Search results

1 - 12 of 44 for "Tawe"

1 - 12 of 44 for "Tawe"

  • BERNARD (d. 1148), esgob Tyddewi Chantref Bychan at ei esgobaeth ef a thrwy hynny estyn ei ffin o ddyffryn Tawe hyd at ddyffryn Tywi. Gan na chafodd ddim cymorth yng Nghyngor Westminster yn 1127, apeliodd Urban at y pab, a derbyniodd gan Honorius II, pan nad oedd gwrthwynebiad, ddyfarniad mewn rhan o blaid ei gais. Cafwyd dyfarniad cyffelyb pan aeth Urban ar ail siwrnai i Rufain yn 1129; eithr ymhen ychydig ddyddiau daeth Bernard yno a
  • BEYNON, ROBERT (1881 - 1953), gweinidog (MC), bardd ac ysgrifwr Ganwyd 8 Hydref 1881 yn yr Offis, Pontyberem, Sir Gaerfyrddin, mab Thomas ac Anne Beynon. Dechreuodd bregethu yn eglwys Soar, ac addysgwyd ef ar gyfer y weinidogaeth yn ysgol Watcyn Wyn yn Rhydaman, ysgol Pontypridd, Coleg y Brifysgol, Caerdydd (lle graddiodd yn B.A.), a'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth. Ordeinwyd ef yn 1911, a bu'n bugeilio eglwys Carmel, Aber-craf, ym mhen uchaf dyffryn Tawe ar
  • DAVIES, DAVID RICHARD (1889 - 1958), diwinydd, newyddiadurwr a chlerigwr Cafodd ei eni 9 Chwefror, 1889, ym Mhontycymer, sir Forgannwg, y trydydd o bedwar o blant, dau fab a dwy ferch, Richard a Hannah Davies (née Bedlington Kirkhouse). Roedd ei chwaer ifancaf, Annie Davies yn un o dair merch ifanc a fyddai'n canu yn ymgyrchoedd Evan Roberts yn ystod diwygiad 1904-05. Glöwr oedd ei dad, ond pan oedd David yn 8 oed symudodd y teulu i Glydach yng Nghwm Tawe pan
  • DAVIES, JOHN (1882 - 1937), ysgrifennydd rhanbarth de Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr flaenllaw yn Undeb y Gweithwyr Siopau. O 1904 i 1908 gweithiodd mewn siopau yn Llundain, a datblygodd ddiddordeb oes yno ym mhroblemau ymfudwyr o Gymru i ddinasoedd Lloegr. Trwy ei aelodaeth yn eglwys Willesden Green (MC) cafodd ddiwygiad 1904-05 ddylanwad mawr arno. O 1906 i 1914 bu'n byw yng Nghwm Tawe gan gymryd rhan amlwg yng ngwaith y Blaid Lafur Annibynnol. Yr oedd yn un o sefydlwyr Cynghrair
  • DILLWYN, ELIZABETH AMY (1845 - 1935), nofelydd, diwydiannydd ac ymgyrchydd ffeminyddol Dillwyn waith sinc ar lan afon Tawe; aeth ati i achub y gwaith rhag dyledion gan ei werthu yn y pen draw am swm sylweddol i gwmni meteleg Almaenig ym mis Hydref 1905. Cyflogodd reolwr i redeg y gwaith o ddydd i ddydd, ond gweithiodd yn ei swyddfeydd bob dydd yn delio â gohebiaeth yn Ffrangeg ac Almaeneg ac yn goruchwylio'r cyllid. A hithau bron yn drigain oed, arweiniodd daith i Algeria yn Chwefror 1905
  • ELLIS, ELLIS OWEN (Ellis Bryncoch; 1813 - 1861), arlunydd talodd William, Morris ('Gwilym Tawe') 100 gini amdano, a (b) darlun ' Siôn Wyn o Eifion ' o dan y teitl ' Y Bardd yn ei Wely,' a geir yn argraffiadau 1861 a 1910 Gwaith barddonol Siôn Wyn o Eifion; y mae gwreiddiol (b) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y mae hefyd yn y Llyfrgell ddau o'i lyfrau yn cynnwys darluniau gwreiddiol: (a) ' The Book of Welsh Ballads illustrated in outline. By Ellis Bryn-coch
