Search results

37 - 48 of 362 for "Gwilym"

37 - 48 of 362 for "Gwilym"

  • DAVIES, MORRIS (1796 - 1876), llenor, awdurdod ar emynyddiaeth, a cherddor Ganwyd Hydref 1796 (bedyddiwyd 19 Hydref) ym Mhennant-igi (' Pennant Igillt,' yn ôl cofnod yn 1761) Uchaf, Mallwyd, yn fab i dyddynnwr â'i dras o Ffestiniog. Cafodd ei addysg gyntaf mewn ysgolion ysbeidiol yn Ninas Mawddwy a Mallwyd, ac yn yr ysgol Sul. Ni hoffai waith y fferm, ac yn 1819 (gan fwriadu mynd yn ysgolfeistr) aeth i ysgol William Owen ('Gwilym Glan Hafren'), yn y Trallwng, am chwe
  • DAVIES, TOM EIRUG (Eirug; 1892 - 1951), gweinidog (A), llenor a bardd . Cyfeiriodd y Prifathro Thomas Rees ato fel 'un o'i fyfyrwyr disgleiriaf'. Derbyniodd radd M.A. yn 1931 am draethawd ar gyfraniad Gwilym Hiraethog i fywyd a llên ei gyfnod. Bu'n weinidog ar eglwysi Cwmllynfell, 1919-26, a Soar, Llanbedr Pont Steffan a Bethel, Parc-y-rhos, 1926-51. Cynhaliodd ddosbarthiadau tan adran allanol y Brifysgol a dôi amryw ato i'w dŷ (yng Nghwmllynfell yn arbennig) i'w paratoi at
  • DAVIES, WALTER (Gwallter Mechain; 1761 - 1849), offeiriad, bardd, hynafiaethydd, a beirniad , 'Tegid'). Cyhoeddodd hefyd, 1827, adargraffiad o drosiad mydryddol William Middleton ('Gwilym Canoldref') o'r Salmau. Yr oedd 'Gwallter Mechain' yn wr o ddiddordeb eang anghyffredin. Astudiodd bynciau meddygol, seryddiaeth, llenyddiaeth hen a diweddar, ynghyd a llenyddiaeth gyfoes y Saeson. Chwiliodd achau teuluoedd pendefigaidd fel yr Herbertiaid, a rhoes wasanaeth gwerthfawr i'r eisteddfod a'r
  • DAVIES, WILLIAM (d. 1593), cenhadwr dros grefydd Eglwys Rufain a merthyr o dan nawdd Robert ap Hugh (neu Pugh), Penrhyn Creuddyn, ac yn cynnal eu cyrddau mewn ogof yng nghreigiau glan y môr Rhiwledin adeg yr erlid a gychwynnwyd yn 1586 gan ail iarll Penfro pan oedd yn llywydd Cyngor Goror Cymru. Dywedir i'r cenhadwr ddwyn gydag ef gopi o Drych Cristianogawl Gruffydd Robert a ailargraffwyd yn Rhiwledyn. Efe, y mae'n debyg, ydyw'r ' Syr William ' y dywed Gwilym Pue, wyr
  • DAVIES, WILLIAM (Gwilym Teilo; 1831 - 1892), llenor, bardd a hanesydd lawer i gyfnodolion ei oes; ymddangosodd nofel o'i waith yn Y Byd Cymreig, 1862. Cyhoeddodd ei Llandilo-Vawr and its Neighbourhood, 1858, a'r Traethawd ar Caio a'i Hynafiaethau, 1862. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Gweithiau Gwilym Teilo, o dan olygiaeth y Parch. Peter Hughes Griffiths. Bu farw yn Llandeilo 3 Hydref 1892, a chladdwyd ef yno.
  • DAVIES, WILLIAM (1874 - 1949), hanesydd lleol 19 Mehefin 1949. Ysgrifennodd lawer o ysgrifau i Cymru (O.M.E.), Yr Haul, Lleufer, Y Ford Gron, Heddiw, Y Dysgedydd, a Bathafarn. Rhoes help hefyd i Bodfan Anwyl gyda phumed argraffiad geiriadur Spurrell. Eithr ei waith pennaf oedd Hanes Plwyf Llanegryn, a gyhoeddwyd yn 1948. Priododd Mary Matilda Roberts (1888-1974), a chawsant un ferch, Mairwen (1922-2004), ac un mab, Gwilym Prys Davies (1923
