Search results

529 - 540 of 572 for "Morgan"

529 - 540 of 572 for "Morgan"

  • WILLIAM, THOMAS (1761 - 1844), gweinidog Annibynnol ac emynydd Morgan John Lewis, a chodwyd capel Bethesda, Llanilltud Fawr, ganddo ef a'i braidd yn 1806. Derbyniwyd yr eglwys gan gymanfa'r Annibynwyr yn 1814 a bu yntau yn weinidog arni weddill ei oes. Priododd yn 1790 â Jane Morgan o'r Brewis, a buont yn byw yn Ffonmon ac yn Nhrefflemin yn ddiweddarach. Bu farw 23 Tachwedd 1844, a chladdwyd ef wrth fur Bethesda'r Fro. Y mae ei safle fel emynydd yn sicr, a chenir
  • WILLIAM, THOMAS (1697 - 1778) Mynydd-bach, gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac awdur Gwaedd Ynghymru yn wyneb pob Cydwybod, ynghyd a Llythur ir Cymru Cariadus o waith Morgan Llwyd, Dammegion Iesu Grist ar Gan, 1761, o waith ei gydymaith Joseph John, ac yn 1771 gyfieithiad Henry Evans o'r Bedwellty o Cynghorion Tad i'w Fab. Wedi bod yn ŵr ei ddeheulaw i John Harries dros gyfnod ei weinidogaeth yn y Mynydd-bach (1724-1748), ordeiniwyd ef yn weinidog ar yr eglwys yn 1757, a llafuriodd yn
  • WILLIAMS family Aberpergwm, Glyn Nedd Hanoedd y teulu hwn o Forgan Fychan, ail fab Morgan Gam, a chysylltir ef yn ei gyfnod bore â Blaen Baglan; canodd beirdd o fri (gweler D. R. Phillips) i aelodau ohono yn yr Oesoedd Canol. Sefydlogwyd y cyfenw arno gan ddisgynyddion William ap Jenkin ap Hopkin o Flaen Baglan; ei ail fab ef, Jenkin William, oedd y cyntaf i ymsefydlu yn Aberpergwm, tua 1500. Ni chododd neb nodedig iawn o'r teulu o
  • WILLIAMS, ABRAHAM (Bardd Du Eryri; 1755 - 1828) Ganwyd yn Cwmglas Mawr, Llanberis. Rhoes ei dad, Thomas Williams, ef yn ysgol John Morgan, curad Llanberis, am gyfnod; yr oedd 'Dafydd Ddu Eryri' yno yr un pryd. Bu dau gurad arall cyn hynny yn Llanberis yn ieuenctid Abraham Williams, sef Dafydd Ellis ('Person Criceth ' wedi hynny), a fu yno o 1764 i 1767, ac Evan Evans ('Ieuan Brydydd Hir'), a fu yno am ran o'r flwyddyn 1771. Trwyddynt hwy y
  • WILLIAMS, ABRAHAM (1720 - 1783), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn 1720 ym mhlwyf Pant-teg, sir Fynwy - efallai ym Mhontyfelin, lle y ganwyd ei frawd William (isod). Yr oedd yn gerddor, a byddai'n teithio i hyfforddi mewn canu salmau. Tebyg mai Morgan John Lewis a'i dug at grefydd; dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid, a chydnabuwyd ef fel cynghorwr gan y sasiwn yn Nhrefeca yn 1744. Pan droes seiat y New Inn yn eglwys Annibynnol daeth yntau'n
  • WILLIAMS, CHARLES (1633 - 1720), cymwynaswr Bu mor anffodus a lladd cefnder iddo (Morgan o Benrhos) mewn gornest, â gorfu iddo ffoi o'r wlad. Aeth i Smyrna, a throi at fasnach yno ac mewn gwledydd eraill, megis Rwsia, a chasglodd gyfoeth dirfawr. Llwyddodd John Hanbury o Bont-y-pŵl (gweler dan ' Hanbury ') i rwyddhau'r ffordd iddo i ddychwelyd i Brydain, yn nheyrnasiad William III, ond ymddengys iddo drigiannu yn Llundain, heb dynnu sylw
