Search results

901 - 912 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

901 - 912 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • EVANS, SAMUEL (Gomerydd; 1793 - 1856), golygydd swyddfa William Owen yng Nghaerdydd, ac yno golygodd Seren Cymru hyd ddiwedd 1852, pan orffennwyd ei chyhoeddi, a'r Bedyddiwr o 8 Tachwedd 1854 hyd ei farwolaeth. Yr oedd hefyd yn ysgolhaig Cymraeg. Yn 1839 cyhoeddodd argraffiad diwygiedig o Eiriadur Dr. William Richards o Lynn, ac yn 1840 penodwyd ef gan Gymreigyddion y Fenni yn aelod o bwyllgor o bump a ddewiswyd i ddiwygio orgraff yr iaith Gymraeg
  • EVANS, SAMUEL (1859 - 1935), cadeirydd y Crown Mine, Johannesburg, ac arloesydd ym myd addysg Ganwyd yn 1859, mab Richard Evans, amaethwr, Pant-y-garn, Rhiwabon, sir Ddinbych. Wedi bod yn ysgol Brookside, Wrecsam, bu yn cynorthwyo gyda darllen proflenni yn swyddfa Hughes a'i Fab, Wrecsam, ac oddi yno, yn 1878, ymunodd â staff Yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon. Yn 1880 ymunodd â staff y Sheffield Independent; yn 1883 penodwyd ef yn ysgrifennydd cyfrinachol i Syr Edgar Vincent (arglwydd
  • EVANS, SAMUEL ISLWYN (1914 - 1999), addysgydd Ganwyd Islwyn Evans yng Nghydweli ar 29 Rhagfyr 1914, y trydydd o ddeuddeg o blant Samuel Evans (1885-1958), glöwr, a'i wraig Mary Ann (ganwyd Walters, 1886-1942). Cafodd ei addysg gynradd yn Ysgol y Castell, Cydweli, ac yn 1926 enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Ganolradd y Sir, Llanelli, ond ymadawodd yn ei flwyddyn gyntaf ar ôl i un o'r athrawon ei gywilyddio am ei dlodi. Treuliodd y ddwy flynedd
  • EVANS, SAMUEL JAMES (1870 - 1938), ysgolfeistr, hyrwyddwr addysg, ac awdur Ganwyd 4 Awst 1870 yn Llandysul, Sir Aberteifi, yn ail fab i David Evans, lledrwr, a Margaret Jones. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Tysul, Llandysul, a Choleg Aberystwyth, ac enillodd radd B.A. (Llundain) yn 1892 a M.A. (Llundain) yn 1894. Priododd Annie, merch Thomas Griffiths, Aberystwyth. Penodwyd ef (1895) yn brifathro cyntaf ysgol sir y bechgyn, Trallwng, ac yn 1897 yn brifathro cyntaf ysgol
  • EVANS, Syr SAMUEL THOMAS (1859 - 1918), gwleidyddwr a barnwr Ganwyd ym mis Mai 1859 yn Ysgiwen, Sir Forgannwg, mab John Evans, groser, a Margaret, ei wraig - y tad a'r fam yn bobl o Sir Aberteifi. Ar ôl bod yn y Collegiate School, Abertawe, aeth i Goleg Aberystwyth, gan raddio ym Mhrifysgol Llundain. Dymunai ei rieni iddo fyned i'r weinidogaeth, eithr ni fynnai ef mo hynny a rhwymwyd ef mewn swyddfa cyfreithiwr; pasiodd yn gyfreithiwr yn 1883. Bu'n aelod o
  • EVANS, STEPHEN (1818 - 1905), Cymmrodor brodor o Lanarth, Sir Aberteifi. Aeth yn ieuanc i Lundain a sefydlodd yno fusnes ystordy llewyrchus yn Old Change. Yn y pum degau o'r ganrif ddiwethaf dechreuodd gydweithio â Syr Hugh Owen yn ei frwydr dros addysg yng Nghymru a bu'n gefnogydd brwd i'r Coleg yn Aberystwyth. Yr oedd yn eisteddfodwr eiddgar ac yn noddwr hael i gerddorion a chyfansoddwyr Cymreig. Bu'n un o aelodau amlycaf pwyllgor
