd y
  • ROBERTS, JOHN (Sion Robert Lewis; 1731 - 1806), awdur, almanaciwr, ac emynydd Ganwyd yn 1731 yn Llanaelhaearn, Sir Gaernarfon. Yr oedd yn fab i ffarmwr, Robert Lewis, ac yn ystod ei ieuenctid arferai fugeilio'r defaid i'w dad. Cafodd dröedigaeth wrth wrando ar Howel Harris yn pregethu yn y gymdogaeth a dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Ymsefydlodd yng Nghaergybi tua 1760, pryd y cafodd drwydded oddi wrth esgob Bangor i agor ysgol. Gwysiwyd ef o flaen
  • ROBERTS, THOMAS (1735 - 1804), aelod o Deulu Trefeca Ganwyd yn y Plas Bach, Llansantffraid Glan Conwy, 31 Mawrth 1735, yn drydydd mab i WILLIAM ROBERTS, rhydd-ddeiliad a argyhoeddwyd yn 1748 gan Peter Williams ac a lynodd wrth Howel Harris yn ymraniad 1750 - gymaint felly nes galw ei fab Thomas adref o wasanaeth yn nhref 'Rowlandaidd' y Bala. Yn 1759, gadawodd William Roberts ei diroedd yng Nglanconwy i'w feibion hynaf, ac aeth ef a'i wraig a'i
  • ROWLAND, BENJAMIN (fl. 1722-63), cynghorwr Methodistaidd Ganwyd c. 1722, mab Thomas Rowland, Llanidloes, Sir Drefaldwyn. Yr oedd yn aelod o seiat Llandinam yn 1744, ac enwir ef yn gynghorwr yn sasiwn y Tyddyn, 1745. Bu'n aelod blaenllaw o blaid Howel Harris, a theithiodd o'i blaid yn siroedd Trefaldwyn, Dinbych, a Môn. Ymunodd ef a Beti ei briod â'r Teulu yn Nhrefeca, a throsglwyddodd ei eiddo, Cefncroesllwybr, Llanidloes i'r sefydliad. Enwid ef i fod
  • ROWLAND, DANIEL (1713 - 1790), clerigwr Methodistaidd Jones, c. 1735, a dechreuodd bregethu gyda nerth gan daranu uwchben y bobl. Lliniarodd ei arddull ar gyngor Philip Pugh, gan bregethu gras yn lle'r ddeddf. Dechreuodd deithio dros y wlad; cyfarfu â Howel Harris yn 1737, a chyn hir ymunodd y ddau ynghyd ag eraill i hyrwyddo'r deffroad mawr Methodistaidd yng Nghymru. Bu anghydfod rhyngddo â Harris, a chyhoedodd Ymddiddan rhwng Methodist Uniawngred ac un
  • ROWLAND, NATHANIEL (1749 - 1831), clerigwr Methodistaidd Ganwyd ym mhersondy Llangeitho, mab Daniel Rowland. Addysgwyd ef yn Christ Church, Rhydychen; graddiodd yn B.A., 1771, ac M.A., 1774. Urddwyd yn ddiacon yn Rhydychen, 26 Mai 1771, ac yn offeiriad yn Llundain 21 Medi 1773. Bu'n gurad Stock (Essex) o 1771 hyd ei briodas yn 1776 a Margaret, merch Howel Davies, ac aeth i fyw i'r Parcau, Henllan Amgoed, ar ffiniau Caerfyrddin a Phenfro. Methodist oedd
  • SALUSBURY family Rug, Sylfaenwyd y teulu yn gynnar yn y 16eg ganrif gan PIERS SALUSBURY, mab hynaf JOHN SALUSBURY, Bachymbyd, pedwerydd mab Thomas Salusbury, Llewenni (bu farw 1470) (gweler yr ysgrif ar Salusbury, Llewenni); priododd ef Margaret Wen, merch ac etifeddes Ieuan ap Howel ap Rhys, arglwydd Rug. Yr hynaf o'r saith mab o'r briodas hon ydoedd ROBERT SALUSBURY, ac ychwanegodd ef at y stad trwy brynu
  • SAMUEL, HOWEL WALTER (1881 - 1953), barnwr a gwleidydd
  • SHEEN, THOMAS (1718 - 1790), cynghorwr Methodistaidd ac Antinomiad Bedyddiwyd ef yn eglwys Glasgwm, sir Faesyfed, 8 Tachwedd 1718, mab William a Margaret Sheen o'r plwyf. Ni wyddys pa bryd y dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid. Daeth o dan ddylanwad athrawiaeth gyfeiliornus James Beaumont yn 1748. Perthynai i blaid Howel Harris yn 1750, ond cefnodd yn fuan a ffurfio plaid o'i ganlynwyr yn ardaloedd Llanfair-ym-Muellt. Dywedir iddo ddylanwadu ar eraill
  • SIMMONS, JOSEPH (1694? - 1774), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac athro ysgol Ganwyd tua 1694 yn Foxhole, Llansamlet; bu yn academi Caerfyrddin dan Perrott. Yn 1724 urddwyd ef yn weinidog cynorthwyol dan Roger Howell yng Nghwmllynfell a'r Gellionnen. Yr oedd yn cadw ysgol yng Nghastell Nedd yn 1730, ysgol y bu Lewis Rees ynddi - bu Howel Harris yn aros noson yn Awst 1738 gyda ' Jos. Symons, near the Abbey at Neath.' Dywedir iddo, pan fu farw Rees Price yn 1739, gymryd at
  • SIÔN ap HOWEL ab OWAIN (1550? - 1626/7), cyfieithydd mab Howel ab Owain, Cefn Trefiaeth, Llanystumdwy a Catherine, merch Rhisiart ap Dafydd o Gefn Llanfair. Yr oedd felly'n nai i Huw ap Rhisiart ap Dafydd ac yn gefnder i Richard Hughes. Ar ôl marw'i dad yn 1583 ef oedd y penteulu yng Nghefn Treflaeth, ac yr oedd yn un o'r rhai a erlynwyd gan Iarll Caerlŷr yn helynt Fforest yr Wyddfa. Yn llawysgrif Llanfair a Brynodol 2 yn y Llyfrgell Genedlaethol
  • SPARKS, JOHN (1726 - 1769), Morafiad cynnar mab i siopwr pwysig (ac aelod yn eglwys Annibynnol Albany) yn Hwlffordd. Daeth yn gynnar at Fethodistiaeth; y mae yng nghasgliad Trefeca (N.L.W.) gryn ddwsin o lythyrau (rhwng 1739 a 1750) a basiodd rhyngddo a Howel Harris; cadwai gyrddau yn nhŷ ei dad yn 1742, ac wedyn mewn ystafell log yn y dref; ac yn 1745 derbyniwyd ef yn gynghorwr. Yn 1751, fodd bynnag, aeth drosodd at Forafiaeth. Rhoes yr