Search results

109 - 120 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

109 - 120 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • BEVAN, THOMAS (1796? - 1819), cenhadwr o dan Gymdeithas Genhadol Llundain Ganwyd yng nghymdogaeth y Neuaddlwyd, Sir Aberteifi, tua 1796. Hanoedd o gartref crefyddol, a darllenai'r Beibl yn 8 oed. Cafodd 'droedigaeth' wrth fferm Nantgwynfynydd, ac ymaelododd yn y Neuaddlwyd 19 Tachwedd 1810. Yno yr oedd y Dr. Thomas Phillips yn weinidog. Anogwyd ef i bregethu. Aeth i athrofa'r Dr. Phillips i Benybanc, ac oddi yno i goleg y Drefnewydd a Gosport. Trefnwyd iddo ef a
  • BEVAN, THOMAS (Caradawc, Caradawc y Fenni; 1802 - 1882), hynafiaethydd Ganwyd 13 Medi 1802, ym Melin Maesmawr, ger Talybont, sir Frycheiniog, mab Lewis Bevan. Addysgwyd ef yn yr ysgol fechan yng nghapel y Bedyddwyr, Llangynidr, ac yna mewn ysgol breifat yn y Fenni. Wedi bwrw'i brentisiaeth mewn siop groser yn y Fenni, aeth i Lundain, lle bu'n gwasanaethu yn siop ei ewythr yn agos i Tower Hill; wedi hynny bu'n gweithio mewn siop yn Clydach Works, sir Frycheiniog (a
  • BEVAN, WILLIAM LATHAM (1821 - 1908), offeiriad Ganwyd yn Beaufort, sir Frycheiniog, 1 Mai 1821, mab William Hibbs Bevan, uchel siryf Brycheiniog. Addysgwyd ef yn Ysgol Rugby a Choleg Balliol, Rhydychen; symudodd i Goleg Hertford ar ei ethol yn ysgolor. Graddiodd yn 1842 yn y clasuron (dosbarth II) a'i urddo'n ddiacon gan esgob Llundain yn 1844. Ar ôl blwyddyn yn gurad S. Philip, Stepney, urddwyd ef yn offeiriad yn 1845 a'i benodi'n ficer y
  • BEYNON, ROBERT (1881 - 1953), gweinidog (MC), bardd ac ysgrifwr Ganwyd 8 Hydref 1881 yn yr Offis, Pontyberem, Sir Gaerfyrddin, mab Thomas ac Anne Beynon. Dechreuodd bregethu yn eglwys Soar, ac addysgwyd ef ar gyfer y weinidogaeth yn ysgol Watcyn Wyn yn Rhydaman, ysgol Pontypridd, Coleg y Brifysgol, Caerdydd (lle graddiodd yn B.A.), a'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth. Ordeinwyd ef yn 1911, a bu'n bugeilio eglwys Carmel, Aber-craf, ym mhen uchaf dyffryn Tawe ar
  • BEYNON, ROSSER (Asaph Glan Tâf; 1811 - 1876), cerddor Ganed yng Nglyn Eithinog, Glyn Nedd, Morgannwg, mab John ac Elizabeth Beynon. Yn 1815 symudodd y tad a'r fam a saith o blant i fyw i Merthyr Tydfil. Cafodd Rosser ychydig addysg yn ysgol George Williams, ond aeth i weithio i'r gwaith haearn yn 8 oed, a dringodd i fod yn is-oruchwyliwr yno. Dechreuodd ymddiddori mewn cerddoriaeth yn ieuanc, a thrwy lafurio yn galed i'w ddiwyllio ei hunan daeth yn