  • EVANS, GERAINT LLEWELLYN (1922 - 1992), canwr opera Ganwyd Geraint Evans ar 16 Chwefror 1922 yn William Street, Cilfynydd, yn fab i William John Evans (1899-1978), glöwr, a'i wraig Charlotte May (g. Thomas, 1901-1923). Bu farw ei fam ar enedigaeth ail blentyn, a magwyd Geraint gan rieni ei fam nes cyrraedd ei ddeg oed, pan ailbriododd ei dad a symud i Drehopcyn ger Pontypridd. Gadawodd yr ysgol yn bedair ar ddeg oed a mynd i weithio mewn siop
  • EVANS, THEOPHILUS (1693 - 1767), hanesydd a llenor Amwythig yn paratoi llyfrau i'r wasg. Urddwyd ef yn ddiacon, 14 Awst 1717, ac yn offeiriad 9 Tachwedd 1718, gan esgob Tyddewi, a chafodd guradiaethau Defynnog a Llanlleonfel yn sir Frycheiniog, dan Moses Williams. Ar 14 Awst 1722 cafodd ficeriaeth Llandyfrïog, ger Castellnewydd Emlyn. Ymddiswyddodd oddi yno 1728, a chael rheithoraeth Llanynys gyda Llanddulas, sir Frycheiniog. Ymddiswyddodd yn 1738 a
  • EVANS, THOMAS (1625 - 1688), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd yn y Pentre, Llanafanfawr, sir Frycheiniog. Cafodd addysg dda. Rhoes y dirprwywyr dystysgrif pregethwr iddo 16 Mai 1653. Gofalodd am eglwys blwyf Maesymynys hyd 1662. Bedyddiwr rhydd-gymunol ydoedd - dyna pam yr ymunodd ei ferch â Broadmead ac nid â'r Bedyddwyr Cyffredinol ym Mryste. Nid ef, fel y tybia 'Spinther,' eithr Thomas Evans, Dyffryn-ffrwd, aelod yn Llantrisant, oedd yng nghymanfa
  • EVANS, THOMAS (1739 - 1803), dau lyfrwerthwr o Lundain a goffeir yn y D.N.B. bendant yn unrhyw fan, er iddo, yn 1774, gyhoeddi argraffiad newydd o waith William Wynne, History of Wales. Pan gofir mai yn y Strand yr oedd canolfan ei fasnach, hwyrach y tueddir i'w gysylltu â'r 'Thomas Evans, Strand' a oedd yn aelod o Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1778. Derbyniwyd ef yn aelod y pryd hwnnw am fod ei dad yn Gymro. Awgryma hyn nad yng Nghymru y ganed ef ei hun.
  • EVANS, THOMAS (Tomos Glyn Cothi; 1764 - 1833), gweinidog Undodaidd Ganwyd yn Capel Sant Silyn, Gwernogle, Sir Gaerfyrddin, 20 Mehefin 1764. Ychydig o fanteision addysg a gafodd ym more oes; bu'n was fferm am dymor byr, ac yna dilyn ei alwedigaeth fel gwehydd. Arferai fynychu ffeiriau Morgannwg i werthu brethyn, a daeth i gyfathrach â beirdd Morgannwg. Yr oedd yng Ngorsedd Mynydd y Garth, Alban Hefin, 1797. Newynai am wybodaeth er yn ieuanc, ac fe'i diwylliodd ei
  • EVANS, THOMAS (Telynog; 1840 - 1865), bardd mae'r ddiwethaf wedi ei chynnwys gan W. J. Gruffydd yn ei Flodeugerdd. Bu farw 29 Ebrill 1865 a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Aberdâr. Cyhoeddwyd yn 1866 gyfrol o'i weithiau wedi eu dethol gan ei gyfaill 'Dafydd Morganwg' gyda chofiant gan Howel Williams.