  • EVANS, GRUFFYDD (1866 - 1930), clerigwr a hynafiaethydd Ganwyd 18 Medi 1866 ym Mhontardawe, yn fab i John Gruffydd, goruchwyliwr gwaith, a’i wraig Elizabeth (g. Griffiths). Wedi bod am gyfnod byr yn ddisgybl-athro yng Nghlydach (Cwm Tawe), aeth i Goleg Dewi Sant, a graddio yn 1891 (B.D. 1902). Cafodd urddau yn 1892 a 1894; bu'n gurad yn Abertawe, Llansadwrn, a Llandingad (Llanymddyfri). Cafodd ficeriaeth Cydweli yn 1908; yn 1913 symudodd i ficeriaeth
  • EVANS, MARY JANE (Llaethferch; 1888 - 1922), adroddwraig Ganwyd 3 Chwefror 1888, mewn tŷ yn Reed Row, Godre'r-graig, Cwm Tawe, yn ferch i Charles Francis, arweinydd seindorf Ystalyfera, a'i wraig Mary Ann (ganwyd Hutchings). Yr oedd y tad yn fedrus ar offerynnau cerdd fel ei dad, George Francis, a ddaethai i Ystalyfera o ardal Caerllion yng Ngwent. Yr oedd Thomas Hutchings, tad Mary Ann, hefyd yn gerddor. Daethai ei rieni o Fryste i gadw ysgol yn
  • EVANS, TIMOTHY EDGAR (1912 - 2007), canwr opera rhai enghreifftiau o'i ddawn mewn rhannau bychain ar recordiau o opera, gan gynnwys rhan y Maer yn Albert Herring gan Britten. Priododd ar 19 Awst 1939 â Nan Walters (1910-1998), yn enedigol o Gwmtwrch Isaf yng Nghwm Tawe, a gyfarfu yn Llundain lle'r oedd hi'n gweithio fel gwarchodwraig plant. Cawsant un mab, Huw (1942-1999). Bu Edgar Evans farw yn Ysbyty Northwick Park yng ngogledd-orllewin Llundain
  • EVANS, TOM VALENTINE (1861 - 1935), gweinidog y Bedyddwyr Ganwyd yn Llandybie, 14 Chwefror 1861, mab William a Mary Evans, a brawd i Frederick Evans. Dechreuodd bregethu yn 1877 gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; aeth i ysgol Caerfyrddin, ac oddi yno i Goleg Trefeca yn 1879. Troes at y Bedyddwyr, ac aeth i Goleg Pontypŵl yn 1880. Ordeiniwyd ef yn weinidog ar eglwys Calfaria, Clydach, Cwm Tawe, yn 1882, ac yno y bu ar hyd ei yrfa nes ymddiswyddo yn 1927
  • EVANS, TREBOR LLOYD (1909 - 1979), gweinidog (Annibynwyr) ac awdur , bu'r ddau yn gyd-fyfyrwyr ym Mangor. Ganwyd iddynt dri o blant - Elisabeth Lloyd ym 1938, Robert Lloyd ym 1941, a Dewi Pierce Lloyd ym 1947. Daeth yn fuan yn adnabyddus fel pregethwr gafaelgar a grymus. Mwynhaodd weithio gyda phlant a phobl ifainc yn Nyffryn Nantlle, a phrofi'r diwylliant Cymraeg ar ei orau. Bu yr un mor weithgar gyda'r ifainc yng nghwm Tawe. Sefydlodd Aelwyd yr Urdd yn Nhreforys, a
  • GEORGE, THOMAS NEVILLE (1904 - 1980), Athro Daeareg carbonifferaidd (Avon-aidd) lle y daw i'r brig ar ymyl gogleddol maes glo de Cymru a'r haen uchaf Avon-aidd ym Mro Gwyr. Parhaodd gyda'r gwaith i'w gwblhau yn yr ardal o Gydweli i Ddyffryn Tawe ac archwilio milod bracïopod o'r calchfaen yn Port Eynon. Yn 1926 dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Prifysgol Cymru i dreulio dwy flynedd yn Amgueddfa Sedgwick, Caergrawnt, er mwyn parhau gyda'i ymchwil i ffosilau