Search results

769 - 780 of 894 for "Medi"

769 - 780 of 894 for "Medi"

  • THOMAS, JOSEPH (1814 - 1889), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 17 Medi 1814 yn y tolldy yn Llangynog (Maldwyn), yn fab i Edward Thomas (o ddyffryn Nantlle), chwarelwr, a'i wraig Mary (Morris). Ychydig ysgol a gafodd, ac aeth i weithio yn y chwarel. Gafaelwyd ynddo gan y mudiad dirwest, ac areithiai ar ddirwest hwnt ac yma. Ddiwedd 1840, mewn cyfarfod dirwest yn Llwyneinion gerllaw'r Bala, yr oedd Lewis Edwards yn gwrando arno; cymhellodd ef i ddyfod i
  • THOMAS, JOSHUA (1719 - 1797), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a hanesydd rannu'r arian a ddeuai iddynt o'r 'Regium Donum.' Yng ngholeg Bryste y cafodd ei addysg ddiwinyddol, ac yr oedd ei wraig gyntaf yn chwaer i Caleb Evans, un o benaethiaid y sefydliad hwnnw. Y tad a roddodd y siars i'r mab yn y cwrdd sefydlu (Medi 1781), a'i destun 1 Tim. vi, 20. Yn 1796 dechreuodd Timothy Thomas gadw ysgol yn Islington - nid academi, ond ysgol i ddysgu'r elfennau. Nid oedd, fel ei dad
  • THOMAS, LOUIE MYFANWY (Jane Ann Jones; 1908 - 1968), nofelydd afiechyd, a symudodd hi a'i gŵr i Garmel, ger Holywell yn 1962 ond dychwelodd i Ruthun ddwy fl. yn ddiweddarach, ddau fis ar ôl marw'i gŵr o gancr ar yr ysgyfaint ym mis Medi 1964, a mynd i fyw i 115 Parc y Dre. Y mae Kate Roberts, yn ei hysgrif goffa yn Y Faner, 1 Chwefror 1968, yn nodi na welodd Louie Myfanwy ei gŵr cyn iddo farw ac na fu hi yn yr angladd oherwydd ei gwaeledd ei hun. Bu'n aros gyda Mrs
  • THOMAS, MANSEL TREHARNE (1909 - 1986), cyfansoddwr, arweinydd, Pennaeth Cerdd BBC Cymru Pres Ieuenctid Cymru. Erys safle Mansel Thomas fel cyfansoddwr Cymreig heb bylu, ac am ei wasanaeth i gerddoriaeth ym Mhrydain derbyniodd FRAM yn 1951, OBE yn 1970, Cymrodoriaeth Athro ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1972 a Gwobr Goffa John Edwards gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru yn 1983. Trasiedi oedd iddo ddioddef salwch difrifol ym Medi 1979 ac ni chyfansoddodd fawr ddim o bwys wedi hynny. Priododd
  • THOMAS, MICAH (1778 - 1853), gweinidog ac athro gyda'r Bedyddwyr Ganwyd 19 Chwefror 1778 yn Whitson yn sir Fynwy, yn fab i ffermwr a oedd yn aelod o eglwys Annibynnol New Inn. Symudodd ei rieni i Langybi (Llangibby), a bu yntau dan addysg yn Nhre-rhedyn ac wedyn yn y Trosnant, Pontypŵl. Ymunodd â Bedyddwyr Penygarn; dechreuodd bregethu yn 1796; aeth i academi'r Bedyddwyr ym Mryste yn Chwefror 1801; ac urddwyd ef yn Ryeford (sir Henffordd), 19 Medi 1802. Yn
  • THOMAS, OWEN (1812 - 1891), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur Penmount, Pwllheli; ordeiniwyd ym Medi 1844. Symudodd i'r Drefnewydd i ofalaeth Saesneg, yn 1846, ac yn niwedd 1851 derbyniodd alwad i fod yn weinidog eglwys Jewin Crescent, Llundain. Ar 24 Ionawr 1860 priododd Ellen (a fu farw 1867), merch ieuengaf y Parch. William Roberts, Amlwch (1784 - 1864). Yn 1865 symudodd i Lerpwl, yn gyntaf i Nether field Road, ac yn 1871 i eglwys Princes Road. Bu'n llywydd