  • WILLIAMS, DAVID (1709 - 1784), gweinidog gyda'r Annibynwyr lawn iddi - yno yr addysgwyd Thomas Morgan ' Henllan ' a Morgan John Rhys, a hefyd David Williams (1738 - 1816); y mae tuedd i gymysgu'r ddau ' David Williams, Watford.' Bu farw'r gweinidog 5 Ebrill 1784, yn 75 oed, a chladdwyd ym mynwent ei gapel. Tystia pawb ei fod yn fawr iawn ei barch ar hyd ei fywyd. Olynwyd ef (yn Watford a Chaerdydd) gan ei fab THOMAS WILLIAMS, a oedd am dair blynedd cyn
  • WILLIAMS, DAVID (1717 - 1792), gweinidog Annibynnol Methodistaidd dull ag ordeiniad Morgan John Lewis a Thomas William. Bu hynny ond odid yn ystod blynyddoedd yr ymraniad Methodistaidd. Cadwodd ei gyswllt â'r Methodistiaid, er hynny; mynychai'r sasiynau a'r seiadau, a phregethai 'n gyson ymhlith y Methodistiaid. Cafodd drafferth yn Aberthyn gan Antinomiaeth, Sandemaniaeth, a Sabeliaeth yn eu tro. Bu farw 5 Mai 1792 ' yn 75 oed, ac ef oedd y cyntaf i'w gladdu gan
  • WILLIAMS, DAVID (Alaw Goch; 1809 - 1863), perchennog pyllau glo ac eisteddfodwr storm) y pafiliwn a godasid ar gyfer yr eisteddfod. Priododd ' Alaw Goch,' 3 Awst 1837, yn eglwys S. Ioan, Aberdâr, ag Ann Morgan, chwaer William Morgan (1819 - 1878), a bu eu cartref ar y cychwyn, sef Ynyscynon, Aberdâr, yn gyrchfan beirdd a llenorion. Yno y ganwyd eu mab, y barnwr Gwilym Williams. Bu farw ym Mhenybont-ar-Ogwr, 28 Chwefror 1863, a chladdwyd ef yng nghladdfa gyhoeddus Aberdâr.
  • WILLIAMS, DAVID JAMES (1897 - 1972), gwleidydd Llafur Ganwyd ef ar Wauncaegurwen ar 3 Chwefror 1897, yn fab i Morgan Williams, glöwr, a Margaretta Jones. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Gwauncaegurwen, dechreuodd weithio mewn pwll glo ym 1911, a bu wedyn yn fyfyriwr yn y Coleg Llafur Canolog yn Llundain, sefydliad Marcsaidd, 1919-21. Bu yn ddi-waith am gyfnod cyn treulio'r flwyddyn 1922-23 yng Ngholeg Ruskin, Rhydychen. Cyhoeddodd y gyfrol bwysig
  • WILLIAMS, DAVID PRYSE (Brythonydd; 1878 - 1952), gweinidog (B), llenor, a hanesydd ), mab plas y Bronwydd yn Llangunllo, rheithor Troed-yr-aur, a'i gymydog helyntus o Annibynnwr Thomas Cynfelyn Benjamin (1850 - 1925), Pen-y-graig, y bu D. P. W. â rhan yn y gwaith o godi carreg fedd iddo ym mynwent Llethr-ddu, Trealaw. Priododd, 1 Hydref 1941, yn y Tabernacl, Caerdydd, ag aelod o'i eglwys, Annie Lydia, unig ferch David a Jane Morgan, Cedrwydd, Treherbert, dirprwy brifathrawes Ysgol
  • WILLIAMS, DAVID REES (BARWN 1af OGMORE), (1903 - 1976), gwleidydd a chyfreithiwr Arglwydd Ogmore yn bendant, ac yr oedd yn weithiwr caled. Trwy gydol ei yrfa yr oedd ynghlwm â chymdeithasau a phwyllgorau'n delio gydag amrywiaeth o bynciau. Ar 30 Gorffennaf 1930, priododd Alice Alexandra Constance Wills, merch Walter Robert Wills, Arglwydd Faer Caerdydd 1945-46. Bu iddynt dri o blant: Gwilym Rees, Joan Elizabeth a Morgan Rees. Bu'r Arglwydd Ogmore farw yn Ysbyty Westminster ar 30 Awst