  • BEYNON, THOMAS (1744 - 1835), archddiacon Ceredigion, noddwr llenyddiaeth ac eisteddfodau Cymru Ganwyd yn Greenmeadow, Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin, bedyddiwyd 26 Awst 1745, yn fab i Griffith Beynon a Rachel (Thomas) ei wraig. Addysg ysgol ramadegol, nid prifysgol, a gafodd. Cyflwynwyd ef i esgob Henffordd gan esgob Tyddewi. Ordeiniwyd ef yn ddiacon 21 Awst 1768 yn Abergwili. Bu'n gurad Cathedin, sir Frycheiniog, 1768-1770, (ordeiniwyd ef yn offeiriad yn Henffordd pan ddaliai guradiaeth
  • BEYNON, TOM (1886 - 1961), gweinidog (MC), hanesydd ac awdur Ganwyd 3 Mehefin 1886 yn y Cenfu, Mynydd y Garreg, ger Cydweli, Sir Gaerfyrddin, mab William ac Elizabeth Beynon. Ar ddiwedd ei dymor yn ysgol cyngor ei ardal aeth i weithio, yn 1903, i Bontyberem, a'i dderbyn yn aelod yn eglwys Soar; yno y dechreuodd bregethu yng ngwres y diwygiad. Addysgwyd ef ar gyfer y weinidogaeth yn ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, ysgol ramadeg Castellnewydd Emlyn, a
  • BEYNON, WILLIAM (1891 - 1932), paffiwr
  • BEYNON, Syr WILLIAM JOHN GRANVILLE (1914 - 1996), Athro Ffiseg yn ymwneud ag astudiaeth gydwladol o'r ïonosffer Ganed Granville Beynon ar 24 Mai 1914, yn Nyfnant, Abertawe, yr ieuengaf o bedwar plentyn William Beynon (gwiriwr pwysau mewn pwll glo) a Mary (ganed Thomas). Aeth i Ysgol Ramadeg Tregwyr, a Choleg y Brifysgol yn Abertawe (1931) lle enillodd radd BSc (Ffiseg, anrhydedd dosbarth 1af, 1934), a'i dilyn â gradd PhD (1939) am ymchwil i amsugnad a gwasgariad pelydrau uwchfioled mewn hylif organig. Yn
  • BIRCH, EVELYN NIGEL CHETWODE (Barwn Rhyl o Dreffynnon), (1906 - 1981), gwleidydd Ceidwadol hyn ef i ymddeol a rhoi o'i amser yn llwyr i astudio gwleidyddiaeth. Gwasanaethodd yn y Fyddin Diriogaethol hyd yn oed cyn y rhyfel, ac yn y Reifflwyr Brenhinol a'r Staff Cyffredinol yn ystod y rhyfel gan gyrraedd rheng lefftenant-cyrnol yno. Dyfarnwyd OBE iddo ym 1945. Birch oedd yr AS Ceidwadol dros Sir y Fflint, 1945-50 ac, yn dilyn ail-ddosbarthu'r etholaethau seneddol, dros etholaeth Gorllewin
  • BIRCH, JAMES (d. 1795?), oriadurwr a sectwr Ceir y cwbl a wyddys amdano yn ysgrif Alexander Gordon yn y D.N.B. Ymddengys iddo gael ei eni yn sir Benfro; ond yn Llundain y dilynai ei grefft. Yn 1759 y clywir y sôn cyntaf amdano, yn aelod o'r ' Muggletoniaid '; ond ymadawodd a hwy yn 1778, gan gychwyn sect (y ' Birchites') o'i eiddo ei hunan; blodeuai'r sect hon yn Sir Benfro. Yn 1795 y mae'r son diwethaf am Birch.
  • BIRCHINSHAW, WILLIAM (fl. 1584-1617), bardd O dueddau Dinbych yr hanoedd, a hwyrach yn perthyn i Maurice Birchinshaw a gymerodd raddau yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, yn 1511 a 1515, ac a wnaed yn rheithor Dinbych yn 1543; bu ef farw yn 1564. Yn NLW MS 5272C, t. 185, ceir llythyr gan William Mydleton 'at i gefnder Wilm Birchinsha ag at Mr. Owen Meurig,' lle y dywed Mydleton 'dysgwch fod yn foesol wrth ych athro…' Ac am Birchinshaw dywed