  • THOMAS, Syr PERCY EDWARD (1883 - 1969), pensaer ac ymgynghorwr ar gynllunio Ganwyd yn South Shields, 13 Medi 1883, yn drydydd mab a phumed plentyn Christmas a Cecilia (ganwyd Thornton) Thomas. Mab fferm o ardal Arberth, Penfro, a aethai i'r môr oedd y tad, ac erbyn geni Percy Edward yr oedd yn gapten ar long hwyliau. Hanai'r fam o Wedmore, Gwlad-yr-Haf. Pan oedd y bachgen yn ddeg oed symudodd y teulu i Gaerdydd, lle'r oedd y fasnach allforio glo lewyrchus yn atyniad i
  • THOMAS, RICHARD (1871 - 1950), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur Ganwyd 8 Medi 1871 yn Llangefni, Môn. O adran coleg y Bala aeth i goleg y Brifysgol, Bangor, a graddio yn 1901. Wedi cwrs yng ngholeg diwinyddol y Bala, ordeiniwyd ef yn 1904, ac aeth yn weinidog ar eglwysi'r Bont-newydd a Phen-y-graig yn Arfon, lle'r arhosodd am agos 30 mlynedd. Bu'n ysgrifennydd Bwrdd Rheolwyr Cartref Bont-newydd i blant amddifaid o 1904 hyd 1945, ac yn un o'i lywodraethwyr hyd
  • THOMAS, RICHARD (1838 - 1916), diwydiannwr (1895), Cwmfelin (1896), Llanelli a Burry Port (1898), Cwmbwrla (1898), a mannau eraill (1902-8). O'i wraig Ann (Loveluck) - a briododd yn 1859, cafodd bum mab a dwy ferch. Ni chymerodd fawr o ran yn y bywyd cyhoeddus, ond rhoes yn hael at ysbytai yn Llanelli, Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Ross, a Lydney. Troes ei feibion, ym Medi 1918, y ffyrm yn gwmni cyhoeddus; daliodd hwnnw i lwyddo ac yn 1935
  • THOMAS, ROBERT (Ap Vychan; 1809 - 1880), gweinidog ac athro diwinyddiaeth gyda'r Annibynwyr, bardd a llenor aelod o Gymdeithas Cymreigyddion Llanuwchllyn ar bwys y medr hwn. Ar 1 Mawrth 1826, rhoes Michael Jones gymorth iddo o gymynrodd y Dr. Daniel Williams i fechgyn tlawd ddysgu crefft ac aeth at Seimon Jones i efail y Lôn yn brentis gof. Ar derfyn ei gwrs yno bu chwe mis yn Nhŷ'n Cefn, ger Corwen, ac ym Medi 1829 troes ei wyneb tua'r De a bu'n gweithio yn Nhredegar a Dowlais, ond dychwelodd y flwyddyn
  • THOMAS, ROBERT DAVID (Iorthryn Gwynedd; 1817 - 1888), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn Llanrwst 17 Medi 1817. Dechreuodd bregethu yn 1838 a dangosodd yn fuan duedd at lenora a barddoni. Aeth am dymor i ysgol yn Rhydychen a gedwid gan Eleazer Jones, mab y Dr. Arthur Jones. Cafodd alwad i fugeilio eglwys Penarth, Maldwyn, a'i changhennau, ac urddwyd ef yno 25 Mai 1843. Yn ystod ei weinidogaeth codwyd capel Canaan ac ailadeiladwyd capel Penarth, a bu â rhan amlwg yn sefydlu
  • THOMAS, ROBERT JERMAIN (1840 - 1866), cenhadwr ac arloesydd dan Gymdeithas Genhadol Llundain Ganwyd 7 Medi 1840 yn Rhaeadr Gwy, lle'r oedd ei dad yn weinidog gyda'r Annibynwyr, cyn symud i Hanover, Mynwy. Bu am dymor yn athro ysgol yn Oundle, ac oddi yno yn 1856 ymaelododd ym Mhrifysgol Llundain. Fe'i cynigiodd ei hun i'r maes cenhadol, a bu'n efrydydd yn y Coleg Newydd, Llundain, gan raddio yn y Brifysgol (B.A.). Ordeiniwyd ef yn 1863, a hwyliodd i'w faes yn Shanghai. Ymwelodd â Chorea