Search results

1417 - 1428 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1417 - 1428 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • HUGHES, THOMAS ROWLAND (1903 - 1949), bardd a nofelydd Ganwyd 17 Ebrill 1903 yn 20 Goodman Street, Llanberis, Sir Gaernarfon, mab William Rowland Hughes a'i wraig May, merch Thomas Morydd Owen. Cafodd ei addysg yn ysgol elfennol Dolbadarn, ysgol sir Brynrefail, a choleg y Brifysgol, Bangor, lle y graddiodd, 1925, gydag anrhydedd y dosbarth cyntaf yn y Saesneg a'r Gymraeg. Ym mis Medi 1926 aeth yn athro i ysgol sir y Bechgyn, Aberdâr, lle y bu am ddwy
  • HUGHES, WILLIAM (1838 - 1921), argraffydd a chyhoeddwr Davies ('Mynyddog') yn ei gynorthwyo. Bu yn dwyn allan Y Dysgedydd am 56 mlynedd, a hefyd Dysgedydd y Plant a Cronicl Bach J.R. am gyfnod. Cymerai ddiddordeb mewn materion cyhoeddus a chrefyddol; yr oedd yn Rhyddfrydwr pybyr, yn henadur o gyngor sir Meirion, yn ustus heddwch, ac yn ddiacon am 55 mlynedd. Bu farw 23 Chwefror 1921 yn 83 oed, a chladdwyd ef yn y Brithdir, ger Dolgellau.
  • HUGHES, WILLIAM (1779 - 1836), peiriannydd Ganwyd yn Penyclawdd, sir Fynwy. Hyfforddwyd ef fel peiriannydd, ac enillodd gryn fri yn yr alwedigaeth honno. Ymhlith y cynlluniau y bu'n gysylltiedig â hwynt yr oedd yr Ellesmere Canal, y Caledonian Canal, dyfnhau'r Clyde, a glanhau Lough Neagh. Bu farw yn Northampton, 1836.
  • HUGHES, WILLIAM (1757 - 1846), gweinidog gyda'r Annibynwyr, emynydd, a cherddor ail fab Hugh Jones a Jane Williams (gweddw), Gadlys, Llanwnda (Arfon); bedyddiwyd 25 Mehefin 1757. Priododd â Jane Jones yn Llanwnda, 20 Chwefror 1783, a bedyddiwyd eu mab John yno, 2 Rhagfyr 1784. Ymunodd a'r Annibynwyr yng Nghaernarfon yn amser y deffroad dan George Lewis; codwyd ef yn bregethwr cynorthwyol yn 1788, wedi ymadawiad George Lewis (1794), penodwyd ef yn efengylydd teithiol, a
  • HUGHES, WILLIAM (1798 - 1866), telynor Ganwyd yn 1798 yn Llansantffraed-ym-Mechain, Sir Drefaldwyn. Yr oedd yn chwaraewr rhagorol ar y delyn deir-res. Enillodd y delyn arian a deg gini yn eisteddfod Caernarfon 1821. Bu yn delynor teulu yng nghastell Powys am rhyw gyfnod, a chesglir mai ef a gafodd y swydd wedi marw Thomas Blayney. Bu farw yn Lerpwl, 1866.
  • HUGHES, WILLIAM (d. 1794?), gwneuthurwr clociau Brodor o blwyf Llanfflewin, sir Fôn, ydoedd. Aeth i Lundain cyn 1755, ac yr oedd ganddo fusnes yn 119 High Holborn. Cafodd ryddfreiniad Cwmni y Gwneuthurwyr Clociau ('The Worshipful Company of Clockmakers') yn 1781. Yn 1860, pan anrheithiwyd Pekin, darganfuwyd oriawr gerddorol a wnaethai Hughes i ymherodr China. Yr oedd mewn busnes yn y Dial, King Street, High Holborn, ac yn Lower Grosvenor
  • HUGHES, WILLIAM (1849 - 1920), clerigwr ac awdur lyfrau niferus yw ei Life of Dean Cotton, 1874; Life and Letters of Thomas Charles of Bala, 1881, 1909; Life and Times of Bishop William Morgan, 1891; Recollections of Bangor Cathedral, 1904; History of the Church of the Cymry, 1894-1904; a'r History of the Diocese of Bangor, 1911, yng nghyfres y S.P.C.K.
  • HUGHES, WILLIAM (d. 1600), esgob Llanelwy Ganwyd yn Sir Gaernarfon, mab Hugh ap Cynwrig. Aeth i Goleg Queens', Caergrawnt, Tachwedd 1554, a graddio yn B.A. yn 1557 a dyfod yn M.A. yn 1560 ac yn D.D. yn 1569. Daeth yn gymrawd Coleg Crist yn 1557, ac, yn 1565, yn ' Lady Margaret Preacher.' Bu'n gaplan i ddug Norfolk, ac achosodd ddadlau mawr trwy bregeth a draddododd yn Leicester yn 1567. Daeth yn rheithor Llysfaen, Sir Gaernarfon, ac yn
  • HUGHES, WILLIAM BULKELEY (1797 - 1882), Aelod Seneddol Ganwyd ym Mhlas Coch, Llanidan, Môn; ganwyd 26 Gorffennaf 1797 yn fab hynaf i Syr William Bulkeley Hughes, Plas Coch a'r Brynddu, ac Elizabeth, merch a chyd-etifeddes Rhys Thomas, Coed Alun, Caernarfon. Honnai teulu Plas Coch ei fod o gyff Llywarch ap Brân, arglwydd Menai, ac er canol y 15fed ganrif buasai iddo ran amlwg yng ngweinyddiaeth y sir. Cafodd Hugh Hughes (bu farw 1609), a adeiladodd
  • HUGHES, WILLIAM GRAY (d. 1824), ficer - see GREY, THOMAS
  • HUGHES, WILLIAM JOHN (1891 - 1945), athro ysgol a choleg Ganwyd ger Penfforddelen, Y Groeslon, Sir Gaernarfon, 10 Medi 1891, yn fab i John Owen ac Ann Jane Hughes, ond symudodd ei rieni yn fuan ar ôl ei eni i fyw i Nantlle. Chwarelwr oedd y tad, ac yn ddiweddarach, arolygydd llechi. Addysgwyd yn ysgol y cyngor, Nantlle. Amlygodd yn gynnar ei fod yn fachgen talentog, a chafodd yrfa eithriadol o lwyddiannus yn yr ysgol sir ym Mhen-y-groes, 1904-1908
  • HUGHES, WILLIAM JOHN (1833 - 1879), cerddor ac ysgolfeistr