Search results

865 - 876 of 990 for "Mawrth"

865 - 876 of 990 for "Mawrth"

  • THOMAS, THOMAS MORGAN (1828 - 1884), cenhadwr Ganwyd yn Llanharan, Sir Forgannwg, 13 Mawrth 1828. Aeth i Goleg Aberhonddu yn 1854 ac fe'i ordeiniwyd i'r maes cenhadol yng Nghwmbach, Aberdâr, 11 Mai 1858. Priododd Anne Morgan, merch Jonah Morgan, gweinidog yr Annibynwyr yng Nghwmbach. Ym Mehefin 1858 hwyliodd y ddau i Matabele-land, De Affrica. Bu ei wraig farw yn 1862 ac yn 1864 priododd yntau eilwaith â Caroline Hutchinson Elliott, merch
  • THOMAS, TIMOTHY (1694 - 1751), clerigwr ac ysgolhaig mab Thomas Thomas, ' gent,' Llanymddyfri. Aeth o Ysgol Westminster i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen (ymaelodi 4 Gorffennaf 1712, B.A. 1716, M.A. 12 Mawrth 1718/19, B.D. a D.D. 1735). Bu am gyfnod yn gaplan i Robert Harley, iarll Oxford, a dyfod trwy hynny i adnabod Humphrey Wanley, llyfrgellydd yr iarll; yr oedd ei frawd William Thomas, yng ngwasanaeth yr iarll hefyd. Dyn cymharol ieuanc ydoedd
  • THOMAS, TIMOTHY (1720 - 1768) Maesisaf, Pencarreg, gweinidog y Bedyddwyr ac awdur Ganwyd yn y Tŷ-hen, Caeo, 2 Mawrth 1720/19, yn ail fab i Thomas Morgan Thomas a Jane ei wraig, ac yn frawd i Joshua Thomas, Llanllieni, a Zecharias Thomas, Aberduar. Bedyddiwyd ef yn 18 oed, a dechreuodd bregethu cyn ei 20 oed; bu'n fyfyriwr yn y Trosnant, 1740-1, ac yn 1743 ordeiniwyd ef yn weinidog ei fam-eglwys yn Aberduar a'r canghennau, lle y bu hyd ei farw 12 Tachwedd 1768. Claddwyd ef ym
  • THOMAS, WILLIAM (Glanffrwd; 1843 - 1890), clerigwr Ganwyd yn Ynys-y-bŵl, 17 Mawrth 1843, mab John Howell Thomas (mab William Thomas Howell, Blaennantyfedw) a Jane ferch Morgan Jones, Cwmclydach. Bu'n ddisgybl yn ysgol un Twmi Morgan. Gweithiodd yn llifiwr, fel ei dad, ac ar ôl ymroi i astudio bu'n ysgolfeistr am bedair neu bum mlynedd gartref ac yna yn Llwynypia. Yno dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ar aeth yn fugail Siloam
  • THOMAS, WILLIAM (1832 - 1911), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 26 Mawrth 1832 yn Nhroedrhiwfelen, plwyf Llangiwc, Sir Forgannwg. Ni chafodd nemor ddim addysg yn ei ddyddiau cynnar. Yr oedd ei rieni'n aelodau yng Nghwmllynfell, a derbyniwyd yntau yn aelod yno yn 8 oed. Ymroes yn ddiwyd i'w ddiwyllio'i hun drwy ddarllen, ysgrifennu, a dysgu cerddoriaeth; cadwai ysgol gân yn ifanc ar y Gwrhyd. Dechreuodd bregethu yng Nghwmllynfell dan weinidogaeth Rhys
  • THOMAS, WILLIAM DAVIES (1889 - 1954), Athro Saesneg gyhoeddwyd gan mor feirniadol ydoedd o'i waith ei hun. Am flynyddoedd cynhaliodd ddosbarthiadau allanol llewyrchus yng Nghastell-nedd a'r cyffiniau ar lenyddiaeth Saesneg, a darlledodd sgyrsiau radio ar lenyddiaeth, barddoniaeth a phynciau eraill. Priododd ag Edith Mary, merch Richard Edwards, Maesycymer, yng nghapel Bedyddwyr Cymraeg Hengoed a bu farw yn ei gartref, 11 Clarendon Road, Sgeti, ar 6 Mawrth
