Search results

1453 - 1464 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1453 - 1464 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • HUW CEIRIOG (fl. c. 1560-1600), bardd Brodor o sir Ddinbych a raddiodd yn ddisgybl disgyblaidd cerdd dafod yn eisteddfod Caerwys, 1568 (Peniarth MS 132 (59)). Ceir peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, a hwnnw'n cynnwys cywyddau ysgafn i serch a natur, rhai eraill i Simwnt Thelwal o Blas y Ward, Sion Salbri o Lyweni (marwnad), ac un o fawl i Blas Moelyrch. Ceir hefyd englyn ganddo i'r eisteddfod a enwyd uchod. Cynnwys y
  • HUW CORNWY (fl. 1580-1596), bardd brodor o blwyf Llanfair-yng-nghornwy, sir Fôn, efallai. Canodd farwnadau i Feurigiaid Bodorgan a Rhydderchiaid Myfyrian, sir Fôn, ac i Rhys ap Thomas, a bu'n 'ymryson' â Rhydderch ap Rhisiart o Fyfyrian.
  • HUW LLIFON (fl. c. 1570-1607), bardd, a chlochydd Llannefydd yn sir Ddinbych. Cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau, ac y mae hwn yn cynnwys englynion crefyddol, cywydd moliant i Gelynen Meifod, cywydd gofyn gown i'r bardd gan Ddafydd Holand o Ginmel, a chywydd marwnad Ffowc ap Rhobert o Feiriadog (sir Ddinbych), a fu farw yn 1607-8. Ymddengys i'r bardd fyw'n hen; ceir cyfeiriadau at ei henaint yn y ddau gywydd olaf hyn, ac hefyd yn y ddau
  • HUW LLŶN, bardd Brodor o Lŷn a raddiodd yn ddisgybl pencerddaidd cerdd dafod yn eisteddfod Caerwys yn 1568 (Peniarth MS 132 (59)). Efallai ei fod yn frawd i Wiliam Llŷn (NLW MS 1244D (28), NLW MS 1580B (308); Bulletin of the Board of Celtic Studies, ix, 112, etc.). Dywedir gan ' Myrddin Fardd,' J. E. Griffith, a J. C. Morrice mai'r boneddwr Huw ap Rhisiart ap Dafydd o Gefn Llanfair oedd Huw Llŷn. Gwyddys fod Huw
  • HUW MACHNO (fl. 1585-1637), bardd sir Ddinbych, a chyn belled â Gogerddan yn y De. Bu'n ymryson ag Edmwnd Prys, a cheisiodd Siôn Phylip eu cymodi gan bwysleisio dysg Huw Machno, ei wybodaeth o Ladin ac o iaith moliant y beirdd. Ystyriai Siôn Phylip fod arno ragoriaeth mewn rhieingerdd, moliant, a dyfalu. Cadwyd dros 150 o'i gywyddau a'i englynion ar wasgar yn y llawysgrifau. Ceir darnau yn ei law ef ei hun yn llawysgrifau NLW MS
  • HUW PENNAL (fl. 15fed ganrif), bardd brodor, y mae'n debyg, o Bennal yn Sir Feirionnydd. Cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau, ac yn ei blith gywyddau i'r iarll Wiliam Herbert o Benfro, Dafydd ap Rhys o Langurig, tri mab Ieuan Blaenau o Gregynog, a dau gywydd serch. Ni wyddys unrhyw fanylion am ei fywyd, ond y mae'n amlwg bod y dyddiadau a roir iddo yn Blackwell, a W. Owen, Cambrian Biog., yn rhy ddiweddar.
  • HUW PENNANT Syr (fl. yn ail hanner y 15fed ganrif), offeiriad, bardd, hynafiaethydd Mab Dafydd Pennant, Bychton, gerllaw Holywell, Sir y Fflint, a brawd i Thomas Pennant, abad Dinas Basing. Cadwyd peth o'i farddoniaeth, sef cywyddau brud, mewn llawysgrifau. Llawysgrif a wnaeth Syr Huw ei hun tua 1514 yw Peniarth MS 182, yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, achau, barddoniaeth, a'i gyfieithiad i'r Gymraeg o destun Lladin Buchedd Wrsula S.
  • HUW, ROLANT (1714 - 1802), bardd a breswyliai yn y Graeenyn (Graienyn, Greienyn) ym mhlwyf Llangywer, Sir Feirionnydd, ac a oedd hefyd yn stiward i berchnogion cyfagos y Fachddeiliog a Rhiwedog. Y mae'n bwysig fel dolen yn nhraddodiad barddol Penllyn; bu'n athro i feirdd, yn enwedig i Robert William o'r Pandy, Tre Rhiwedog (1744 - 1815). Argraffwyd peth o'i waith yn Beirdd y Bala (cywirer ' Robert Saunderson ' yn y byr-nodyn i
  • HUWS, ALUN 'SBARDUN' (1948 - 2014), cerddor a chyfansoddwr i Lydaw ac Iwerddon sawl tro. Yn 2005/6 ysgrifennodd Alun ac Emyr Huws Jones ffilm ddogfen i S4C, 'Llythyrau Ellis Williams', yn seiliedig ar gyfnod ym mywyd Ellis Williams o Benisarwaun a gafodd ei alltudio o'i gartref ar ddechrau'r 20fed ganrif. Bu Ellis yn byw ym Mhatagonia ac Awstralia cyn cael ei ladd yn y ffosydd yn Ffrainc ym 1918. Roedd y ffilm yn blethiad o gerddoriaeth a drama, ac fe'i
  • HUWS, MORIEN MON (Morien Môn; 1856 - 1932), bardd a llenor Ganwyd yn Amlwch, sir Fôn, 10 Awst 1856, a bu yn ysgol Rhos-y-bol yn y sir honno pan oedd Syr John Rhys yn brifathro. Llwyddodd yn gynnar yn ei oes i ennill gwobrwyon mewn eisteddfodau, a dechreuodd bregethu pan oedd yn 17 oed. Ymfudodd i U.D.A. yn 1880 a daeth yn aelod o'r gymanfa Annibynnol yn Oneida County, New York, ac yn weinidog ar eglwys Peniel, Remsen, N.Y. Yn 1899 ymunodd â'r
  • HUWS, WILLIAM PARI (1853 - 1936), gweinidog gyda'r Annibynwyr , 1874. Yn 1877 aeth am gwrs ychwanegol i Brifysgol Yale, America, a graddiodd yn B.D. yno yn 1880. Dychwelodd i Gymru a chafodd alwad i fugeilio eglwysi Beulah a Brynmair, Sir Aberteifi; urddwyd ef yno yn 1882. Daeth yn fuan i amlygrwydd mawr fel dirwestwr pybyr, a chyda'i gymydog, y Parch. David Adams, Hawen, cychwynnodd fudiad a greodd gynnwrf mawr trwy'r sir. Yn 1887 symudodd i ofalu am eglwysi
  • HYWEL ab EINION LLYGLIW (fl. c. 1330-70), bardd Ewythr i'r bardd Gruffudd Llwyd ap Dafydd ab Einion Llygliw. Ni wyddys dim o'i hanes, ond cadwyd ei awdl serch i Myfanwy Fychan o gastell Dinas Bran, Llangollen, yn NLW MS 1553A (275), NLW MS 4973B (369b), NLW MS 6209E (216); argraffwyd hi yn The Myvyrian Archaiology of Wales, a cheir cyfieithiad Saesneg ohoni hefyd yn Pennant, Tours in Wales. Hywel ab Einion o Faelor y gelwir y bardd yn y cyntaf