  • DONNELLY, DESMOND LOUIS (1920 - 1974), gwleidydd ac awdur diwedd, ym mis Chwefror 1950, cipiodd etholaeth sir Benfro o 129 o bleidleisiau'n unig oddi wrth yr AS 'Rhyddfrydol' Gwilym Lloyd-George. Roedd Donnelly wedi llwyddo i fanteisio ar deimladau radicalaidd o fewn yr etholaeth hynod ymylol hon ac ar anghymeradwyaeth Rhyddfrydwyr lleol ynghylch perthynas gor-agos Lloyd-George â'r Blaid Geidwadol. Adeiladodd Donnelly ddilyniant personol sylweddol o fewn yr
  • DWNN, GRUFFYDD (c. 1500 - c. 1570), gŵr bonheddig Yr enwocaf o Ddwniaid Sir Gaerfyrddin a'r cyntaf i fyw yn Ystrad Merthyr, ger Cydweli, plasty a godwyd yn 1518. Priododd ddwywaith, a bu iddo wyth o blant, yr hynaf ohonynt yn 11 oed yn 1533. Ond gwelodd ddryllio ei deulu gan heintiau mynych y cyfnod. Canodd beirdd fel Syr Owain ap Gwilym, Harri ap Rhys ap Gwilym, Tomas Fychan, William Llŷn, Gruffudd Hiraethog, Owain Gwynedd, etc., iddo ef, a'i
  • EDDOWES, JOSHUA (1724 - 1811), argraffydd a gwerthwr llyfrau , 1768). Argraffodd Joshua Eddowes amryw o almanaciau Gwilym Howel hefyd. Enw ei wraig, a briododd 13 Medi 1753, oedd Lydia, merch William Phillips. Ceir ychwaneg o fanylion am William Eddowes, y mab, yn yr erthygl gan Ll. C. Lloyd a enwir isod.
  • EDNYFED FYCHAN Trecastell, Erddreiniog, a hanner Penmynydd ym Môn a ' Gavell Gron ap Eden ' (a gynhwysai gnewyllyn ystad y Penrhyn wedi hynny) a hanner ' Gavell Kennyn ' yn Crewyrion yn Sir Gaernarfon, ynghyd â'r tiroedd yng Ngheredigion a enwyd uchod. Disgynnodd eu tiroedd ym Môn a Sir Gaernarfon i feibion Tudur - GORONWY PENMYNYDD (bu farw 1382), EDNYFED TRECASTELL (bu farw c. 1382), RHYS ERDDREINIOG, GWILYM CLORACH, a
  • EDWARDS, FANNY WINIFRED (1876 - 1959), athrawes, llenor plant a dramodydd Ganwyd 21 Chwefror 1876 ym Mhenrhyndeudraeth, Meirionnydd, yn chwaer i'r bardd Gwilym Deudraeth a'r ieuengaf o'r deuddeg plentyn a aned i William Edwards, master mariner, a'i wraig Jane (ganwyd Roberts). Addysgwyd hi yn ysgol elfennol Penrhyndeudraeth lle y bu wedyn fel disgybl-athrawes ac yna'n athrawes hyd nes iddi ymddeol fis Rhagfyr 1944 ar ôl cyfnod o dros hanner canrif o wasanaeth
  • EDWARDS, GRIFFITH (Gutyn Padarn; 1812 - 1893), offeiriad, bardd, a hynafiaethydd Ganwyd yn Llanberis 1 Medi 1812, mab William Edwards ('Gwilym Padarn'). Ni chafodd ond addysg elfennol yn ei ieuenctid, ond dysgodd yr ieithoedd clasurol gyda Peter Bayly Williams, rheithor Llanrug. Graddiodd yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, yn 1843, a chymerodd radd M.A. yn 1846. Yn 1843 urddwyd ef i'r weinidogaeth, a'i benodi'n gurad Llangollen. Yn 1846 penodwyd ef yn gurad parhaol Minera, ac yn