  • THOMAS, Syr WILLIAM JAMES (1867 - 1945), barwnig, perchen glofeydd a noddwr sefydliadau iechydol Ganwyd 10 Mawrth 1867 yng Nghaerffili, Morgannwg, mab Thomas James a Jane Thomas. Collodd ei rieni'n ifanc, ac yng ngofal ei fam-gu, mam ei dad, y bu yng nghyfnod ei ysgolia ym Mynyddislwyn a Phontypridd. Wedyn bu yng ngwasanaeth ei dad-cu, James Thomas (1817 - 1901), mab ffarm a ddechreuodd weithio dan ddaear yn chwech oed a mentro sincio pyllau Ynyshir yn drigain. Gadawodd ef y rhan fwyaf o'i
  • THOMAS, WILLIAM JENKYN (1870 - 1959), ysgolfeistr ac awdur chyhoeddi bywgraffiadau o Gymry nodedig, prosiect y bu'n ei hargymell ers pum mlynedd neu ragor mewn darlithoedd i Urdd y Graddedigion ac ar y radio. Gwnaeth ei gartref yn 38 Windsor Road, Finchley, a magu dau fab (os nad rhagor o blant). Bu ei wraig Marian Rose (ganwyd Dixon?) farw 22 Hydref 1936 ac yntau 14 Mawrth 1959.
  • TIBBOTT family llafuriodd weddill ei oes, eithr teithiai lawer, gan bregethu'n fynych gyda'r Methodistiaid ac yn achlysurol gyda'r Bedyddwyr. Bu farw 18 Mawrth 1798. Brawd iddo oedd JOHN TIBBOTT (bu farw 1785), yntau'n weinidog Annibynnol Crefydd. Am rai blynyddoedd cyn urddo'i frawd bu'n cynorthwyo Lewis Rees, rhagflaenydd Richard fel gweinidog Llanbrynmair. Yn 1763 symudodd i Sir Gaerfyrddin i gymryd gofal eglwysi
  • TILLEY, ALBERT (1896 - 1957), cludydd byrllysg ('mace') cadeirlan Aberhonddu a hanesydd lleol . Bu iddynt un ferch. Bu ei wraig farw yn 1940. Ym mis Mawrth 1923 apwyntiwyd ef yn fyrllysgydd cyntaf y gadeirlan newydd yn Aberhonddu, swydd a lanwodd gydag ymroddiad ac urddas anghyffredin am 33 blynedd nes ei orfodi gan afiechyd i ymddeol ym mis Hydref 1956. Trwythodd ei hun yn hanes, traddodiadau a phensaernïaeth yr eglwys. Gyda chefnogaeth gref Gwenllian E. F. Morgan a Syr John Conway Lloyd
  • TOY, HUMFREY (d. 1575), marsiandwr Antiquarian Society and Field Club, xi, 76-7. Y mae'n amlwg ei fod yn berchen llawer o eiddo yn nhref a Sir Gaerfyrddin. Byddai'n sicr o adnabod yr esgob Richard Davies pan oedd hwnnw'n byw yn Abergwili (sydd ar bwys Caerfyrddin), a daeth, yn ddiau, i adnabod William Salesbury, pan ddaeth y cyfieithydd i aros gyda'r esgob. Gadawodd yn ei ewyllys (a wnaethpwyd 1 Mawrth 1575 ac a brofwyd 2 Mai 1575) y swm o
  • TREE, RONALD JAMES (1914 - 1970), offeiriad ac ysgolfeistr Ganwyd 30 Mawrth 1914, yn y Garnant, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Frederick George a Susan Tree. Addysgwyd ef yn ysgol yr eglwys, Garnant, ysgol Dyffryn Aman a Choleg y Brifysgol, Abertawe, lle'r aeth gydag Ysgoloriaeth Powis. Cafodd ei radd B.A. (dosb. I) mewn athroniaeth, 1937, M.A. 1939, ac aeth i Goleg Newydd, Rhydychen gydag ysgoloriaeth agored; cafodd radd B.A. (dosb. I), 1939, a B.Litt., 1941